top of page

Effaith llymder ar drefn y gofal: Sylwadau uwch reolwyr

Mae cyfleoedd i blant sydd o dan ofal yng Nghymru a Lloegr yn wael o’u cymharu â’u cyfoedion. Pe bai proffesiynolion yn galluogi plant a phobl ifanc i gymryd rhan yn effeithiol yn eu cynlluniau gofal, fodd bynnag, byddai modd cryfhau eu hunan-barch a’u hyder.

Mae hawl gan blant i ddylanwadu ar eu gofal yn ôl Cytundeb Hawliau Plant y Cenhedloedd Unedig a Deddf Plant 1989. Yn ystod fy ymchwil mewn awdurdod lleol yn Lloegr, fodd bynnag, daeth i’r amlwg nad yw uwch reolwyr yn deall arferion sy’n canolbwyntio ar blant yn dda, nad ydyn nhw’n chwilfrydig am y pwnc ac nad ydyn nhw’n fodlon codi amheuon ar arferion gwael (Diaz 2020).

Yn ôl Margaret Heffernan (2012, t 32), gall problemau mawr ddigwydd ‘pan fo arweinwyr yn dewis - weithiau’n fwriadol ond yn reddfol gan amlaf - methu â gweld sefyllfaoedd lle y gallen nhw wybod ac y dylen nhw wybod ond nad ydyn nhw’n gwybod am eu bod yn teimlo’n well trwy osgoi gwybod’.

Er lles plant sydd o dan eu gofal, mae’n hanfodol i uwch reolwyr sy’n penderfynu ar dynged y plant hynny ganolbwyntio ar eu gwaith a chyflawni eu dyletswyddau yn gydwybodol. Pan gyfwelais uwch reolwyr, fodd bynnag, daeth nifer o faterion anodd i’r amlwg.

Wrth ateb cwestiynau am rôl plant yn y prosesau penderfynu, cydnabu uwch reolwyr fod gwir anawsterau yn y maes hwnnw. Fe roeson nhw’r bai ar bobl ifanc, a allai fod yn anniddig (gyda phob rheswm da) o ganlyniad i’w profiad o drefn y gofal cymdeithasol, ac ar weithwyr cymdeithasol sy’n tangyflawni yn eu barn nhw.

“Pe bai pawb yn rhagori yn ei rôl, byddai popeth yn gweithio’n esmwyth, ond bydd anfedrusrwydd yn faen tramgwydd yn aml.” (Uwch reolwr)

Doedd fawr ddim cydnabyddiaeth o orchwylion niferus gweithwyr cymdeithasol - mae rhai’n gyfrifol am achosion dros 30 o blant. Ar ben hynny, er bod nifer y plant sydd o dan ofal wedi cynyddu’n fawr yn yr awdurdod lleol hwnnw dros y pum mlynedd diwethaf, mae nifer y gweithwyr cymdeithasol heb newid.

Pan ofynnais i uwch reolwyr roi peth gwybodaeth sylfaenol am broses adolygu’r cynlluniau gofal, roedd yr atebion yn annigonol. Cydnabu uwch reolwyr nad oedd cynllun gofal cyfoes gan y rhan fwyaf o blant oedd o dan adain yr awdurdod lleol hwnnw. Felly, roedd prif ddiben adolygiad plant o dan ofal heb ei gyflawni gan nad oedd cynllun gofal i’w adolygu yn aml.

Er eu bod o blaid y syniad y dylai plant a phobl ifanc fod wrth wraidd y gwaith, allai uwch reolwyr ddim esbonio sut y bydden nhw’n hwyluso hynny.

Mae’n werth nodi bod nifer yr uwch reolwyr wedi gostwng o 50% yn yr awdurdod lleol hwnnw ers 2010. Felly, mae’n debygol nad oes modd cyflawni’r rôl mwyach am fod cynifer o orchwylion ar yr uwch reolwyr.

Mae effaith llymder parhaol yn debygol o arwain at barhau i roi gwasanaeth gwael i blant sydd o dan ofal am fod gormod o waith gan uwch reolwyr a gweithwyr cymdeithasol.

Dr Clive Diaz, Cardiff University

References

Diaz, C. (2020) Decision Making in Child and Family Social Work: Perspectives on Participation. Policy Press, Bristol.

Heffernan, M (2012) Willful Blindness: Why we ignore the obvious, London: Simon and Shuster.

You may also be interested in these related blogs;

Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags
No tags yet.
    bottom of page