top of page

Ymchwilio Adnoddau

Hafan

 

Blog

> Darllen y diweddaraf

 

Astudiaethau Achos

> Enghreifftiau o ymarfer gofal ac addysg yng Nghymru

 

 

Deunyddiau Ymarfer

> Adnoddau a ddefnyddir gan ymarferwyr addysg a gofal cymdeithasol

 

 

Ymchwil ac Adolygiadau Ymarfer

> Amrywiaeth o erthyglau ac adroddiadau o bob cwr o’r DU

 

 

Polisïau a Strategaethau’r Llywodraeth

> Polisïau a chynlluniau Cymru, gan gynnwys dogfennau pwysig y DU

 

 

Tudalennau Ffocws

> LACE

> #NegeseusonIYsgolion

> 'Toolkit' Ymadawyr Gofal

> Wrth Ofalwyr Maeth ar Gyfer Gofalwyr Maeth

 

Cysylltiadau Pwysig

> Am gyngor a chydweithio pellach

Ymwadiad

Oni nodir fel arall, ffynonellau allanol yw’r holl ddeunyddiau.  Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i wneud yn siŵr bod y wefan yn ddibynadwy ac yn gywir, ni allwn gymryd cyfrifoldeb dros gynnwys dolenni allanol neu’r modd y defnyddir deunyddiau a gaiff eu lawrlwytho / agor yma.

Tudalen ffocws newydd: 

Ffocws Adnoddau: 

#NegeseuoniYsgolion

Darganfyddwch Mwy...

Mae ExChange: Gofal ac Addysg yn adnodd 'Cymuned Ymarfer’ ar-lein sy’n ceisio rhoi adnoddau a allai helpu profiadau a deilliannau addysgol i blant a phobl ifanc yng Nghymru sydd o dan ofal neu’n gadael gofal.

 

  

Mae Exchange yn seiliedig ar yr egwyddor y gall ymarfer gorau ddatblygu pan mae profiad ac arbenigedd yn cael eu rhannu a chydweithio’n cael ei annog.  Mae'r safle hwn yn cynnig lleoliad ar gyfer rhannu deunyddiau p'un a ydynt wedi’u cyhoeddi neu beidio i geisio cefnogi strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer plant sydd o dan ofal.  Mae ExChange: Gofal ac Addysg yn cynnal yr adnoddau hyn ac yn rhoi cyfleoedd ar gyfer trafod ac ymgysylltu ymhellach.

Fersiwn Ddwyieithog

Mae fersiwn Gymraeg y wefan yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd, wrth i ni aros i ddeunyddiau gael eu cyfieithu – bydd y rhain ar gael yn y dyfodol agos.  Bydd deunyddiau ar y wefan hon ar gael yn Gymraeg a Saesneg lle bo modd.  Lle nad yw'r fersiynau Cymraeg wedi eu cyhoeddi a rhoddir caniatâd i ExChange eu cyfieithu: Mae Gofal ac Addysg yn comisiynu gwasanaethau cyfieithu.  Mae gan lawer o ddolenni allanol fersiynau Cymraeg a Saesneg o'u dogfennau a gwefannau.

Amdanom ni

 

Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd sydd wedi dylunio ac arwain y prosiect hwn. Mae wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i ddatblygu gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA).

Gwneud Cyfraniad

 

Ydych chi’n weithiwr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol neu addysg ac yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc?  Yn ysgolhaig sy’n canolbwyntio ar dystiolaeth i lywio ymarfer? Yn ofalwr maeth gyda phlant a phobl ifanc mewn ysgol neu goleg?  Yn blentyn neu’n berson ifanc sydd â barn ynghylch addysg yn ystod cyfnod o dan ofal?  Os felly, hoffem glywed gennych!

 

 

Rydym yn awyddus i gael y cyfraniadau canlynol sy'n ymwneud ag addysg a phlant sy'n derbyn gofal:

 

 

  • Llenyddiaeth academaidd (wedi’i chyhoeddi neu heb ei chyhoeddi

  • Adroddiadau polisi ac ymatebion 

  • Enghreifftiau o ymarfer gorau ac astudiaethau achos

  • Deunyddiau hyfforddi neu gynlluniau gweithredu 

  • Unrhyw beth arall allai fod o gymorth neu ddiddordeb er mwyn cefnogi addysg plant a phobl ifanc sydd o dan ofal neu’n gadael gofal

 

 

 

I gyfrannu, llenwch y ffurflen isod a rhoi gwybod i ni pa ddeunyddiau yr hoffech chi eu rhannu, neu anfonwch ebost yn uniongyrchol at contact@exchangewales.org 

 

 

Diolch

bottom of page