top of page

Ymchwilio Adnoddau

Hafan

 

Blog

> Darllen y diweddaraf

 

Astudiaethau Achos

> Enghreifftiau o ymarfer gofal ac addysg yng Nghymru

 

 

Deunyddiau Ymarfer

> Adnoddau a ddefnyddir gan ymarferwyr addysg a gofal cymdeithasol

 

 

Ymchwil ac Adolygiadau Ymarfer

> Amrywiaeth o erthyglau ac adroddiadau o bob cwr o’r DU

 

 

Polisïau a Strategaethau’r Llywodraeth

> Polisïau a chynlluniau Cymru, gan gynnwys dogfennau pwysig y DU

 

 

Cysylltiadau Pwysig

> Am gyngor a chydweithio pellach

 

Ymwadiad

Oni nodir fel arall, ffynonellau allanol yw’r holl ddeunyddiau.  Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i wneud yn siŵr bod y wefan yn ddibynadwy ac yn gywir, ni allwn gymryd cyfrifoldeb dros gynnwys dolenni allanol neu’r modd y defnyddir deunyddiau a gaiff eu lawrlwytho / agor yma.

Cyfrannwr allweddol:

Ffynnu: Eich Bywyd Ar-lein

Y llynedd, gwnaeth Rhwydwaith Maethu Cymru gwrdd â phobl ifanc o Gymru a gweithio gyda nhw i glywed eu barn am y byd digidol a sut i gadw’n ddiogel ar-lein. Rhannodd y bobl ifanc eu harbenigedd a’u gwybodaeth gyda ni a helpodd i ddatblygu’r rhifyn diweddaraf hwn, Ffynnu: Eich Bywyd Ar-lein.

 

Nod y cylchgrawn hwn yw helpu pobl ifanc mewn gofal i ystyried sut y maen nhw’n defnyddio’r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol, y pethau cadarnhaol a’r peryglon, wrth edrych hefyd ar sut y gallant gefnogi eu hunain a’i gilydd i aros yn ddiogel a gofalu am eu lles ar-lein. Mae’r rhifyn newydd hwn ar gael am ddim yma. Rhannwch ef gyda’ch tîm, eich cysylltiadau a’r bobl ifanc rydych yn gweithio gyda nhw.

​

Lawrlwythwych PDF:

Ffynnu: Cadw Eich Hun yn Ddiogel Ar-lein

Y llynedd, gwnaeth Rhwydwaith Maethu Cymru gwrdd â phobl ifanc o Gymru a gweithio gyda nhw i glywed eu barn am y byd digidol a sut i gadw’n ddiogel ar-lein. Rhannodd y bobl ifanc eu harbenigedd a’u gwybodaeth gyda ni a helpodd i ddatblygu’r rhifyn diweddaraf hwn, Ffynnu: Cadw Eich Hun yn Ddiogel Ar-lein.

​

Nod y cylchgrawn hwn yw helpu pobl ifanc mewn gofal i ystyried sut y maen nhw’n defnyddio’r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol, y pethau cadarnhaol a’r peryglon, wrth edrych hefyd ar sut y gallant gefnogi eu hunain a’i gilydd i aros yn ddiogel a gofalu am eu lles ar-lein. Mae’r rhifyn newydd hwn ar gael am ddim yma. Rhannwch ef gyda’ch tîm, eich cysylltiadau a’r bobl ifanc rydych yn gweithio gyda nhw.

​

Lawrlwythwych PDF:

Y Rhwydwaith Maethu - Gweithio Law yn Llaw

Y cylchgrawn addysg ar gyfer gofalwyr maeth

Canllaw i ofalwyr maeth ar ysbrydoli a chefnogi pobl sy'n gadael gofal ac yn mynd ymlaen i Addysg Uwch.

Crynodeb:

Ysgrifennwyd y canllaw hwn ar gyfer gofalwyr maeth yng Nghymru sydd mewn sefyllfa i gefnogi ac annog person ifanc mewn gofal sy'n ystyried gwneud cais, neu wedi gwneud cais yn ddiweddar, i astudio yn y brifysgol.


Mae'rcanllaw yn rhoi gwybodaeth ac arweiniad ymarferol, gan gynnwys gwybodaeth o ran cymwysterau, dewis y cwrs cywir, proses ymgeisio UCAS yn ogystal â chymorth ariannol, emosiynol a chyffredinol. Mae’r canllaw hefyd yn amlinellu'r cymorth sydd ar gael i’r rhai sy'n gadael gofal gan bob Prifysgol yng Nghymru, a dolenni i adnoddau a gwefannau sy'n cynnwys rhagor o wybodaeth fanwl am fywyd myfyriwr.


Bydd ycanllaw hwn yn galluogi'r gofalwyr maeth i ddarparu’r cymorth a'r arweiniad y byddai unrhyw riant da'n eu dymuno ar gyfer unrhyw blentyn - i’w helpu i fod yn hapus, i gyflawni llwyddiant addysgol ac i ddatblygu'n oedolion llwyddiannus.


Er bod y canllaw hwn yn canolbwyntio ar fynediad i Addysg Uwch, mae rhywfaint o'r wybodaeth yr un mor berthnasol i bobl ifanc sy'n astudio mewn Addysg Bellach. Bydd y rhai sy'n gadael gofal bob amser angen cymorth eu gofalwr maeth waeth pa gymhwyster y maent yn ei astudio ar ei gyfer neu’n gweithio tuag ato.


Ygobaith yw y bydd y canllaw hwn yn ysbrydoli’r gofalwyr maeth i fod yn uchelgeisiol ar gyfer y plant y maent yn gofalu amdanynt, ac yn ysbrydoli’r plant a'r bobl ifanc eu hunain i gredu y gallant ddyheu a chyflawni.
 Ni
ddylai bod mewn gofal fod yn rhwystr rhag mynd i'r brifysgol.

​

​Lawrlwythwych PDF:

NEWYDD! Rhifyn arbennig o'r Cylchgrawn Fynnu ar gyfer pobl ifanc: Ffrindiau a Pherthnasau

Rhifyn newydd o Fynnu, cylchgrawn ymroddedig i blant sy'n derbyn gofal.


Ers 2005, mae'r cylchgrawn Fynnu wedi cael ei greu gan y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru ac mae wedi darparu gwybodaeth a chyfarwyddyd i blant a phobl ifanc mewn gofal maethu. Nod y cylchgrawn Ffynnu yw grymuso pobl ifanc gyda phrofiad o ofal maethu ac i ddarparu platfform iddyn nhw rhannu eu syniadau.

​

Yn gynharach yn y flwyddyn, gweithiom ni gyda nifer o grwpiau o bobl ifanc yng Nghymru (NYAS ac Ysgol Gyfun Whitchurch, Caerdydd) i glywed beth roedd ganddyn nhw ddweud amdano faethu. Rhannodd y bobl ifanc eu syniadau a phrofiadau gyda ni, a helpodd hyn i hysbysu a datblygu'r rhifyn newydd o Ffynnu yn ffocysu ar 'Adeiladu Perthnasau'. â€‹

 

Lawrlwythwch y PDF:
​

Dyddiadur Amy: Taith merch ifanc sy’n cael ei maethu drwy’r ysgol uwchradd.

Crynodeb:

Hwn yw dyddiadur ffuglennol Amy. Daeth Amy i ofal maeth pan oedd ym Mlwyddyn 6, o ganlyniad i esgeulustod a cham-drin corfforol. Treuliodd ychydig wythnosau mewn lleoliad maeth brys, cyn cael ei lleoli gyda Jennie. Bu'n ddigon ffodus i allu aros yn ei hysgol gynradd ei hun.


Dyma ei stori am ei chyfnod yn yr ysgol uwchradd. Gyda nodiadau i athrawon a gweithwyr cymdeithasol.

​

Lawrlwythwych PDF:

Addysgwyr Cyntaf: Ein rôl ni o ran codi dyheadau addysgol a chanlyniadau plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal.

Awdur: Y Rhwydwaith Maethu (mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru)

Crynodeb:

•Ystyried rôl gofalwyr maeth fel addysgwyr cyntaf
•Cymryd rhan a gweithio gyda’r tîm addysgol ehangach
•Llywio drwy’r system
•Arloesi a
dysgu o’r Rhwydwaith Maethu

 

Lawrlwythwych PDF:

Gwneud iddo Ddigwydd: Sut y gall gofalwyr maeth helpu plant i godi’u dyheadau ac i gyflawni’u huchelgais mewn addysg

Crynodeb:

Nod y cyhoeddiad byr hwn yw eich ysbrydoli chi fel gofalwyr maeth i helpu’r plant yn eich gofal godi eu dyheadau academaidd a chyflawni eu potensial mewn addysg. Mae'n rhoi rhai pwyntiau cychwynol i'ch helpu i ddeall y system addysg yn well. Ac mae'n rhoi rhai awgrymiadau i'ch helpu i ymgynghori, herio a chydweithio gydag ysgolion ac eraill, fel y gall pawb helpu plant maeth i anelu'n uchel a gwireddu eu breuddwydion addysgol.

​

Lawrlwythwych PDF:

Cylchgrawn Ffynnu ar gyfer pobl ifanc: Adolygiadau.

Crynodeb:

P’un a ydych yn eu caru neu'n eu casáu, mae adolygiadau yn ffordd wych i’ch
teimladau a’ch safbwyntiau gael eu clywed. Mae'r rhifyn hwn yn llawn i’r ymylon gydag awgrymiadau a syniadau i'ch helpu i leisio eich barn. Bydd yn helpu i wneud eich adolygiadau yn fwy diddorol, i gael y bobl rydych eu heisiau yno ac i wneud yn siŵr eich bod yn cymryd rhan yn y ffordd rydych am gymryd rhan.
Cafodd y cylchgrawn hwn ei ysgrifennu ar eich cyfer chi!

​

Lawrlwythwych PDF:

Cylchgrawn Ffynnu ar gyfer pobl ifanc: Addysg

Crynodeb:

Pam y rhifyn arbennig hwn? P’un a ydych yn ei charu neu'n ei chasáu, mae’r ysgol yn bwysig. Os byddwch yn gwneud yn dda yn yr ysgol, byddwch yn gwella eich siawns o gael yr hyn rydych ei eisiau mewn bywyd. Ond weithiau, os ydych mewn gofal, gall ysgol fod yn anodd. Efallai eich bod yn teimlo eich bod yn cael eich trin yn wahanol i bawb arall. Nad yw rhai athrawon yn obeithiol y byddwch yn llwyddo. Efallai, eich bod yn cael eich bwlio? Neu eich bod yn ei chael hi'n anodd gwneud ffrindiau mewn ysgol newydd?


Daliwch ati. Mae Ffynnu yma i helpu. Mae'r rhifyn hwn yn llawn i’r ymylon gydag awgrymiadau a syniadau i gael y gorau o’r ysgol.

​

Lawrlwythwych PDF:

Cylchgrawn Ffynnu ar gyfer pobl ifanc: Cwnsela yn yr ysgol.

Crynodeb:

Iawn, felly rydych mewn gofal ac weithiau mae'n anodd ond mae pobl ar gael a all eich helpu.  A ydych yn gwybod ble i gael yr help hwnnw?

 

Mae’r darparu arweiniad, cyngor ac awgrymiadau ynglŷn â chael gafael ar wasanaeth cwnsela ar gyfer pobl ifanc mewn gofal.

​

Lawrlwythwych PDF:

Pan Fydda i'n Barod – Cwestiynau Cyffredin: Cynllunio'r broses i bobl sy'n gadael gofal bontio i fyd oedolion

Crynodeb :

Mae'r adnodd hwn yn defnyddio’r cwestiynau, syniadau ac awgrymiadau a gyflwynwyd drwy ein gwaith ymgynghori cenedlaethol gyda gofalwyr maeth, ymarferwyr maethu a staff ledled Cymru.

​

Lawrlwythwych PDF:

Please reload

Cyfraniadau o ffynonellau eraill:

Gweledigaeth ar gyfer Gofal Plant sy’n Derbyn Gofal yng Nghymru 2016-2020

Awduron: NSPCC; Gweithredu dros Blant; Barnardo's Cymru; Y Rhwydwaith Maethu; Plant yng Nghymru; Voices from Care Cymru

Crynodeb: 

I baratoi ar gyfer Ymgyrchoedd Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sefydlwyd gweithgor o elusennau er mwyn hyrwyddo’r angen am ‘Weledigaeth’ newydd ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal yng Nghymru.
 

​

Lawrlwythwych PDF:

Dyletswyddau ar Wasanaethau i Blant pan fydd plant yn y system gofal.

Awdur: Grŵp Hawliau'r Teulu.

Crynodeb:

Os yw eich plentyn yn derbyn gofal yn y system gofal, am ba reswm bynnag, mae yna rai pethau y mae'n rhaid i Wasanaethau Plant eu gwneud i wneud yn siŵr bod eich plentyn yn derbyn gofal da ac yr ymgynghorir â chi (ac aelodau pwysig eraill o'r teulu) ynghylch penderfyniadau allweddol sy’n ymwneud â’ch plentyn.
Cafodd y ddalen gyngor hon ei hysgrifennu ar gyfer rhieni/gofalwyr neu unrhyw un â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn. Mae’n egluro’r dyletswyddau cyfreithiol ar Wasanaethau Plant yn Lloegr pan fydd plant yn y system gofal. Mae’r gyfraith yng Nghymru yn debyg i'r gyfraith yn Lloegr ond mae rhai gwahaniaethau allweddol, felly ni fydd popeth yn y daflen gyngor hon yn gymwys os yw eich plentyn yn derbyn gofal yn y system gofal yng Nghymru.

​

Lawrlwythwych PDF:

Effaith Ymlyniad a Thrawma ar Ddysgu.

Awdur: Ann Bell, Adoption UK.

Crynodeb:

Cyflwyniad PowerPoint gan Ann Bell, Cyfarwyddwr Partneriaeth Cymorth Mabwysiadu Cymru. Mae'r cyflwyniad yn cwmpasu’r pynciau canlynol:

• Rhag-amodau ar gyfer dysgu

• Effeithiau ffisiolegol a seicolegol ymlyniad gwael yn ystod y blynyddoedd cynnar a thrawma

• Beth sy'n gweithio - Y 3 Elfen

• Y cyd-destun polisi yng Nghymru

 

Lawrlwythwch y cyflwyniad PowerPoint:

Please reload

Sylwadau

Ydych chi'n ystyried un o'r adnoddau uchod yn arbennig o ddefnyddiolneu oes gennych enghraifft o'i ddefnyddio wrth ymarfer?  Neu hoffech chi rannueich barn, efallai?  Defnyddiwch y blwch isod i roi gwybod i ni!

 

Os yw eich sylw yn cyfeirio at adnodd penodolgwnewch yn siŵr eich bod yncynnwys ei deitl.  Bydd pob sylw'n cael ei gymedroli cyn cael ei gyhoeddi.

bottom of page