top of page

Cyfranogaeth ystyrlon o blant a phobl ifanc i benderfyniadau yn ymwneud a'u gofal

Pam cyfranogaeth?

Cyflwynodd Dr. Clive Diaz y webinar a gosododd yr amcanion:

  • I ystyried beth rydym ni'n meddwl gan gyfranogaeth plant

  • I adborth darganfyddiadau o ymchwil gyda phlant a phobl broffesiynol

  • I drafod heriau a galluogwyr i sicrhau cyfleoedd ar gyfer cyfranogaeth ystyrlon plant a phobl ifanc

  • I ystyried sut medrwn ni wella ymarfer ynglŷn â chyfranogaeth plant

Cychwynnodd Clive gan cyflwyno'r ysgol o gyfranogaeth, yn wreiddiol gan Sherry Arnstein (1969) a wedi categoreiddio gan Roger Hart.

Hefyd drafododd Clive y 'wal dringo' o gyfranogaeth (Thomas 2002) sydd yn cynnwys awtomiaeth, dewis, rheolaeth, gwybodaeth, cymorth a llais. Mae cyfranogaeth plant yn bwysig oherwydd mae'n gwella hyder, hunan-effeitholrwydd a hunanwerth (Dickens et al. 2015). Mae hefyd yn gydnabyddiaeth o'u hawliau sifil (Schofield & Thoburn 1996).

Cyfranogaeth plant mewn cyfarfodydd teulu a phroffesiynol: Darganfyddiadau Adroddiad Realaidd

Cyflwynodd Lorna Stabler a Dr Chloe O’Donnell o CASCADE ar y gwaith arolwg diweddar sy'n cael ei wneud ar gyfranogaeth plant mewn cyfarfodydd teulu a phroffesiynol.

Ystyriodd y cyflwyniad darganfyddiadau o arolwg realaidd o dystiolaeth, yn amlygu beth sydd angen digwydd cyn ac yn ystod cyfarfod, ac yna'r canlyniadau positif posib ar ôl cyfranogaeth ystyrlon. Hefyd ystyriodd yr arolwg yr amodau sydd angen bodoli cyn cyfarfod yn ogystal â sut mae'n bosib corffori'r lleisiau o blant a phobl ifanc sydd ddim yn mynychu.

Prosiect Ymchwil

Drafododd Dr. Clive Diaz o CASCADE prosiect ymchwil roedd yn ymwneud gyda, a gyfwelodd 10 person ifanc, 11 gweithiwr cymdeithasol, 8 swyddog adolygu annibynnol a 7 rheolwr hyn i gasglu eu barnau o gyfranogaeth plant.

Y prif rwystrau yn yr ymchwil wedi amlygu oedd, trosiant uchel o staff, llwythi achosion uchel, gweithlu dibrofiad, dadbersonoli, diffyg dealltwriaeth a hyfforddiant yn gyfranogaeth. Safon y perthnasoedd rhwng y plentyn a'r bobl broffesiynol, ynghyd a phobl ifanc yn cadeirio cyfarfodydd eu hun oedd y prif alluogwyr i gyfranogaeth ystyrlon.

Darganfyddid yr ymchwil bod yna gwahaniaeth mawr rhwng yr atebion gan weithwyr cymdeithasol neu swyddogion adolygu annibynnol a'r rhai gan reolwyr hyn am lwythi achosion, a'r ddealltwriaeth am ystyr 'cyfranogaeth'.

Gorffennodd prosiect ymchwil Clive gydag awgrymiadau megis:

  • Adolygu llwythi achosion ar gyfer swyddogion adolygu annibynnol a gweithwyr cymdeithasol

  • Pobl ifanc i dderbyn hyfforddiant ar gadeirio cyfarfodydd eu hun

  • Rheolwyr hyn i dreulio amser yn cysgodi gweithwyr cymdeithasol pob blwyddyn

  • Gwell defnydd o IT

  • Edrych ar adolygon fel profiad pleserus ar gyfer pobl ifanc a dathlu llwyddiannau, efallai mwy fel cynhadledd Grŵp Teulu.

I wylio'r webinar, pwyswch yma

I lawr lwytho'r Pwyn Pŵer, pwyswch yma

Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags
No tags yet.
    bottom of page