top of page

“Doedd fy marn i ddim o bwys”: Sylwadau rhieni a phobl ifanc am gynadleddau diogelu plant

Bydd plant yn destun Cynllun Diogelu Plentyn pan ystyrir bod perygl y byddan nhw’n cael eu niweidio’n fawr. Cam pwysicaf proses rhoi cynllun o’r fath ar waith yw Cynhadledd Diogelu Plentyn lle y bydd rhwng 8 a 25 o bobl megis gweithwyr cymdeithasol, athrawon, ymwelwyr iechyd, heddweision, rhieni a phobl ifanc (lle yr ystyrir eu bod yn ddigon aeddfed).

Ar gyfer yr astudiaeth hon, cynhalion ni ymchwil mewn dau awdurdod lleol yn Lloegr. Cyfwelon ni 52 o rieni a 40 o blant oedd yn destun cynllun diogelu plentyn. Disgrifiodd y rhan fwyaf o’r rhieni a gymerodd ran yn ein hastudiaeth y profiad yn un erchyll trwy eiriau ac ymadroddion megis ‘yn fy nagrau’, ‘heb wrando arnaf’, ‘wedi fy mygwth’, ‘straen’ a ‘dig’.

“Bydd popeth a ddywedaf mewn cyfarfod yn cael ei ddiystyru hyd y gwelaf i.” (mam 32 oed)

Dywedodd y rhan fwyaf o rieni nad oedden nhw’n cael dweud eu dweud a bod cynadleddau’n brofiad bygythiol iawn.

Dywedodd pobl ifanc nad oedden nhw’n deall diben cynhadledd yn dda. Ar ben hynny, pan nad oedden nhw wedi’u cynnwys, ymddangosai nad oedd eu barn yn cael ei hystyried o ddifrif drwy gydol y broses.

“Wrth ymbaratoi, roeddwn i o dan yr argraff y byddaf i’n cael dweud fy nweud. Camais allan yn fy nagrau wedyn, heb fynd yn ôl byth eto. Gofynnodd y cadeirydd gwestiwn i mi a thorri ar draws fy ateb i’m tewi.” (merch 16 oed)

“Doedd fy marn i ddim o bwys hyd y gwelwn i. Doeddwn i ddim yn cael siarad yn y gynhadledd.” (merch 15 oed)

Yn ôl canllawiau gwladol, dylai gweithwyr cymdeithasol weithio’n agos gyda theuluoedd i geisio cryfhau cyfranogiad ystyrlon rhieni a phlant yn ystod proses diogelu plentyn, a hynny i hybu cydweithio a chynnig cymorth i deuluoedd fel ei gilydd. Gan nad yw plant na rhieni o’r farn bod y cyfryw gynadleddau o les, fodd bynnag, dydyn nhw ddim yn fodlon cymryd rhan ynddynt na rhoi cyfleoedd i weithwyr cymdeithasol feithrin perthynas dda â nhw ar adeg dyngedfennol.

Daeth i’r amlwg trwy fy ymchwil mai’r prif reswm nad yw teuluoedd yn fodlon ar y cynadleddau yw bod gweithwyr cymdeithasol yn methu â’u paratoi yn ddigonol ar eu cyfer. Dywedodd y rhan fwyaf o rieni mai dim ond ar ddydd y cyfarfod neu ddiwrnod cynt roedden nhw wedi gweld adroddiad y gweithiwr cymdeithasol i’w roi gerbron y pwyllgor.

Roedd rhieni am i’r gweithiwr cymdeithasol rannu adroddiadau ac asesiadau ymlaen llaw a neilltuo peth amser i drafod yr adroddiad a’r broses gyda nhw. Dywedodd rhieni fod gwybodaeth anghywir neu anghyfoes yn yr adroddiadau, yn aml. O ganlyniad i’w gweld ychydig cyn y gynhadledd, doedd dim digon o amser i gwestiynu neu newid gwybodaeth anghywir. Dywedodd

rhai rhieni oedd wedi ceisio cwestiynu adroddiadau eu bod wedi’u cyhuddo o fethu ag ‘ymgysylltu’ a bod hynny wedi tanseilio eu cais.

Dywedodd 38 o’r 40 o bobl ifanc a holon ni nad oedden nhw wedi gweld adroddiad o’r fath. Dim ond y rhai oedd wedi bod yno ddywedodd eu bod wedi gweld adroddiad neu asesiad.

Os ydyn ni o ddifrif am helpu plant a theuluoedd sy’n agored i niwed, a gwerthfawrogi ac ystyried yn briodol eu rôl ystyrlon yn y penderfynu ar eu bywydau, rhaid inni ddechrau trwy gynnal y broses yn well - gan ofalu bod teuluoedd a phlant yn deall y rhesymau dros gyfarfodydd, yn cael eu paratoi’n ddigonol ar eu cyfer ac yn sylweddoli bod angen cymryd rhan er eu lles. Trwy gynnal y broses yn well, gall ansawdd y gofal wella.

Dr Clive Diaz, Cardiff University

References

Diaz, C. (2020) Decision Making in Child and Family Social Work: Perspectives on Participation. Policy Press, Bristol.

You may also be interested in these related blogs;

Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags
No tags yet.
    bottom of page