top of page

Pwrpas ac Asiantaeth yn Addysgu

Ym mis Chwefror 2015, rhyddhaodd y Llywodraeth Cymraeg Ddyfodol Lwyddiannus (Successful Futures), sef "arolwg annibynnol o drefniadau cwricwlwm ac asesu yng Nghymru". Roedd yna nifer o awgrymiadau yn yr arolwg, ac yng nghalon yr awgrymiadau yma oedd galwad am y datblygiad o fframwaith cwricwlwm cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru.

Ymgymerwyd datblygiad y fframwaith gan ysgolion a ddewiswyd yn arbennig o'r enw "Ysgolion Arloeswr" ac mae wedi trefnu o gwmpas y parabl o sybsidiaredd ar y cyfan. Yn y cyd-destun yma, mae sybsidiaredd yn golygu'r dewisiadau sy'n cael ei wneud at y lefel briodol o gyfrifoldeb ac ymrwymiad. Darparwyd amser ac adnoddau i athrawon o'r ysgolion yma i ymrwymo gyda'i gilydd mewn trafodaethau am y "datganiadau beth sy'n bwysig" (gwybodaeth gyfyngedig i gynnwys cwricwlwm), camau dilyniant (sut mae pobl ifanc yn gwella trwy eu profiad ysgol), a dangosyddion o asesu (datganiadau Rydw I'n gallu ac Mae gen I, dangos pethau mae pobl ifanc "wedi gwneud" ac yn "gallu gwneud"). Mae'r Llywodraeth Cymraeg yn dadlau bod ysbryd sybsidiaredd yn cael ei gweini trwy'r model Arloeswr a fydd yn parhau i fod yn egwyddor drefniadol pan mae'r fframwaith cwricwlwm yn cael ei fabwysiadu a gweithredu gan ysgolion.

Un o agweddau mwyaf cynhennus y fframwaith yw'r disgwyliad bydd ysgolion yn datblygu cwricwla "lleol" ar gyfer eu myfyrwyr a'r cymunedau maen nhw'n gwasanaethu. Dan y nawdd o sybsidiaredd, disgwylir i athrawon ymrwymo mewn gweithgareddau cwricwlwm a chyfarwyddyd fel asiantaethau addysgeg wedi ymrwymo ym mhob agwedd o addysgu - cynllunio, perfformio, gwerthuso, ystyried a gwella eu hymarfer. Felly, mae asiantaeth wedi dod yn bryder addysgol pwysig yng Nghymru. Yn ôl Biesta a Tedder (2006), asiantaeth yw gallu athro/athrawes i "siapi eu hymatebion i sefyllfaoedd amheus ym meirniadol" a does yna lawer o sefyllfaoedd yn llai amheus na thrafodaethau cwricwlwm. Fodd bynnag, nid asiantaeth yw'r gallu i siapi ymatebion ym meirniadol yn unig, mae hefyd yn cynnwys amcanion o "pwrpas", "effeithiolrwydd" ac "awtomiaeth". Yn fyr, mae asiantaeth athro/athrawes wedi croestorri gan nifer o ffactorau - moesau, credau, blaenoriaethau, gweithgareddau, perthnasoedd, ac amgylchedd (i enwau ond ychydig) (Biesta et al, 2014). Mae'n bwnc cymhleth, dan-damcaniaethu ac, yn enwedig yr achos o Gymru, heb ymchwil digonol sydd angen ystyriaeth arbennig wrth i ni symud i mewn i gyfnod newydd o ddiwygiad addysg.

Mae'r datblygiad o fframwaith cwricwlwm newydd a chwricwla lefel-ysgol yn darparu cyfle penodol i nid ond ddeall sut mae athrawon yn deall 'asiantaeth' ar hyn o bryd, ond hefyd sut maen nhw'n meddwl bydd diwygiad addysgol diweddar yn effeithio eu hasiantaeth yn y dyfodol. Rydw i'n gwneud ymchwil ar hyn o bryd ar asiantaeth athrawon yng Nghymru. Mae'r astudiaeth yn cynnwys dau gyfnod o gasgliad data. Mae'r cyfnod cyntaf yn arolwg ar-lein sy'n canolbwyntio ar "pwrpas" ac "asiantaeth". Mae'r arolwg yn cynnwys 31 cwestiwn ac yn cymryd tua 10 munud i orffen. Os ydych chi'n athro neu athrawes yng Nghymru a hoffech chi gyfranogi, pwyswch ar y linc yma lle allech chi ddarganfod gwybodaeth am yr astudiaeth, eich hawliau fel cyfranogwr, a'r arolwg ei hun os gwelwch yn dda.

Kevin Smith

@dr_kevinsmith

Cyfeiriadau

Llywodraeth Cymraeg. 2015. Successful Futures. Adenillwyd ar 04/07/2019 o https://gweddill.gov.wales/docs/dcells/publications/150225-successful-futures-en.pdf

Biesta, G. and Tedder, M. 2006. How is agency possible? Towards an ecological understanding of agency-as-achievement. Working paper 5. Exeter, UK: The learning lives project.

Biesta, G., Priestly, M. and Robinson, S. 2014. The role of beliefs in teacher agency. Teachers and Teaching: Theory and practice. 21(6), pp. 624-640.

Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags
No tags yet.
    bottom of page