
Mae PaCE yn darparu cymorth gofal plant i rieni sy’n cael hyfforddiant neu sy’n chwilio am waith. Mae hefyd yn cynnig cymorth unigol gan gynghorydd i’w helpu i ddod o hyd i swydd sy’n siwtio.
Ewch amdani gyda PaCE.
A yw’r rhain yn rhwystrau ichi?
​
Dyma ambell ffactor all rwystro pobl rhag dod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy:
-
Gofal Plant
-
Diffyg sgiliau neu ddiffyg hyfforddiant cyflogadwyedd
-
Costau gofal plant
-
Meth dod o hyd i waith lleol sy’n cyd-fynd ag anghenion gofal plant
Beth all PaCE ei gynnig?
​
-
Gall PaCE helpu rhieni/gwarcheidwaid sydd allan o waith i gael hyfforddiant a chyflogaeth
-
Gall PaCE ddod o hyd i ddatrysiadau i oresgyn rhwystrau gofal plant – a thalu amdanynt – i alluogi rhieni/gwarcheidwaid i baratoi i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth
-
Caiff rhieni/gwarcheidwaid gymorth unigol gan gynghorydd PaCE (cliciwch yma) yn eu cymuned leol
-
Gall cynghorwyr PaCE gefnogi rhieni/gwarcheidwaid i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd – bydd hyn yn gwneud byd o les i hunanhyder hefyd
“Dw i mor ddiolchgar i PaCE, a dw i’n gwerthfawrogi’r cyfle’n fawr iawn. Mae wedi newid fy mywyd yn y 4 mis d’wetha. Ro’dd cymorth y swyddog mor werthfawr – yn broffesiynol ac yn bersonol. Fydd hi byth yn deall pa mor werthfawr oedd hynna, a’r gwahaniaeth y gwnaeth hi. Dw i’n berson hollol wahanol i’r person y bu iddi gwrdd y tro cynta’! Ro’dd hi’n credu yndda’i, ac fe wellodd hi fy hyder yn aruthrol. Mae fy ffordd o feddwl wedi newid yn llwyr.”
Ydych chi’n gymwys?
​
Gall PaCE helpu rhieni/gofalwyr sydd ddim mewn unrhyw addysg, hyfforddiant neu waith yn bresennol.
Beth ddylwn i ei wneud nesaf?
​
Gall PaCE helpu rhieni nad ydynt ar yn o bryd yn gwneud unrhyw addysg, hyfforddiant neu swydd
Beth ddylwn i ei wneud nesaf??
​
Os oes gennych ddiddordeb ac yn credu eich bod yn gymwys, gallwch ateb y cwestiynau, llenwi’r ffurflen, a’i hanfon at PaCE@llyw.cymru
​
Yna, bydd aelod o dîm PaCE yn anfon y cais ymlaen at gynghorydd perthnasol.
​
Bydd y cynghorydd:
​
-
yn cynnig cymorth wyneb-yn-wyneb mewn lleoliadau cyfleus a braf i’ch cefnogi i chwilio am hyfforddiant a chyflogaeth
-
yn gallu’ch helpu chi gyda chyfrifo’ch budd-daliadau wrth ichi chwilio am waith
-
yn gallu’ch cynghori chi am hunangyflogaeth
-
yn cynnig cymorth gyda chostau gofal plant cyn-cyflogaeth
-
yn cynnig cyngor ar y gofal plant cofrestredig sydd ar gael yn lleol, a’r gost
