top of page

Pobl Proffesiynol yn Torri'r Tawelwch: Cefnogi pobl proffesiynol i ymateb i datguddiadau plant o

Ar y 26ain o Fawrth, hwyluswyd NSPCC Cymru gweithdy ymarferydd ar 'Pobl Broffesiynol yn Torri'r Tawelwch: Cefnogi pobl broffesiynol i ymateb i ddatguddiadau plant o gamdriniaeth'.Maen nhw'n lansio ei hadnodd amddiffyniad 'Rhoi gwybod i blant eich bod yn gwrando' ar gyfer pobl broffesiynol, er mwyn ceisio dangos i blant a phobl ifanc eich bod yn barod i wrando pan maen nhw eisiau siarad.

Cychwynnodd y gweithdy gan amlinellu datguddiadau plant. Anogwyd myfyrwyr i roi eu hunain yn esgidiau'r person proffesiynol sy'n delio gyda datguddiad tawel yn y fideo. Sut bydden nhw'n teimlo?

  • "Pryderus"

  • "Ydy hyn fy swydd i?"

  • "Wedi dychryn neu'n pryderu am ddiffyg hyfforddiant"

  • "Ofn cael hi'n anghywir"

  • "Pryderus am agor 'can of worms'"

Yna, gofynnwyd i'r grŵp i ddangos pa mor hyderus roedden nhw'n teimlo wrth yn delio gyda datguddiadau o gamdriniaeth.

Ystyriaethau a thrafodaeth am beth sydd yn neu gall gwneud i'r grŵp teimlo'n fwy hyderus:

"Canllawiau clir am y gyfraith ac arweiniad ar sut i ddelio gyda datguddiadau"

"Teimlo'n hyderus am y broses sydd i ddod"

"Digon o gymorth yn y gweithle"

"Rhwydwaith cymorth proffesiynol"

"Cymryd amser i ystyried ymarfer er mwyn gwella"

"Cael yr amser i wneud y gwaith yn gywir"

"Goruchwyliaeth dda"

"Adnabyddiaeth o iaith ddiweddar mae pobl ifanc a phlant yn defnyddio"

"Hyderus yn erbyn cymwys"

"Hyfforddiant, chwarae rôl neu efelychiad o'r holl broses"

Amlygodd y tîm NSPCC Cymru bod yna sawl ffordd o ddiffinio beth maent yn galw 'datguddiad'. Mae diffiniad nhw'n cynnwys yr holl ffyrdd byddai plentyn am ddechrau rhannu ei brofiad gydag eraill. Gall hyn fod naill ai'n ferfol neu'n ddi-berfol a gallwch ei ystyried yn fwy fel taith ac nid fel un digwyddiad. Mae datguddiadau yn gallu bod yn gymhleth ac yn dameidiog ac nid bob amser ar lafar. Gall datguddiadau digwydd trwy ymddygiad y plentyn. Yn olaf, nad yw datguddio bob amser yn arwain at 'honiad' o gamdriniaeth.

Mae rhai darganfyddiadau allweddol o ymchwil blaenorol yn cynnwys:

  • Mae llawer o blant yn oedi datguddio camdriniaeth, ar gyfartaledd 7.8 blwyddyn

  • Mae rhwystrau i ddatguddio camdriniaeth yn cynnwys: Arwahaniad, Cysylltiad emosiynol i'r tramgwyddwr, Ofn/pryder am y canlyniadau, Diffyg dealltwriaeth am ddiffiniad camdriniaeth a Neb yn gwrando ar neu ofyn i'r plentyn am gamdriniaeth

  • Mae pobl ifanc yn aml yn siarad allan er mwyn amddiffyn brodyr a chwiorydd iau rhag dioddef yr un gamdriniaeth.

  • Mae ffrindiau, mamau ac athrawon y mwyaf tebygol i wynebu'r datguddiadau o gamdriniaeth gyntaf wrth bobl ifanc

  • Ar gyfartaledd, adroddwyd 90% o bobl ifanc o brofiadau wedi cymysgu neu negyddol ar ôl datguddio camdriniaeth. Dim ond 10% sy'n adrodd cael taith gadarnhaol

  • Dwedodd pobl ifanc wrth NSPCC Cymru "Rhowch eich hun yn ein hesgidiau ni", "Peidiwch ddefnyddio iaith gorfforol negyddol" a "Gwrandewch ar beth sydd gennym i ddweud" yn ystod datguddiadau o gamdriniaeth

Nad oes llawer iawn o ymchwil sy'n edrych ar y broses o safbwynt y person proffesiynol. Dyma beth geisiodd NSPCC gwneud. Maen nhw wedi creu adnodd newydd "Rhoi gwybod i blant eich bod yn gwrando" sy'n ystyried datguddiadau o gamdriniaeth o safbwynt pobl broffesiynol.

Amlygodd tri mewnwelediad allweddol o'r prosiect y pwysigrwydd o sgiliau rhyngbersonol.

  1. Dangos eich sgiliau gwrando ar blant a phobl ifanc

  2. Cysuro'r plentyn a dangos empathi

  3. Rhoi plant/pobl ifanc mewn rheolaeth o'r drafodaeth

I gloi'r sesiwn, gofynnwyd i anfonogion i ganfod ffyrdd i ymgorffori'r canllawiau mewn i ymarfer, gan ddefnyddio platiau gwyrdd i greu awgrymiadau a phlatiau coch i ystyried y rhwystrau.

Roedd awgrymiadau o ffyrdd i ymgorffori'r canllawiau mewn i ymarfer yn cynnwys canolbwyntio ar y plentyn, cael adnoddau neu ardaloedd addas a rhannu ymarfer da.

Roedd awgrymiadau o heriau yn cynnwys yr awydd i lenwi gostegion anghyfforddus, amser a baich gwaith.

Diolchwn yn fawr i Sarah Whitcombe-Hayes a Cecile Gwilym o NSPCC Cymru am rannu eu gwaith gyda ni trwy'r gweithdy ymarferydd.

Mae'r cyflwyniad Pwynt Pŵer ar gael yma.

Mae'r ffilm 'Say Something' ar gael yma.

Mae mwy o adnoddau ar y pwnc ar gael ar y dolenni isod.

Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags
No tags yet.
    bottom of page