top of page

amdanom ni

Amdanom Ni

Rhwydwaith Cymru gyfan yw ExChange, a'i nod yw dod â gweithwyr, ymchwilwyr a'r rheini sy'n defnyddio gwasanaethau ynghyd i rannu profiadau ac arbenigedd, ac i ddysgu o'i gilydd. Ein nod yw gwella gwaith cymdeithasol a gwasanaethau gofal cymdeithasol drwy sbarduno trafodaeth a meithrin perthnasau parhaus rhwng pobl â gwahanol mathau o arbenigedd.


Ein cred yw bod gwaith ymchwil yn cael mwy o effaith pan fo'n rhan o drafodaeth barhaus rhwng ymchwilwyr, ymarferwyr, a'r rhai sydd â phrofiadau uniongyrchol o ddefnyddio gwasanaethau.  Rydym felly yn canolbwyntio ar ddod ag ymchwilwyr blaenllaw i gysylltiad uniongyrchol â gweithwyr, rheolwyr, a'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau, er mwyn i ni allu dysgu o'n gilydd. Yn ystod ein blwyddyn gyntaf, rydym yn rhedeg rhaglen o fwy na 20 o ddigwyddiadau ledled Cymru, a hynny'n cynnwys cynadleddau mawr a seminarau bach gydag arbenigwyr blaenllaw.
 

Sefydlwyd ExChange gan y Ganolfan Cascade ym Mhrifysgol Caerdydd, ond rydym yn cydweithio'n agos â phrifysgolion Abertawe a Bangor, a gobeithiwn wneud hynny â phrifysgolion eraill ledled Cymru hefyd. Mae bron pob awdurdod lleol yng Nghymru yn aelod, yn ogystal ag elusennau allweddol a sefydliadau eraill. Gobeithiwn y bydd hyn yn ein galluogi i roi amrywiaeth o gyfleoedd i drafod a chydweithio, a hynny gan ganolbwyntio'n barhaus ar sicrhau bod ein gwaith ymchwil yn gwneud gwahaniaeth. Os hoffech ragor o wybodaeth, neu i gymryd rhan, cysylltwch â ni drwy ebost:Cysylltu@ExChangeCymru.org.

Children's Social Care Research and Development Centre

Mae CASCADE wedi'i leoli o fewn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn ymwneud â phob agwedd ar ymatebion cymunedol i anghenion cymdeithasol plant a theuluoedd, gan gynnwys gwasanaethau cymorth teuluoedd, gwasanaethau plant mewn angen, amddiffyn plant, plant sy'n derbyn gofal, a mabwysiadu.

​

Ei nod pennaf yw gwella lles a diogelwch plant a'u teuluoedd drwy:

 

  • Cynhyrchu tystiolaeth ymchwil sylfaenol o ansawdd da a gydnabyddir yn rhyngwladol.

  • Cyhoeddi canlyniadau'r gwaith ymchwil hwn, yn ogystal â gwaith ymchwil arall a wneir, mewn fformat sy'n hygyrch i blant a theuluoedd sy'n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol, gweithwyr proffesiynol, a llunwyr polisïau.

  • Datblygu'r adnoddau i gynnal gwaith ymchwil ynglÅ·n â gofal cymdeithasol drwy gynnig cyfleoedd i ymchwilwyr gan ddechrau ar lefel is-raddedig a pharhau yn hwyrach yn eu gyrfa.

  • Ymgysylltu ag amrywiaeth o gydweithredwyr ym maes ymchwil, gan gynnwys plant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr, ymarferwyr, llunwyr polisïau a darparwyr gofal cymdeithasol o'r sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector.

Cysylltu â CASCADE

​

Ffôn:

+4429 2087 5142

​

Ebost: CASCADE@caerdydd.ac.uk

​

Ymweld â:

Gwefan CASCADE

​

​

bottom of page