top of page
Decorating easter Eggs

Ffocws Adnoddau: Magu Plant. Rhowch Amser Iddo.

Capture.PNG

Ymgyrch yw Magu plant. Rhowch amser iddo i roi awgrymiadau, gwybodaeth a chyngor i rieni â phlant ifanc; er mwyn eu helpu i annog a chanmol plant am ymddygiad da wrth ofalu am eu lles eu hunain. Er gall delio â hynt a helynt o fod yn rhiant fod yn anodd ar brydiau, y chi yw’r dylanwad mwyaf ar fywyd eich plentyn. Mae sut rydych yn cefnogi eich plentyn yn bwysicach na phethau eraill megis faint o arian rydych yn ei ennill neu strwythur eich teulu. Does yr un rhiant yn berffaith a gall pawb gael trafferth â gofynion y bywyd newydd o fod yn rhiant, yn enwedig yn y cyfnodau cynnar. Er gall fod yn adeg sy’n codi ofn, dengys ein tudalen Facebook a’n gwefan fod pawb yn wynebu sefyllfaoedd tebyg. Rydym yn creu cymuned ar-lein ble gall rhieni rannu eu meddyliau, yn ogystal â’u hargymhellion a’u profiadau eu hunain o fagu plant. Mae ein gwefan (www.gov.wales/giveittime) yn cynnwys awgrymiadau ynglŷn â sut i ymdopi gyda sefyllfaoedd beunyddiol, fel gall rhieni fwynhau amseroedd bwyd heb y gweiddi, siopa heb y strancio, amser bath heb y dagrau ac amser gwely heb y brwydrau! Nid yw magu plant yn hawdd, ac er yn y blynyddoedd cynnar fod y ffocws ar eich plentyn, mae llawn cyn bwysiced eich bod yn gofalu am eich hunan hefyd. Enw’r ymgyrch yw ‘Rhowch amser iddo’ oherwydd rydym eisiau i rieni gymryd amser iddyn nhw eu hunain a mwynhau'r profiad o fod yn rhiant.

Blogs

Darllenwch straeon, profiadau ac awgrymiadau byd go iawn gan ein teuluoedd sy'n Wynebau ein hymgyrch Magu Plant. Rhowch ymgyrch amser iddo. Wedi'i llenwi â syniadau am siopa, teithio gyda phlentyn ifanc, dyddiau allan a gweithio gyda'r plant i helpu gyda'r tasgau yn y tŷ. O fewn y ‘blogiau’ teuluoedd mae awgrymiadau a syniadau i wneud bywyd teuluol ychydig yn haws.

‘Magu Plant. Rhowch amser iddo’ – Awgrymiadau ar gyfer arwain ymddygiad plant

Dyma pump syniad sy’n gweithio i’ch helpu i ddatblygu perthynas dda gyda’ch plenty.

 

Bydd y syniadau hyn yn annog ymddygiad positif, yn hwb i hyder eich plentyn ac yn ei gefnogi gydol pob cam o’i ddatblygiad.

Mae pob plentyn yn unigryw a byddant yn ymateb yn wahanol. Os ydych chi’n rhoi cynnig ar y syniadau hyn gyda’i gilydd ac yn rhoi digon o amser iddyn nhw weithio, dylen nhw eich helpu i reoli ymddygiad eich plentyn yn well. Peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to os nad yw pethau’n gwella ar unwaith. Bydd addasu i’ch dull newydd yn cymryd amser, felly ceisiwch fod yn amyneddgar a phositif. Os ydych chi’n dal ati, dylech weld gwelliant.

Mae pob rhiant yn cael trafferth rheoli rhai mathau o ymddygiad ac mae pob plentyn yn dangos ymddygiad anodd ar ryw adeg. Dyw hi ddim yn hawdd newid y ffyrdd rydym ni’n gwneud pethau. Does neb yn gwneud pethau’n iawn drwy’r adeg felly peidiwch â bod yn rhy galed gyda chi’ch hun - does neb yn berffaith.

Cofiwch nad yw’ch plentyn yn berffaith chwaith. Gallai llawer o’r ymddygiad sy’n ddrwg yn eich tyb chi fod yn gyffredin mewn gwirionedd i oedran a chyfnod datblygiad eich plentyn.

Gwnewch amser i roi trefn a phatrwm i’ch diwrnod (addas i blant 2-7)

Peidiwch â phoeni pan mae plant ifanc yn eich gwthio i ben eich tennyn. Dyna sut maen nhw’n dysgu beth sy’n iawn a beth sydd ddim yn iawn. Mae’n gwbl naturiol ond gall drethu’ch amynedd! Gall helpu os ydych chi’n dilyn trefn reolaidd ac ambell reol fel teulu.

 

Gwnewch amser i wrando, siarad a chwarae

Mae pob plentyn yn unigryw. Wrth siarad, gwrando a chwarae gyda’ch plentyn byddwch yn dysgu mwy am ei anghenion a’i ddiddordebau. Bydd hyn yn helpu’ch plentyn i ddatblygu’n dda a hefyd yn eich helpu i feithrin perthynas gref.

 

Cymerwch eich amser i fodelu’r ymddygiad rydych chi am ei weld (Addas o enedigaeth)

O eiliad eu geni, mae plant yn gwrando ar yr hyn rydych chi’n ei ddweud ac yn gwylio’r hyn rydych chi’n ei wneud. Mae babis a phlant yn dysgu drwy ddynwared. Drwy wylio sut rydych chi’n ymddwyn, bydd eich plentyn yn dysgu sut i ymateb mewn sefyllfaoedd tebyg.

 

Gwnewch amser i ganmol (addas o enedigaeth)

Mae canmol yn gweithio’n well i annog yr ymddygiad rydych chi’n ei hoffi yn hytrach na beirniadu a chosbi’ch plentyn am ymddygiad sy’n achosi problemau. Mae’n helpu’ch plentyn i deimlo’n dda am ei hun a theimlo’n dda amdanoch chi.

 

Gwnewch amser ar gyfer cariad ac anwyldeb (addas o enedigaeth)

Mae cariad ac anwyldeb yn hollbwysig i ddatblygiad ymennydd iach plentyn. Mae teimladau plant am eu hunain, pa mor hyderus ydyn nhw a pha mor dda maen nhw’n ymdopi â straen, yn cael eu heffeithio gan y ffordd mae eu rheini’n ymateb iddyn nhw.

 

 

Pa fath o Fam neu Dad ydych chi?

Gall fod yn ddefnyddiol meddwl am y math o riant rydych chi am ei fod. Gall pa fath o riant ydych chi effeithio ar les eich plentyn, sut maen nhw’n datblygu a sut maen nhw’n dysgu. Gall effeithio hefyd ar eich perthynas â’ch plentyn.

Er bod magu plant yn gyfnod gwerth chweil, llawn mwynhad yn aml, i’r rhan fwyaf ohonom, dydy hi ddim yn hawdd bod yn rhiant. Weithiau mae’n llawer anoddach na’r disgwyl. Mae llawer yn gwneud yr hyn ‘sy’n dod yn naturiol’ ar ôl cael plant. Dydyn ni ddim yn meddwl llawer am ein hymddygiad tuag at ein plentyn neu sut rydym yn ymateb i’w ymddygiad. Yn aml, rydym ni’n dilyn yr hyn rydym ni wedi’i ddysgu gan ein rhieni neu’n cael syniadau gan ffrindiau. Mae rhai rhieni’n cael syniadau o lyfrau neu gan y bobl y maen nhw’n eu gweld, fel ymwelwyr iechyd.

Gallwch ddewis yr hyn rydych chi am ei ddefnyddio o’ch plentyndod eich hun, neu gan bobl eraill yn eich bywyd, a’r hyn rydych chi am ei adael allan.

Yr hyn sy’n bwysig yw eich bod yn gofalu am eich plentyn ac yn ceisio rhoi’r cychwyn gorau iddo yn ei fywyd.

Mathau o rianta

Mae seicolegwyr wedi edrych ar y gwahanol ffyrdd mae rhieni’n gofalu am eu plant ac yn ymateb i ymddygiad eu plant. Maen nhw wedi dod i’r casgliad bod tri math o riant

 

Gwnewch mwy o amser i ofalu am eich hun a rheoli straen

Mae’n bwysig gofalu am eich hun yn ogystal â gofalu am eich plant. Dyw bod yn rhiant ddim yn hawdd bob tro. Gall fod yn dalcen caled os ydych chi wedi blino, dan straen neu’n anhapus.

Mae bod yn rhiant yn un o’r pethau hyfrytaf ac anoddaf yn y byd. Dyw hi ddim yn hawdd bob tro a gall fod yn dipyn o her ar adegau. Does neb yn berffaith a does neb yn gwneud pethau’n iawn drwy’r amser.
Gall gofalu am blentyn fod yn waith caled. Mae’r rhan fwyaf o rieni yn teimlo emosiynau negyddol o bryd i’w gilydd. Mae’r teimladau hyn yn gyffredin. Mae’n bwysig rheoli teimladau fel dicter a rhwystredigaeth er mwyn i chi fwynhau bod yn rhiant a chael cartref diogel a hapus i’ch plentyn. Mae rhieni dan straen yn fwy tebygol o weiddi neu ddefnyddio cosbau llym fel taro.

Neilltuwch amser ar gyfer eich hun

Os ydych chi’n cael hoe i ymlacio, yna rydych chi’n fwy tebygol o allu ymdopi â phopeth. Cymerwch 10 munud i gael bath, darllen cylchgrawn neu siarad â ffrind. Peidiwch â threulio amser yn teimlo’n euog am y pethau “y dylech eu gwneud” pan mae’ch plentyn yn cysgu. Defnyddiwch rywfaint o’r amser i ymlacio a gwneud rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau.

Sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd teuluol

Mae bod yn Fam neu'n Dad sy'n gweithio yn gallu bod o fudd i chi a'ch teulu. Gall ymrwymo i swydd a theulu roi llawer o foddhad i chi yn nwy ran eich bywyd. Mae llawer o gyfrifoldeb ynghlwm wrth y ddwy rôl, a weithiau gall fod yn anodd trefnu'r ymrwymiadau hyn.

Nid oes un ateb arbennig ar gyfer sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng gwaith a bywyd teuluol. Rydych chi, eich sefyllfa a'ch teulu yn unigryw. Gall cydbwysedd da fod yn wahanol i wahanol deuluoedd. Gall trafod pethau eich helpu i weld beth sy'n bwysig i chi, a chanfod atebion. 

Nid oes y fath beth â chydbwysedd 'perffaith' rhwng gwaith a bywyd teuluol, ond efallai y bydd yr awgrymiadau hyn yn helpu

Creu cydbwysedd rhwng 'Amser Teulu' ac 'Amser Sgrin'

Er bod ‘amser sgrin’ yn ffordd o ymlacio i nifer o bobl, yn ôl arolwg diweddar ymhlith rhieni â phlant dan bump oed mae defnydd eu plant o dechnoleg yn un o'u pum pryder mwyaf. Felly, sut allwch sicrhau bod eich plentyn yn cael digon o amser gyda theulu ac i ryngweithio yn ogystal â defnyddio technoleg.

Mae amser sgrin yn golygu amser a dreulir yn gwylio'r teledu, yn chwarae gemau fideo neu’n defnyddio teclynnau llaw fel ffôn neu lechen.

Canllawiau ar amser sgrin

Nid oes modd i unrhyw un ddiddanu plentyn ifanc drwy'r dydd ar eu pennau eu hunain neu gadw i fyny gyda'u hegni! Yn aml, bydd rhieni'n ystyried technoleg fel ffordd o roi 'egwyl' neu 'gyfnod tawel' i blant er mwyn iddyn nhw allu canolbwyntio ar ychydig o waith tŷ. Fodd bynnag, mae arbenigwyr yn argymell cyfyngu ar amser sgrin plant ifanc oherwydd yr effaith y gall ei chael ar eu hiechyd corfforol, yn enwedig eu golwg a'u hosgo a hefyd eu hiaith a'u sgiliau cymdeithasol. Maen nhw'n argymell y canlynol.

 

Helpu plant drwy brofedigaeth

Mae marwolaeth rhiant neu berthynas agos yn ergyd drom beth bynnag yw'ch oed, ond mae colli mam neu dad yn un o'r profedigaethau dwysaf y gall plentyn ifanc eu hwynebu.

Gall rhoi'r gefnogaeth gywir i blentyn sy'n galaru gyfrannu'n helaeth at sicrhau ei fod yn parhau i ffynnu ac i deimlo'n gadarnhaol ynghylch ei ddyfodol. Mae Sarah Bull, Pennaeth Cymorth wedi Profedigaeth yn City Hospice, Caerdydd (George Thomas Hospice Care gynt) wedi bod yn darparu gwasanaethau cwnsela ers dros 12 mlynedd i blant sy'n galaru. Yma, mae'n cynnig cyngor i rieni neu ofalwyr sy'n ceisio helpu plentyn sy'n galaru.

Cefnogi’ch plentyn pan fydd rhiant yn mynd i’r carchar

Dydy hi ddim yn hawdd magu plentyn ar eich pen eich hun; mae’r pwysau’n fwy byth os ydych chi’n rhiant sy’n ceisio magu teulu a’ch partner yn y carchar.

Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu rhiant pan fydd rhywun yn cael ei garcharu ydy penderfynu beth i’w ddweud wrth y plant. Mae oedolion yn chwarae rhan fawr yn y broses o helpu plant i adnabod eu teimladau ac i wybod beth ydy’r ffordd orau o’u deall.  Mae’n bosib y bydd y plant yn wynebu llawer iawn o wahanol emosiynau wrth feddwl am riant yn mynd i’r carchar, ac y bydd angen help arnyn nhw i ddelio â’r emosiynau hynny.

Beth i’w ddweud wrth y plant?

Eich penderfyniad chi ydy hynny, ond yn gyffredinol mae plant yn ymdopi’n well pan rydych chi’n onest am yr hyn sydd wedi digwydd. Gallai diflaniad sydyn annisgwyl fod yn ddryslyd i blant a’u dychryn, gan eu bod yn aml yn gallu synhwyro bod rhywbeth o’i le.

Cyfnodau ac Ymddygiadau Anodd

Mae’r rhan fwyaf o deuluoedd yn mynd trwy gyfnodau sy’n anodd eu rheoli neu sy’n peri pryder, er enghraifft, amser gwely ac amser bwyd ac wrth ddysgu’r plentyn i ddefnyddio’r poti. Weithiau, mae plant yn ymddwyn mewn ffyrdd heriol, er enghraifft, yn strancio ac yn cnoi.

 

Dyma rai pryderon cyffredin sydd gan rieni a syniadau ar sut i fynd i’r afael â nhw. Wrth gwrs, mae pob plentyn yn unigryw, ond efallai y bydd yr awgrymiadau hyn yn help i chi.

Mae yna hefyd wahanol weithwyr proffesiynol y gallech chi siarad â nhw. Bydd gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd fanylion gwasanaethau yn eich ardal. Gallwch chi eu ffonio nhw ar 0300 123 7777. Mae gwefan Pwynt Teulu (Dolen allanol) hefyd yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau a gweithgareddau yn eich ardal.  

Ymdopi â Babi sy’n Crio

Mae pob babi’n crio ac weithiau, mae’n gallu bod yn anodd ymdopi. Crio yw’r unig ffordd mae’ch babi’n gallu dweud wrthych chi beth sydd ei angen arno. Bydd rhoi llawer o gariad a sylw i’ch babi yn eich helpu chi i nesáu ato, a bydd yn dysgu bod y byd yn ddiogel a bydd yn teimlo’n ddiogel.

Strancio

Mae strancio’n gyffredin iawn ymhlith plant bach a phlant ifanc. Mae’n digwydd pan fydd plant yn rhwystredig ac o dan straen. Mae’n gallu digwydd hefyd pan fydd plant wedi blino ac eisiau bwyd neu os ydyn nhw’n teimlo’n genfigennus, yn ofnus neu’n anhapus.

Siopa

Mae mynd i siopa yn gallu bod yn brofiad cyffrous i blant, ac yn gyfle iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau siarad trwy bwyntio at bethau newydd a diddorol. Weithiau, fodd bynnag, mae plant ifanc yn gallu mynd yn rhwystredig, sy’n gallu gwneud pethau’n anodd i chi.

Ymdopi â’r Nadolig – gair i gall

Mae’r Nadolig yn gyfle gwych i deuluoedd fwynhau treulio amser gyda'i gilydd a chael cyfle i weld ffrindiau a theulu estynedig. Mae’n gyfnod hynod gyffrous i blant hefyd.

Cyngor ar frwsio dannedd (ar gyfer plant rhwng 6 mis a 5 oed)

Mae'n bwysig dros ben cadw dannedd eich plentyn yn lân ac yn iach ond mae'n gallu bod yn anodd os nad yw'n mwynhau cael brwsio ei ddannedd. Dyma gyngor ynghylch pryd a sut i frwsio dannedd eich plentyn.

Amser gwely (Addas ar gyfer 3-5)

Weithiau, bydd eich plentyn yn syrthio i gysgu’n rhwydd ac yn cysgu drwy’r nos. Dro arall, bydd yn ei chael hi’n anodd syrthio i gysgu ac yn deffro yn ystod y nos. Gall trefn amser gwely helpu i leihau problemau amser gwely.

Hyfforddiant i ddefnyddio’r toiled neu’r poti (Addas o 2 flynedd)

Mae dysgu sut i ddefnyddio’r toiled yn gam mawr i’ch plentyn. Peidiwch â rhuthro pethau. Mae’r rhan fwyaf o blant bach yn barod i ddefnyddio’r poti neu’r toiled pan fyddan nhw rhwng 2 a 3 oed. Gadewch i’ch plentyn ddysgu ar ei gyflymder ei hun.

Amser bwyd (Addas ar gyfer 1-5)

Mae’n gallu bod yn anodd cael y teulu i gyd i eistedd i lawr i fwynhau pryd o fwyd gyda’i gilydd. Ond mae’n werth yr ymdrech. Mae rhannu prydau bwyd teuluol yn rhoi cyfle i bawb ddal i fyny a mwynhau cwmni ei gilydd. Mae eich gwylio chi ac aelodau eraill o’r teulu yn bwyta gwahanol fwydydd yn gallu ...

Amser bath (yn addas o enedigaeth i 3 oed)

Mae amser bath yn gallu bod yn llawer o hwyl ac mae’n helpu’ch plentyn i ymlacio cyn mynd i’r gwely. Fodd bynnag, mae rhai babis a phlant bach ofn y bath, sy’n gallu gwneud pethau’n anodd i chi.

Gwlychu’r gwely (Addas o 3 flynedd)

Mae gwlychu’r gwely yn gyffredin iawn ymhlith plant o dan 5 oed. Fel arfer, bydd y broblem hon yn diflannu ar ei phen ei hun.

Cnoi (Yn addas i blant 6 mis - 3 oed)

Mae’r rhan fwyaf o blant yn mynd trwy gyfnod lle byddan nhw’n cnoi plentyn arall neu Mam a Dad. Dydyn nhw ddim yn deall y byddan nhw’n gwneud dolur i rywun. Yn ffodus, dim ond cyfnod fydd e fel arfer.

Ymdopi â Phlentyn Bach sy’n Crio

Yr un fath â babis, mae plant bach yn crio am eu bod nhw eisiau bwyd, wedi blino, yn anghyfforddus neu angen eich sylw. Pan fydd plentyn bach yn gallu siarad, bydd hi’n haws o lawer iddyn nhw ddweud wrthych chi pam eu bod nhw’n crio a beth sydd ei angen arnyn nhw.

Cadw’ch plentyn yn ddiogel rhag cael ei gam-drin (Addas i 5-11)

Trwy ddysgu’r Rheol Dillad Isaf i’ch plentyn, byddwch chi’n helpu i’w ddiogelu rhag cael ei gam-drin. Mae’n ffordd syml y gall rhieni helpu i gadw eu plant (5-11 oed) yn ddiogel rhag cael eu cam-drin yn rhywiol – heb ddefnyddio geiriau a fydd yn eu dychryn a heb sôn am ryw o gwbl.

Datblygiad eich plentyn

Mae plant yn tyfu ac yn newid yn gyflym iawn o’u geni hyd nes eu bod yn bump oed. Bydd deall mwy am ddatblygiad eich plentyn yn eich helpu i ddeall ymddygiad eich plentyn yn well.

 

Y wen gyntaf, gafael mewn tegan, cropian, cymryd y cam cyntaf a dweud eu gair cyntaf - cerrig milltir datblygiadol yw’r enw ar y pethau hyn. Dyma’r pethau y bydd y rhan fwyaf o blant yn gallu eu gwneud erbyn oedran arbennig. Mae’r rhan fwyaf o blant yn dilyn patrwm tebyg wrth ddatblygu, er y bydd yr oedran y mae pob plentyn yn cyrraedd cerrig milltir penodol yn amrywio. Hwyrach y bydd plant anabl neu blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cymryd mwy o amser i gyrraedd y gwahanol gamau.

Mae gwybodaeth fanylach am ddatblygiad eich plentyn yn y llyfr ‘Naw Mis a Mwy’(Dolen allanol). Mae’n cynnwys gwybodaeth am fwydo, torri dannedd, brechiadau, iechyd eich plentyn a gwneud eich cartref yn ddiogel hefyd. Os ydych chi’n poeni am ddatblygiad eich plentyn, siaradwch â’ch meddyg teulu neu ymwelydd iechyd.

Peidiwch â chymharu eich plentyn gyda phlant eraill. Bydd hyn yn rhoi pwysau arnoch chi a’ch plentyn. Mae pob plentyn yn unigryw. Bydd pob plentyn yn datblygu pan mae’n barod ac yn ei ffordd ei hun. Byddan nhw’n cyrraedd y camau datblygu gwahanol ar adegau gwahanol. Byddan nhw’n ymateb yn wahanol i’r pethau o’u cwmpas hefyd, yn dibynnu ar eu personoliaeth neu natur.

Mae’r ffordd y mae’ch plentyn yn ymddwyn yn rhan o dyfu i fyny. Bydd llawer o’r ymddygiad sy’n anodd i chi yn gwbl normal ar gyfer oedran a cham datblygu’ch plentyn. Ceisiwch fwynhau a dathlu newidiadau’ch plentyn ac addasu iddyn nhw.  

Dyma wybodaeth gyffredinol am y gwahanol gamau datblygu a chyngor ar sut i annog a chynorthwyo’ch plentyn.

 

Eich babi yn y mis cyntaf (newydd-anedig)

Mae cael babi newydd yn amser arbennig iawn ond blinedig iawn. Mae’n achosi newidiadau mawr yn eich bywyd hefyd.    

 

Eich babi 1 – 6 mis

Mae’ch babi’n dechrau cymdeithasu. Mae’n dwlu bod yn eich cwmni ac fe fyddwch chi’n dechrau deall tueddiadau a negeseuon eich babi’n well.

 

Eich babi 7 - 12 mis

Mae’ch babi’n gallu symud mwy a bydd yn cyfrannu mwy at fywyd y teulu. Bydd yn gallu adnabod pobl sy’n gyfarwydd ac yn bwysig iddo ac efallai y bydd yn dechrau gofidio os nad yw’n gallu’ch gweld neu’ch teimlo chi’n agos ato.

 

Eich plentyn bach 1 – 2 oed

Erbyn hyn mae’ch plentyn bach yn gallu symud a siarad mwy o lawer ac mae’n gwneud ei orau i fod yn fwy annibynnol. Mae’n dechrau gwybod beth mae e ei eisiau a ddim ei eisiau hefyd!

 

Eich plentyn 2 – 3 oed

Dyma gyfnod cyffrous – mae’ch plentyn yn gallu siarad, cerdded, rhedeg a dringo i archwilio’r byd o’i gwmpas. Mae ganddo sgiliau corfforol da ond mae angen i chi ei gadw’n ddiogel. Gallwch ei helpu i ddatblygu drwy gynnig cyfleoedd (diogel) iddo chwarae, wrth i chi gadw llygad arno.

 

Eich plentyn 3-5 oed

Mae’ch plentyn yn dod yn fwy annibynnol ac yn gallu gwneud rhagor o bethau ar ei ben ei hun. Mae’n dechrau dysgu sut mae cyd-dynnu gydag eraill, ac mae’n gallu rheoli ei deimladau’n well (er ei fod yn cael ambell stranc o hyd o bosib).

Eich plentyn yn 5 i 7 oed

Ar y cam hwn, bydd eich plentyn yn dechrau ei flynyddoedd cyntaf o addysg. Fel arfer, gwylio eu plant yn rhoi cynnig ar weithgareddau newydd, eu cefnogi ar ddiwrnod mabolgampau a rhoi cymeradwyaeth iddynt mewn dramâu ysgol yw rhai o uchafbwyntiau'r rhan fwyaf o rieni.

Deall pam y mae ymennydd eich plentyn mor anhygoel!

Mae ymennydd eich plentyn yn dechrau tyfu a datblygu cyn iddo gael ei eni hyd yn oed. Bydd yn tyfu fwyaf yn ystod y tair blynedd gyntaf, ac erbyn tair oed, bydd 90% o'i ymennydd wedi'i ddatblygu. Bydd chwarae, cariad a gofal ac ymateb i'w grïo a'i breblan yn cynnig y profiadau iawn ...

Cymerwch amser i feddwl sut rydych chi’n ymateb i ymddygiad digroeso neu ymddygiad sy’n achosi problemau

Er nad yw’n teimlo felly o bosib, mae’r rhan fwyaf o’r ymddygiad sy’n ddrwg yn eich barn chi yn ymddygiad digon arferol mewn gwirionedd ar gyfer oedran a chyfnod datblygu’ch plentyn. Dyw eich plentyn ddim yn gwneud hyn yn fwriadol.

Rydym yn tueddu i sylwi ar ymddygiad negyddol a sôn amdano gan ei fod yn mynd dan ein croen. Yn anffodus, gall rhoi llawer o sylw i’r ymddygiad hwn waethygu’r sefyllfa. Yn hytrach, ceisiwch roi llawer o ganmoliaeth a sylw i’r ymddygiad rydych chi am weld mwy ohono. Ochr yn ochr â rhoi llawer o ganmoliaeth i’ch plentyn, byddwch yn helpu i feithrin perthynas bositif gyda’ch plentyn drwy roi llawer o gariad a sylw iddo, a chymryd yr amser i siarad, gwrando a chwarae. Bydd datblygu patrwm a threfn i’ch diwrnod hefyd yn helpu, drwy sefydlu ambell rwtîn.

Pan fyddwch chi’n gweld eich plentyn yn gwneud rhywbeth nad ydych chi’n ei hoffi, cymrwch funud neu ddau i feddwl sut rydych chi am ymateb.

Negeseuon Allweddol yr Ymgyrch

10637215.jpg
10637217.jpg
10637210.jpg
10637213.jpg
10637206.jpg
Blogs
Magu Plant. Rhowch Amser iddo
Pa fath o Fam neu Dad
Gwnewch mwy o amser i ofalu am eich hun
Sicrhau Cydbwysedd
Creu Cydbwysedd
Helpu plant drwy brofedigaeth
Anchor 8
Cyfnodau ac Ymddygiadau
Datblygiad eich plentyn
Cymerwch Amser
10637190.jpg
childs-brain-fma.jpg
10637176.jpg
10637166.jpg
10637157.jpg
10637152.jpg
10637159.jpg
5-7.jpg
Fideos
Parenting. Give it Time

Parenting. Give it Time

Watch Now
bottom of page