Sut allwn ni wella'r profiad o bobl ifanc digartref sy'n byw mewn llety â chefnogaeth?
Ar 21ain Mehefin (Caerdydd) a 26ain Mehefin (Bangor) croesawyd ExChange Natalie Roberts o Brifysgol Bangor i gyflwyno gweithdy ar brofiadau pobl ifanc digartref sy'n byw mewn llety â chefnogaeth. Cyflwynwyd darganfyddiadau o brosiect a wnaeth gweithio gydag elusen ddigartref wedi seilio yng Ngogledd Cymru, Digartref.
Mynychwyd ystod eang o bobl broffesiynol, gyda nifer ohonynt yn gweithio yn y sector tai cymdeithasol. Roeddem ni'n ffodus hefyd i gael presenoldeb nifer o'r bobl ifanc ac roedd yn gysylltiedig i'r prosiect ymchwil.
Amcanion y gweithdy oedd i:
Archwilio rhai o'r materion a rhwystrau mae pobl ifanc yn profi wrth yn byw mewn llety â chymorth.
Rhoi cyfle i ymarferydd i ystyried eu profiadau a chynnig datrysiadau addas.
Er mwyn rhoi cyd-destun i'r astudiaeth benodol, nodwyd rhai nodweddion craidd o lety â chymorth:
'Rhwyd diogelwch' - darparu llety dros dro i leihau'r peryg di-oed o ddigartrefedd
Tŷ wedi 'rhannu' - gyda phobl ifanc, yn aml rhwng yr oedrannau 16-25.
'Cymorth' - cymorth unigol wrth weithiwr allweddol gydag ardaloedd megis iechyd meddyliol, byw a sgiliau cymdeithasol.
Gweithgaredd grŵp: Gêm bwrdd - Beth fyddech chi'n blaenoriaethu os ydych chi'n dylunio rhaglen llety â chymorth?
Yn grwpiau bach, rhoddwyd £250,000 i fynychwyr (arian ffug!) er mwyn cyflafareddu dyraniad cyllid. Roedd pob sgwâr yn cynrychioli adnodd megis 'cwnsela', 'tocyn bws', 'gweithgareddau bach pob wythnos', 'sgiliau rheoli arian', 'CCTV' a 'phrofi cyffuriau'.
Ar y cyfan, dewiswyd mynychwyr ardaloedd ac roedd yn canolbwyntio ar y bobl ifanc ac wedi arwain gan anghenion e.e. gliniadur, gweithgareddau bach. Dewiswyd rhan fwyaf ohonynt nid i wario arian ar fwy nag un math o adnodd awdurdodaidd fel CCTV a phrofi cyffuriau. Er hyn, nodwyd rhai mynychwyr bod er gall y rhain cael ei ystyried yn oresgyniadau o breifatrwydd, efallai bydd eraill yn teimlo'n fwy diogel gyda rhain yn ei le.
Rhwystrau a materion
Yna symudodd y gweithdy ymlaen i ystyried y rhwystrau a materion wedi wynebu gan y rhai sydd yn llety â chymorth. Daeth pum parth i'r golwg o'r ymchwil.
Iechyd Meddyliol
Stigma
Maeth
Addysg
Cyflogaeth
1. Iechyd Meddyliol - 'Wedi gadael i lawr gan wasanaethau'
'Staff yn cymryd pob swydd' - Oherwydd toriadau mae yna ddibyniaeth ar staff hostel sydd heb hyfforddiant yn faterion iechyd meddwl. Cytunodd nifer o fynychwyr gyda hyn gan ddweud eu fod nhw'n 'gwneud eu gorau glas' wrth ddelio gydag anghenion iechyd meddyliol cymhleth.
Gwasanaethau Iechyd Meddyliol Plant a Phobl Ifanc dim yn effeithiol - cefnogwyd hyn gan fynychwyr a phobl ifanc.
Awtistiaeth - Nid yw hosteli wedi cyfarparu ar gyfer awtistiaeth (synau uchel/larymau/newidiadau yn rhigolaeth). Mae'r ymchwil ac ymwybyddiaeth prin yn gallu gwneud lletyau â chymorth yn llefydd trallodus iawn i berson ifanc gydag awtistiaeth.
2. Stigma
'Nid yn fy iard gefn' - Roedd yn aml gan gymunedau lleol rhagfarn o ddigartrefedd ac ofn cael llety â chymorth yn ei ardaloedd.
Landlordiaid yn gwrthod rhentu i bobl ifanc digartref
Stigma wrth ffrindiau - teimlo'n unig ac yn siomedig
3. Maeth
Mae adnoddau cyllid cyfyngedig a diffyg gwybodaeth maethiannol yn golygu bod nifer o bobol ifanc digartref yn bwyta bwyd safon isel.
Banciau bwyd: Gorfodwyd nifer o bobl i ymweld â banciau bwyd sydd prin yn darparu bwyd maethiannol ac yn bwydo'n bellach i mewn i'r stigmateiddio o bobl ifanc.
Mae canlyniadau iechyd o hyn yn effeithio’r tymor byr (iselder, blinder, ffwythiant gwybyddol cyfyngedig) a thymor hir (gordewdra, clefyd calon, cancr).
4. Cyflogaeth - 'Gwrthddywediad yn y system - Swydd neu dŷ?'
Oherwydd y system tai budd-dal, yn aml gorfodwyd pobl ifanc i wneud dewis rhwng cael cyflogaeth neu aros mewn llety â chymorth.
Hefyd trafodwyd y mynychwyr rhwystrau systematig eraill sydd yn aml yn cael ei gymryd yn ganiataol. Er enghraifft, os mae person ifanc am geisio am swydd, maen nhw'n aml yn llai tebygol o gael ei ystyried os ydyn nhw'n rhoi lawr ei chyfeiriad hostel. O ganlyniad maen nhw naill ai'n colli'r cyfle neu angen darganfod cyfeiriad arallddewis wrth aelod o'i theulu neu ffrind.
5. Addysg
Nad yw athrawon yn aml yn holl ymwybodol am ddigartrefedd ieuenctid a'r materion wedi wynebu gan y rhai sy'n byw mewn llety â chymorth.
Amgylchedd hostel - yn aml ddim yn ffafriol i ddysgu:
Dyfodiad i adnoddau yn brin, Wi-Fi gwael
Tynnu sylw, yn aml yn swnllyd
Anawsterau trafnidiaeth yn enwedig mewn ardaloedd gwledig
Dim yn gallu fforddio teithiau ysgol, adnoddau addysgiadol - teimlad o unigolrwydd a gwahardd
Datrysiadau: Rhai o'r nifer o ddatrysiadau wrth yr ymchwil a mynychwyr
1. Iechyd Meddyliol
Carden felen - darparu ciw tawel i wneud staff hostel yn ymwybodol bod chi ddim yn iawn - helpu gydag ymestyn allan pan mae siarad yn teimlo'n chwithig.
2. Stigma
Mae o waith allanol mewn cymuned ac ysgolion i gynyddu ymwybyddiaeth a herio stigma.
Mynychwyr: Addysgu'r rhai sydd yn 'ofn' digartrefedd ieuenctid e.e. Landlordiaid
3. Maeth
Sesiynau siopa a choginio wythnosol
Mynychwyr: Pecyn cymorth ar-lein sy'n rhoi'r holl wybodaeth yn un lle. E.e. APPs megis 'Too Good To Go' sydd yn helpu dosbarthu a defnyddio bwyd a fydd os amgen yn cael ei wastraffu.
4. Cyflogaeth
Ond yn gorfod talu am yr elfen 'rhent' (nid cymorth) os mae ganddyn nhw gyflogaeth - dull teg, a fydd yn galluogi person ifanc i gael cymorth wrth yn sicrhau sefydlogrwydd yn ei swydd newydd.
Mynychwyr: Adeg trawsnewid o 6-12 mis ar gyfer rhai sydd yn symud ymlaen - galluogi nhw i ennill annibyniaeth a sefydlogrwydd yn ei llety newydd sydd yn gallu bod yn brofiad llethol.
5. Addysg
Addysgu athrawon: elusennau digartref/hosteli yn adeiladu cysylltiadau gydag ysgolion
Cynigiad - corfforiad o fodiwl 'cefnogi digartrefedd' mewn hyfforddiant athrawon
Mae nifer o ddatrysiadau defnyddiol a chreadigol iawn o'r prosiect ymchwil wedi darparu yn y sleidiau Pwynt Pŵer.
Buddion llety â chymorth
Er gwaethaf y rhwystrau, mae'n bwysig i adnabyddi’r buddiannau o lety â chymorth a'r swydd allweddol sydd ganddo:
Dyfodiad i gymorth a chyfle i ddatblygu sgiliau
Cymdeithasu/Lleihau arwahaniad: ffrindiau newydd, medru creu perthnasoedd cadarnhaol gyda staff (sydd o gwmpas yn gyson)
Sefydlogrwydd a theimlad o 'gartref'
Gorffennodd y diwrnod gyda sesiwn Q&A cyflym gyda'r bobl ifanc lle'r oedd ganddyn nhw'r cyfle i rannu eu profiadau.
Meddyliau Terfynol
Mae angen rhoi sylw i'r rhwystrau sydd yn cael ei wynebu gan bobl ifanc mewn llety â chymorth er mwyn iddynt gael dyfodiad cyfartal i lety, cyflogaeth, addysg ac iechyd meddyliol - na allwn ni parhau i orfodi nhw i ddewis. Mae gan ffactorau allanol llawer o'r bai gyda chyfyngiadau ariannol yn gwaethygu'r problemau a gwahaniaethu systematig a stigma yn gwadu pobl ifanc o'r cyfleoedd maen nhe'n haeddu.
I WELD Y PWYNT PŴER GWASGWCH YMA
Diolch yn fawr i Natalie Roberts o Brifysgol Bangor a'r bobl ifanc am rannu eu gwaith gyda ni yn y gweithdy ymarferydd yma.