top of page

Ymchwilio Adnoddau

Hafan

 

Blog

> Darllen y diweddaraf

 

Astudiaethau Achos

> Enghreifftiau o ymarfer gofal ac addysg yng Nghymru

 

 

Deunyddiau Ymarfer

> Adnoddau a ddefnyddir gan ymarferwyr addysg a gofal cymdeithasol

 

 

Ymchwil ac Adolygiadau Ymarfer

> Amrywiaeth o erthyglau ac adroddiadau o bob cwr o’r DU

 

 

Polisïau a Strategaethau’r Llywodraeth

> Polisïau a chynlluniau Cymru, gan gynnwys dogfennau pwysig y DU

 

 

Cysylltiadau Pwysig

>Am gyngor a chydweithio pellach

 

Ymwadiad

Oni nodir fel arall, ffynonellau allanol yw’r holl ddeunyddiau.  Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i wneud yn siŵr bod y wefan yn ddibynadwy ac yn gywir, ni allwn gymryd cyfrifoldeb dros gynnwys dolenni allanol neu’r modd y defnyddir deunyddiau a gaiff eu lawrlwytho / agor yma.

Methodolegau gweledol, tywod a seicdreiddio: defnyddio technegau cyfranogol creadigol i archwilio profiadau addysgol myfyrwyr aeddfed a phlant mewn gofal

Awduron: Dawn MannayEleanor Staples & Victoria Edwards

Blwyddyn: 2017

​

Mae ymchwil gwyddor gymdeithasol wedi gweld symudiad cynyddol tuag at ddulliau gweledol o gynhyrchu data. Fodd bynnag, mae rhai technegau gweledol yn cael eu tanbrisio o hyd oherwydd eu cysylltiad â seicdreiddio; ac amharodrwydd i ymgysylltu â dulliau wedi’u llywio gan seicdreiddio y tu allan i leoliadau seiliedig ar therapi. Mae’r papur hwn yn cyflwyno’r dull ‘creu bwlch tywod’, a ddatblygwyd o ymagwedd seicdreiddiol y ‘dechneg creu byd’. Mae’r dull ‘creu blwch tywod’ yn rhoi cyfle i gyfranogwyr greu golygfeydd tri dimensiwn mewn blychau tywod, gan ddefnyddio ffigurau bychain a gwrthrychau pob dydd. Cyflwynir data o ddwy astudiaeth a gynhaliwyd yng Nghymru, y DU. Mae’r cyntaf yn archwilio profiadau myfyrwyr aeddfed o addysg uwch, ac mae’r ail yn archwilio profiadau addysgol plant a phobl ifanc sydd mewn gofal cyhoeddus. Mae'r papur yn dadlau y gellir addasu gwaith seicdreiddiol i greu offeryn ymholi ansoddol unigryw, gwerthfawr a moesegol; ac yn dangos sut oedd ‘creu blwch tywod’ yn cynnig cyfleoedd i ymladd yn erbyn cynefindra, galluogi fframweithiau cyfranogol, a chyfrannu at bolisi ac ymarfer gwybodus.

Galluogi siarad ac ailfynegi negeseuon: Gweithio'n greadigol gyda phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i adrodd ac ail-gynrychioli eu profiadau bob dydd

Awduron:  Dawn Mannay, Eleanor Staples, Sophie Hallett, Louise Roberts, Alyson Rees, Rhiannon Evans a Darren Andrews

​

Blwyddyn: 2018

​

Crynodeb:

Mae profiadau a chanlyniadau addysgol plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn peri pryder ers tro. Mae’r anghydraddoldebau parhaus y maent yn eu hwynebu yn awgrymu bod polisïau presennol wedi methu ag ymateb yn llawn i achosion cymhleth y broblem. Mae'r papur hwn yn ystyried astudiaeth ansoddol o brofiadau addysgol a dyheadau plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal yng Nghymru. Gweithiodd y prosiect gydag ymchwilwyr cymheiriaid sydd â phrofiad o ofal a defnyddiodd dechnegau gweledol, creadigol a chyfranogol i archwilio profiadau 67 o blant a phobl ifanc o addysg ac, yn bwysicach, eu barn ar beth y gellid ei wneud i'w gwella. Roedd y dull amlfoddol hwn yn rhoi cyfle i gyfranogwyr feddwl am eu profiadau goddrychol, dinod, ond sydd hefyd yn brofiadau pwysig, sy'n gweithredu ochr yn ochr â heriau mwy strwythurol ac yn rhyngweithio â hwy. Datblygwyd amrywiaeth o ffilmiau, cylchgronau, gwaith celf ac allbynnau cerddoriaeth i sicrhau y gallai argymhellion y prosiect gyrraedd cynulleidfaoedd eang ac amrywiol. Mae'r papur hwn yn dadlau y dylid rhoi llwyfan i leisiau plant a phobl ifanc i lywio polisi ac arferion. Er mwyn i hyn ddigwydd mae angen i ymchwilwyr fod yn greadigol yn eu dulliau gweithredu o ran gwaith maes a lledaenu gwybodaeth, gan harneisio pŵer y celfyddydau i wneud newidiadau cadarnhaol ym mywydau bob dydd plant a phobl ifanc.

​

Allweddeiriau: Gofal; plant; addysg; ymchwil cyfranogol; dulliau gweledol; pobl ifanc.

​

Adolygiad systematig o ymyriadau addysgol ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal: Argymhellion ar gyfer datblygu a gwerthuso ymyriadau

Awduron: Rhiannon Evans, Rachel Brown, Gwyther Rees a Philip Smith

Blwyddyn: 2017

Crynodeb: 

Mae plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal (LPPhIDG) dan anfantais addysgol o gymharu â'r boblogaeth yn gyffredinol. Cynhaliwyd adolygiad systematig o hapdreialon rheoledig i werthuso ymyriadau wedi'u hanelu at LPPhIDG ≤18 oed. Ni chafodd cyfyngiadau eu gosodwyd ar y lleoliad darparu na’r asiant darparu. Canlyniadau’r ymyriadau oedd: sgiliau academaidd; cyflawniad academaidd a chwblhau graddau; statws addysg arbennig; cwblhau gwaith cartref; presenoldeb yn yr ysgol, gwahardd dros dro, a gadael; nifer y lleoliadau ysgol; y berthynas rhwng athrawon a myfyrwyr; ymddygiad yn yr ysgol; ac agweddau academaidd. Roedd pymtheg astudiaeth a oedd yn adrodd ar 12 ymyriad yn bodloni'r meini prawf ar gyfer eu cynnwys. Dangosodd naw ymyriad effeithiau posibl. Fodd bynnag, ni ellid canfod tystiolaeth o effeithiolrwydd oherwydd bod yr ansawdd methodolegol yn amrywio, fel y’i harfarnwyd gan offeryn risg tuedd Cochrane. Darperir argymhellion damcaniaethol a methodolegol i wella’r broses o ddatblygu a gwerthuso ymyriadau addysgol.

I gysylltu â'r erthygl hon: http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1002/berj.3252/epdf 

Cylchgrawn Ymchwil Addysg Brydeinig - Canlyniadau cael eich labeli yn 'derbyn gofal':ymchwilio'r profiadau addysgiadol o blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal yng Nghymru

Awduron: Dawn Mannay, Rhiannon Evans, Eleanor Staples, Sophie Hallet, Louise Roberts, Alyson Rees a Darren Andrews

Blwyddyn: 2017​

Crynodeb:

Mae profiadau addysgol a chyrhaeddiad plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal (PPhIDG) yn dal yn destun pryder eang yn rhyngwladol.  O fewn y Deyrnas Unedig, mae plant a phobl ifanc mewn gofal yn cyflawni canlyniadau addysgol gwaelach o’u cymharu ag unigolion nad ydynt mewn gofal. Er gwaethaf llu o ymchwil yn dogfennu'r rhesymau am anfantais addysgol ymhlith y boblogaeth hon, mae’r ystyriaeth empeiraidd o brofiadau bywyd y system addysgol, yn ôl canfyddiad PPhIDG eu hunain, yn dal yn gyfyngedig.  Mae'r papur hwn yn tynnu ar ymchwil ansoddol gyda 67 o blant a phobl ifanc yng Nghymru sydd â phrofiad o ofal. Roedd y sampl rhwng 6 a 27 oed, ac yn cynnwys 27 o fenywod a 40 o wrywod.  Roedd y cyfranogwyr wedi profi amrywiaeth o leoliadau gofal. Mae’r canfyddiadau’n canolbwyntio ar sut mae polisïau ac arferion addysgol yn dieithrio PPhIDG oddi wrth ddisgyrsiau amlycaf cyrhaeddiad addysgol, trwy aseinio’r safbwynt pwnc ‘â chefnogaeth’, lle caniateir i blant a phobl ifanc, neu hyd yn oed eu hannog, i beidio â llwyddo’n academaidd oherwydd eu hamgylchiadau cartref cymhleth a’r amharu a fu arnynt.  Fodd bynnag, caiff disgwyliadau llai o'r fath eu gwrthod gan y PPhIDG, sydd am gael eu gwthio a'u herio i wireddu eu potensial. Mae'r papur yn dadlau bod angen gwreiddio mwy o ddealltwriaethau wedi’u gwahaniaethu o uchelgeisiau a galluoedd PPhIDG mewn arferion pob dydd, er mwyn sicrhau bod systemau cynnal addysg effeithiol yn cael eu datblygu.

Breuddwydion Cudd - ymrwymiad Cymru i bobl ifanc sy'n gadael gofal

Awduron: y Comisiynydd Plant

Blwyddyn: 2016

Crynodeb:

Yn yr adroddiad sbotolau hwn mae Sally Holland, y Comisiynydd Plant, yn gofyn i lywodraeth leol a chenedlaethol, elusennau a menter breifat addunedu eu cefnogaeth i wireddu uchelgais pobl ifanc sy’n gadael gofal.
Mae'r Comisiynydd am sicrhau y gall fod gan bobl ifanc sy'n gadael gofal yr un disgwyliadau o ran gofal a chymorth â'u cyfoedion.

Penaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan Ymchwil ar y gwahaniaethau yn y boblogaeth plant sy’n derbyn gofal

Awduron: Benaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan

Blwyddyn2013

Crynodeb:

Comisiynwyd y gwaith ymchwil hwn gan Benaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol. Ei nod yw rhoi cipolwg ar y cwestiwn ymchwil canlynol:


Pam mae gan awdurdodau lleol sydd â lefelau tebyg o angen, boblogaethau gwahanol o blant sy’n derbyn gofal?

Please reload

Consortiwm Canolbarth y De Ysgolion Cyfeillgar Plant sy'n Derbyn Gofal

​Dros y flwyddyn ddiwethaf, cyflwynwyd prosiect i hyrwyddo arfer da mewn ysgolion a lleoliadau addysgol yn ymwneud â Phlant sy'n Derbyn Gofal.

Cymhariaeth o ddefnydd sylweddau, lles goddrychol a pherthnasoedd rhyngbersonol rhwng pobl ifanc mewn gofal maeth a chartrefi preifat: dadansoddiad traws adrannol o'r arolwg Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgol yng Nghymru

ADRODDIAD YMCHWIL

Awdur: Long SJ, Evans RE, Fletcher A, Hewitt G, Murphey S, Young H a Moore GF

Blwyddyn: 2017

Crynodeb Adroddiad:

 

Amcan: i ymchwilio'r cysylltiad o fyw mewn gofal maeth gyda defnydd sylweddau a lles goddrychol mewn sampl o fyfyrwyr ysgol gynradd (11-16 mlwydd oed) yng Nghymru yn 2015-16, ac i astudio os yw'r cysylltiadau yma'n gwanhau gan yr ansawdd canfyddedig o berthnasoedd rhyngbersonol.

Dyluniad: Trawsadrannol, ymddygiad wedi seilio ar boblogaeth ac arolwg ffordd o fyw. Gosodiad a chyfranogwyr: Cymru, DU; pobl ifanc a wnaeth cymryd rhan yn yr Ymchwil Iechyd Ysgol 2015/16

 

Arolwg (n=32 479) rhwydwaith (SHRN)

Prif ganlyniad: Cymharwyd ymddygiadau iechyd rhwng pobl ifanc yng ngofal maeth gyda nhw o gartrefi preifat.


Results: The prevalence of all adverse outcomes was higher among young people in FC. Those in FC were significantly more likely to report mephedrone use, multiple substance misuse behaviours, poorer relationships with peers and teachers, having experienced bullying, dating violence and poor well-being. The association between FC and substance use remained significant, though was attenuated after accounting for relationship variables. The association between FC and subjective well-being became nonsignificant after adjustment for relationship variables.
Conclusions: Young people living in FC experience significantly worse outcomes than young people not in care, likely due to a range of care and precare factors, which impact adversely on subsequent social relationships. The analyses are consistent with the hypothesis that the associations of FC with substance use and life satisfaction are partially explained by poorer quality social relationships. Large scale, longitudinal studies are required to investigate the relationship between being in care and health, educational and social outcomes. Mental health interventions and interventions to reduce substance use and improve well-being in FC should include a focus on supporting healthy social relationships.

Adnabod ac Ymateb i Esgeulustod Plant yn Ysgolion Yng Nghymru

Awdur: Victoria Sharley, Myfyriwr Doethurol - Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd

Blwyddyn: 2017

Crynodeb

Nod y prosiect yw darparu mewnwelediad pellach drwy ymchwilio i ddarpariaeth ataliol ac ymyrraeth gynnar, o ran sut mae ysgolion yn chwarae rhan mewn ymdrechion i nodi ac ymateb i esgeulustod ar hyn o bryd.

 

Mae tri amcan allweddol i’r prosiect a’i nod yw darparu tystiolaeth a fydd yn llywio arfer da rhwng y sectorau gwasanaethau cymdeithasol ac addysg drwy ymchwilio i’r canlynol:

 

1. i ba raddau mae ysgolion cynradd ac uwchradd prif ffrwd yn cael eu cynnwys yn y gwaith o nodi ac ymateb i esgeuluso plant

​

2. y berthynas rhwng addysg a gwasanaethau cymdeithasol wrth ymateb i blant a'u rhieni pan fyddant yn pryderu fod plentyn yn profi esgeulustod

​

3. profiadau staff yr ysgol mewn amrywiaeth o rolau gwahanol wrth ymateb i blant a'u rhieni, pan fyddan nhw’n pryderu bod plentyn yn cael ei esgeuluso

Mewn Gofal, Mas o Drwbl: Sut gall y cyfleoedd gofal o bant mewn gofal cael ei drawsnewid gan ddiogelu nhw wrth ymrwymiad diangen yn y system cyfiawnder troseddol

ADRODDIAD YMCHWIL

Awdur: Y Gwir  Anrhydeddus yr Arglwydd Laming (Cadeirydd)

Blwyddyn: 2016

Crynodeb o'r Adroddiad:

Pan fydd y wladwriaeth yn cymryd y cyfrifoldeb o rianta plentyn rhywun arall, mae ganddi gyfrifoldeb cyfreithiol a moesol i fod yn rhiant da. Yn gymharol aml iawn bydd angen ymdrech benderfynol i gywiro diffygion neu fethiant difrifol y profiad rhianta cynharach a gafodd y person ifanc. Gall y methiannau hyn, am ba reswm bynnag maent yn codi, arwain at ddiffygion difrifol, boed mewn addysg, sgiliau cymdeithasol neu ddatblygiad personol. Mae gwaith adfer yn dibynnu nid yn unig ar sgiliau ond hefyd ar ymrwymiad, uchelgais a phenderfyniad y staff, y gofalwyr ac o bosibl aelodau o'r teulu ehangach. Nod yr adroddiad hwn yw annog arfer da a sicrhau bod safonau ansawdd cadarn yn dod yn rhan o brofiad bob dydd pob plentyn sydd yn gorfod dibynnu ar y wladwriaeth ar gyfer ei ddiogelwch, ei datblygiad priodol a’i hyder yn ei ddyfodol. Er bod y dasg yn gofyn llawer gan bawb sy'n ymwneud â phob person ifanc, serch hynny, sy’n hanfodol i’r person ifanc a'r wladwriaeth ac efallai mai hon yw’r un fwyaf gwerth chweil i’r ddau. Ymddieithrwch yw’r gelyn ym mywyd person ifanc. Mae methiant yn gostus ar lefel bersonol ac o ran y wladwriaeth. Mae'r adroddiad hwn yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni, o gael gweledigaeth glir, ymrwymiad i weithio amserol ar y cyd ar draws yr asiantaethau allweddol a chred yng ngwerth unigryw pob plentyn. Y newyddion da yw bod hyn yn cael ei wneud mewn rhai meysydd. Y peth lleiaf y gallwn ei wneud yw bod â’r uchelgais hon ar gyfer pob plentyn yn ein gofal.

Barnau Plant a Phobl Ifanc ar Fod Mewn Gofal: Adroddiad Llenyddiaeth

ADRODDIAD YMCHWIL

Awdur: Julie Selwyn, Prifysgol Bryste / Coram Voice

Blwyddyn: 2015

Crynodeb o'r Adroddiad:

Mae’n bleser gennym gyhoeddi adolygiad llenyddiaeth ar 'Children and Young People’s Views on Being in Care', sy'n ceisio amlygu lleisiau sy'n derbyn plant o ymchwil sy'n bodoli eisoes, ar eu taith drwy'r system gofal. Mae'r adolygiad yn nodi profiadau cadarnhaol ac andwyol a gaiff gan blant a phobl ifanc drwy fod mewn gofal ac mae’n rhoi llwyfan iddynt gael eu clywed heb i’w lleisiau gael eu gwyrdroi. Mae'r adolygiad llenyddiaeth hwn yn cefnogi’r prosiect Bright Spots, prosiect ymchwil rhwng Prifysgol Bryste a Coram Voice. Nod y prosiect yw gwella’r daith gofal ar gyfer pob plentyn sy'n derbyn gofal ac amlygu ‘smotiau disglair’ o ran ymarfer mewn awdurdodau lleol sy'n cyfrannu at yr agweddau cadarnhaol ar fod mewn gofal. Y bwriad yw y bydd awdurdodau lleol yn deall yr hyn sy’n achosi’r smotiau disglair hynny fel y gallant fabwysiadu’r safonau gorau posibl o ran gofal. Hoffem ddiolch i Ymddiriedolaeth Hadley am ei chyllid a chymorth hael ar gyfer datblygu’r prosiect Bright Spots er mwyn gwella cyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc mewn gofal. Diolch i angerdd ac ymroddiad ein cyllidwr, rydym yn disgwyl gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau’r grŵp hwn sy'n agored i niwed.

Cynyddiad Addysgiadol Plant Mewn Gofal Yn Lloegr: Cysylltu Data Gofal ac Addysgiadol (Adroddiad Trosolwg)

ADRODDIAD YMCHWIL

Awduron: Judy Sebba, David Berridge, Nikki Luke, John Fletcher, Karen Bell, Steve Strand, Sally Tomas, Ian Sinclair, Aoife O'Higgins (a baratowyd ar gyfer Sefydliad Nuffield)

Blwyddyn: 2015

Crynodeb o'r Adroddiad:

Y prosiect hwn oedd yr astudiaeth fawr gyntaf yn y DU i ymchwilio i'r berthynas rhwng deilliannau addysgol, hanes gofal pobl ifanc a nodweddion unigol. Mae'n cysylltu Cronfa Ddata Genedlaethol y Disgyblion a’r Gronfa Ddata Plant sy'n Derbyn Gofal ar gyfer y garfan a oedd yn gymwys i sefyll arholiadau TGAU yn 2013. 

Roedd y prif ddadansoddiad yn canolbwyntio ar gynnydd yn yr ysgol uwchradd (Cyfnodau Allweddol 2-4) pobl ifanc a oedd wedi bod mewn gofal am fwy na blwyddyn ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 4. Ategwyd y dadansoddiad ystadegol manwl gan gyfweliadau â 26 o bobl ifanc mewn chwe awdurdod lleol a gydag oedolion arwyddocaol yn eu gyrfaoedd addysgol, gan gynnwys gofalwyr maeth, athrawon, gweithwyr cymdeithasol a phenaethiaid Ysgol Rithwir (mae Ysgol Rithwir yn gweithredu fel hyrwyddwr o fewn awdurdod lleol, gyda’r nod o wella a hyrwyddo addysg pob plentyn mewn gofal fel pe baent mewn un ysgol sengl). 

Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad annibynnol o'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu yng Nghymru.

ADRODDIAD YMCHWIL

Awdur: Graham Donaldson

Blwyddyn: 2015

Crynodeb o'r adroddiad: 

Mae’r adolygiad hwn wedi rhoi cyfle i ni ailymweld â dibenion sylfaenol addysg ar gyfer plant a phobl ifanc a’u hategu, ac i argymell trefniadau asesu a chwricwlwm a all wireddu’r dibenion hynny orau.

Deall profiadau addysgol a safbwyntiau, cyrhaeddiad, cyflawniad a dyheadau plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru.

ADRODDIAD YMCHWIL

Awduron: Dawn Mannay, Eleanor Staples, Sophie Hallett, Louise Roberts, Alyson Rees, Rhiannon Evans a Darren Andrews

Blwyddyn: 2015

Crynodeb o'r adroddiad:

Ym mis Rhagfyr 2014, gwahoddodd Llywodraeth Cymru, ar ran Gweinidogion Cymru, dendrau ar gyfer astudiaeth i ystyried profiadau a barn addysgol, cyraeddiadau, cyflawniadau a dyheadau plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru.  Yn dilyn proses dendro gystadleuol, penodwyd tîm amlddisgyblaethol o Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) Prifysgol Caerdydd, dan arweiniad Dr Dawn Manney, i ymgymryd â’r prosiect ymchwil ym mis Ionawr 2015. Ymgymerwyd â’r prosiect mewn partneriaeth â Vocies from Care Cymru, Y Rhwydwaith Maethu a Spice Innovations. Cynhaliwyd yr astudiaeth hon mewn ymateb i ddau brif amcan a nodwyd gan Lywodraeth Cymru.

  • Amcan 1: Cynnal astudiaeth ymchwil ansoddol drwyadl gyda phlant sy’n derbyn gofal, i roi cipolwg ar eu profiadau addysgol a’u barn ar yr hyn y gellir ei wneud i’w wella.

  • Amcan 2: Casglu data a llenyddiaeth berthnasol a chyflwyno adroddiad arnynt.

Asesu effaith marc ansawdd Buttle UK ym maes addysg uwch

ADRODDIAD YMCHWIL

Awdur: Louise Starks (York Consulting ar ran Buttle UK)

Blwyddyn: 2013

Crynodeb o'r Adroddiad:

Mae ystadegau’n dangos bod nifer y myfyrwyr sy'n dod i mewn i Addysg Uwch (AU)1 o gefndir gofal yn parhau i fod yn isel iawn ledled y DU. Er enghraifft yn 2011 yn Lloegr mae'r ffigurau’n awgrymu bod 6% o'r rhai sy'n gadael gofal yn 19 oed mewn Addysg Uwch ac yn yr Alban, mae’r gyfradd yn is, ar ddim ond 2%. Mae'r ffigurau cymharol ar gyfer y ddwy wlad hon yn dangos bod cyfraddau cyfranogiad mewn Addysg Uwch ymhlith pob unigolyn 19 oed yn llawer uwch ar 33% a 42% yn y drefn honno. Yn 2000 comisiynodd Buttle UK ymchwil i ddeall y rhwystrau a wynebir gan y rhai sy'n gadael gofal o ran mynd i Addysg Uwch. Roedd y rhain yn cynnwys materion yn ymwneud ag annibyniaeth ariannol, llety ac anghenion cymorth personol. Llywiodd canfyddiadau'r gwaith ymchwil y ffordd y gwnaeth Buttle UK lunio elfennau allweddol y fframwaith Marc Ansawdd Buttle UK (BQM). Mae’r BQM wedi bod ar gael ers 2006. Ym mis Medi 2012, comisiyniodd Buttle UK York Consulting i ymgymryd â gwerthusiad o effaith y BQM mewn Addysg Uwch. Dyfernir y BQM i sefydliadau sy'n gallu dangos eu bod yn datblygu dull gweithredu sefydliad cyfan cadarn ar gyfer cefnogi myfyrwyr sy'n dod i’r brifysgol o gefndir gofal.

Cefnogi plant sy’n derbyn gofal mewn addysg.

ADRODDIAD YMCHWIL (Pennod ragargraffu)

Awdur: Graham Connelly (CELCIS: Centre for excellence for looked after children in Scotland)

Blwyddyn: 2012

Crynodeb: 

Y bennod hon, hanelu'n bennaf at athrawon a rheolwyr yn y gwasanaethau addysg, yn amlinellu materion cyd-destun a'r arfer mewn perthynas â derbyn plant mewn addysg yn yr Alban. Mae’r bennod wedi’i strwythuro o amgylch y penawdau hyn: y cyd-destun; plant sy’n derbyn gofal mewn addysg; parodrwydd i ddysgu, cymorth yn yr ysgol, gweithio ar y cyd. 

Gwella Profiadau a Chyrhaeddiad Addysgol Plant a Phobl Ifanc sy'n Derbyn Gofal.

ADRODDIAD YMCHWIL

Awdur: Huw Vaughan Thomas (Swyddfa Archwilio Cymru)

Blwyddyn: 2012

Crynodeb o'r Adroddiad:

Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar un elfen o gyfrifoldebau'r rhiant corfforaethol: helpu plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal i gyflawni eu potensial addysgol. Ers 1999, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer
o fentrau polisi, canllawiau ac arian grant penodol sydd wedi helpu i roi mwy o ffocws ar ddeilliannau addysgol plant sy'n derbyn gofal. Fodd bynnag, mae cyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal, a phlant eraill mewn angen, yn dal i fod yn isel iawn.

Addysg Plant Mewn Gofal

ERTHYGL MEWN CYFNODOLYN

Awduron: Sonia Jackson a Peter McParlin

Blwyddyn: 2006

Cyfnodolyn: The Psychologist

Crynodeb o’r Erthygl:

Yn yr erthygl hon, rydym yn dadlau y gellir cysylltu’n hyderus ganlyniadau gwael yn gyffredinol ar gyfer pobl sydd wedi treulio amser mewn gofal fel plant â methiant addysgol, ac y dylai’r systemau gofal ac addysg ysgwyddo llawer o’r cyfrifoldeb am hyn. Ers 1998 mae’r llywodraeth wedi cydnabod y cysylltiad rhwng ansawdd gofal a chanlyniadau addysgol, ond mae’r broblem wedi bod un anodd iawn i’w holrhain. Caiff cyfraniad posibl seicolegwyr, a ddangosir yn nes ymlaen, ei danseilio gan ffactorau sefydliadol sy'n methu ag ystyried amgylchiadau penodol plant mewn gofal (Evans, 2000)

Wedi Methu gan y System: Safbwyntiau ymadawyr gofal ifanc ar eu profiadau addysgiadol

ADRODDIAD YMCHWIL

Awdur: Barnardo’s.

Blwyddyn: 2006

Crynodeb o'r Adroddiad: 

Fel elusen plant flaenllaw, roedd Barnardo's am ddarganfod mwy am y ffactorau sy'n rhwystro plant rhag gwneud yn well a beth oedd barn pobl ifanc eu hunain am eu profiadau addysg. Roedd ein harolwg yn cynnwys o 66 o bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed a oedd wedi bod mewn gofal ac a gefnogir gan brosiectau gadael gofal Barnardo's. Gwnaethant ddweud wrthym am eu bywyd yn yr ysgol a’u haddysg, gan roi gwybodaeth am y ffactorau a’u rhwystrodd rhag gwneud yn dda, y rhai a gafodd effaith gadarnhaol a beth allai fod wedi eu helpu i wneud yn well.

Y Gosodiad o Blant mewn Gofal yng Nghymru: Safbwynt "top-down"

ERTHYGL MEWN CYFNODOLYN

Awduron: Andrew Pithouse ac Anne Crowley.

Blwyddyn: 2001

Cyfnodolyn: Adoption and Fostering

Crynodeb: 

Mae Andrew Pithouse ac Anne Crowley yn amlinellu canfyddiadau allweddol a themâu sy'n codi o arolwg Cymru Gyfan o leoliadau awdurdod lleol a gomisiynwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae eu papur yn tynnu sylw at nifer y plant sy’n derbyn gofal, eu prif nodweddion a’u lleoliadau ar 'ddyddiad cyfrifiad' ar ddechrau 2000 . Mae'r awduron yn mynd ymlaen i drafod y ffyrdd y caiff anghenion a chanlyniadau eu deall felarfer gan ddarparwyr ac yn rhoi sylwadau ar y problemau dybryd y maent yn eu hwynebu yn y maes hwn. Yn olaf maent yn nodi’r prif heriau i’r system ar gyfer plant sy’n derbyn gofal o ran darparu lleoliadau o ansawdd ac yn rhoi sylwadau ar y materion strategol sy’n wynebu awdurdodau lleol.

Please reload

Sylwadau

Ydych chi'n ystyried un o'r adnoddau uchod yn arbennig o ddefnyddiol, neu a oes gennych enghraifft o'i ddefnyddio wrth ymarfer?  Neu hoffech chi rannueich barn, efallai?  Defnyddiwch y blwch isod i roi gwybod i ni!

 

Os yw eich sylw yn cyfeirio at adnodd penodolgwnewch yn siŵr eich bod yncynnwys ei deitl.  Bydd pob sylw'n cael ei gymedroli cyn cael ei gyhoeddi.

bottom of page