top of page
Calculator

Swyddi, Cyllid ac Ymgynghoriadau

Cyllid a Grantiau

​​

Cronfa Cymuned y Loteri Fawr

Mae Gwobrau am Bawb y Loteri Genedlaethol yn cynnig cyllid o £300 i £10,000 i gefnogi beth sy'n bwysig i bobl a chymunedau.

Medrwch chi geisio os yw'ch sefydliad yn:

  • sefydliad gwirfoddol neu gymuned

  • elusen wedi'i gofrestru

  • grŵp neu glwb wedi'i gyfansoddi

  • cwmni nid-er-elw neu Gwmni Diddordeb Cymuned

  • menter gymdeithasol

  • ysgol

  • corff statudol (yn cynnwys cyngor cymunedol, tref neu lan)

 

Mae gan Wobrau am Bawb y Loteri Genedlaethol tair blaenoriaeth cyllid ac mae angen i chi medru esbonio yn eich cais sut bydd eich prosiect neu weithgaredd yn:

  • Dod a phobl ynghyd ac adeiladu perthnasoedd cryf tu fewn ac ar draws cymunedau

  • gwella'r llefydd ac ardaloedd sy'n bwysig i gymunedau

  • galluogi mwy o bobl i gyflawni ei botensial gan weithio i gyfarch â materion at y cam mwyaf cynnar posib.

Medrwch chi ddarganfod mwy o'r gwefan Cronfa Cymuned yma.

 

Gwobrau Datblygiad Cymru'r Ymddiriedolaeth y Tywysog

Yn 16-30 oed? Gallech chi fod yn gymwys am dâl, o lan at £250 i helpwch chi mewn i waith, addysg neu wirfoddoli.

Mae Gwobrau Datblygiad yn gallu helpi ariannu:

  • Offer neu gyfarpar ar gyfer eich swydd neu gymhwyster e.e. pecyn torri gwallt, offer saernïaeth, gwisg wen cogydd, cyfarpar amddiffynnol personol

  • Ffioedd cwrs a hyfforddiant

  • Dillad ar gyfer cyfweliadau neu brofiad gwaith

  • Ffioedd trwydded e.e. carden CSCS (adeiladaeth) neu drwydded SIA (diogelwch)

  • Costau gofal plant i helpi rieni sengl cyrchu addysg fer tymor

  • Costau trafnidiaeth e.e. trafnidiaeth bws/rheilen i swydd newydd tan eich tâl cyflog cyntaf

Am wybodaeth bellach:

Freephone 0800 842 842; Tecstio 'Call me' i 07983 385 418; princes-trust.org.uk; info@princes-trust.org.uk.

​

Ymgynghoriadau

Ymgynghoriad i Blant a Phobl Ifanc ar Wahardd Gwerthu cŵn a Chathod Bach yn Fasnachol gan Drydydd Parti

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i blant a phobl ifanc roi eu barn ar wahardd gwerthu cŵn a chathod bach hyd at chwe mis oed yn fasnachol gan drydydd parti.

 Mae Plant yng Nghymru yn cynnal yr arolwg ar ran Llywodraeth Cymru ac yn croesawu barn holl blant a phobl ifanc Cymru. Gallwch gael mynediad i’r arolwg yma. Bydd yr arolwg yn cau ar 17/08/2020.

​

Cylchgrawn Haf Plant yng Nghymru yn amlygu

Thema ein cylchgrawn Haf fydd Llesiant yn ystod Argyfwng y Coronafeirws. Rydyn ni'n croesawu cynnwys gan ein haelodau sy'n tynnu sylw at unrhyw waith, ymchwil neu ddealltwriaeth sy'n gysylltiedig â'r thema hon. Ni ddylai erthyglau fod yn hwy na 1,000 o eiriau. Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn erthyglau fydd 30 Gorffennaf, felly cysylltwch.

​

Newidiadau i lwfansau myfyrwyr anabl

Yn ein diweddariad diwethaf i’r aelodau ar 31 Mawrth, fe gyflwynon ni rai o’r newidiadau i’n dull o gyflwyno’n gwasanaethau gwerthfawr mewn ymateb i bandemig COVID-19. Nawr rydyn ni’n addasu hynny ac yn gweithredu ffyrdd newydd, cyffrous o gyflwyno’n gwaith creiddiol yn ystod y misoedd nesaf.

 

Mae pwysigrwydd a manteision gweithio ar y cyd, cadw mewn cysylltiad a siarad ag un llais bellach yn bwysicach nag erioed o’r blaen. Mae hynny’n golygu gwrando ar beth sydd gan ein haelodau i’w ddweud; eiriol dros y canlyniadau gorau posibl i blant a rhannu’r atebion a’r adnoddau gorau posibl i gefnogi ein haelodau a’r plant, y bobl ifanc a’r teuluoedd rydych chi’n gweithio gyda nhw ledled Cymru.

 

Rydyn ni’n awyddus i gasglu barn y sector plant er mwyn i ni fedru cyflawni’r nodau hyn gyda’n gilydd, ac ymateb mor effeithiol ag y gallwn.

Cymerwch funud, os gwelwch yn dda, i lenwi ein harolwg, fydd yn helpu i lywio ein rhaglen waith. Rydyn ni wedi’i gadw’n fwriadol fyr er mwyn peidio â mynd â gormod o’ch amser gwerthfawr.

 

Cliciwch yma i gwblhau ein harolwg gan Dydd Gwener 2 Mai.

​

Newidiadau i lwfansau myfyrwyr anabl

Rydyn ni am wella ansawdd y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys. Rydyn ni’n ymgynghori ar y newidiadau canlynol:

  • cyfuno lwfansau

  • argaeledd pecynnau cymorth wedi’u trefnu o flaen llaw

  • cyfrifoldeb dros drefnu cymorth

  • gwella ymwybyddiaeth o’r lwfansau i fyfyrwyr anabl

​

Strwythur ar gyfer Fframweithiau Prentisiaethau Cymru

  • Rydym yn ymgynghori ynghylch y cynnig sy'n cynnwys:

  • cyflwyno strwythur newydd, symlach

  • canolbwyntio ymdrechion i ddatblygu fframweithiau ar lwybrau galwedigaethol

  • sicrhau bod y fframweithiau presennol yn addas i’r diben

​

Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglÅ·n â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2020

Rydym yn cynnal ymgynghoriad ar ddiwygio rheoliadau i ymestyn y cyfnod arolygu presennol am un cylch yn unig. Bydd hyn yn cefnogi diwygiadau addysg.

​

Sicrhau mynediad i’r cwricwlwm llawn

Rydym yn ceisio’ch barn ar effaith y cynnig i newid hawl rhieni i dynnu eu plant allan o Addysg Grefyddol ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn y cwricwlwm newydd.

​

Cymwysterau Cymru’ ar natur y cymwysterau i’w cymryd yn 16 oed nawr yn fyw!

Mae addysg yng Nghymru yn dechrau ar gyfnod sylweddol o newid. Yn ganolog i’r newidiadau hyn mae cwricwlwm newydd arloesol ar gyfer y rhai rhwng 3 ac 16 oed.

Er mwyn ategu’r cwricwlwm newydd, rydym am sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o bobl 16 oed yn cymryd cymwysterau ac iddynt barch byd-eang, sy’n eu hysbrydoli a’u paratoi ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith. Rydym am sicrhau bod unrhyw newidiadau a wnawn yn arwain at welliannau a sefydlogrwydd hirhoedlog i’r system gymwysterau.

​

Ymchwil Beaufort

 

Arolwg Pwrpas ac Asiantaeth Addysgu

Ariannwyd yr ymchwil gan Brifysgol Caerdydd ac arweiniwyd gan Dr Jevin Smith. Nad yw'r arolwg wedi noddi neu wedi uno gyda'r Llywodraeth Cymraeg. Darganfyddwch mwy a chymerwch ran.

 

Yr Arolwg WRISK

Mae menywod sy'n cynllunio beichiogrwydd, neu sy'n feichiog, yn cael cyngor a gwybodaeth o nifer o ffynonellau gwahanol. Gall hyn fod yn ddefnyddiol; ond gall hefyd achosi pryder - ac na fydd tystiolaeth pob amser wedi esbonio'n dda. Mae'r prosiect WRISK eisiau clywed am eich profiadau chi. Amcan yr arolwg WRISK yw dysgu mwy am brofiadau menywod o'r cyngor a gwybodaeth a dderbyniwyd cyn ac yn ystod beichiogrwydd. Mae'r arolwg ar agor i holl fenywod sydd wedi bod yn feichiog yn y 5 mlynedd diwethaf, er gwaethaf sut mae ei beichiogiad/beichiogadau efallai wedi terfynu. Mae yna ddiddordeb penodol yn clywed o fenywod sy'n aml ddim yn cael ei glywed - megis menywod BAME, menywod sy'n derbyn budd-daliadau lles, a menywod ifancach a henach.

Cwblhewch yr arolwg a chael eich dweud.​

 

Arolwg ymwybyddiaeth Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru eisiau ennill mewnwelediad​ i'r barnau a dealltwriaeth o brofiadau plentyndod niweidiol ymhlith staff mewn swyddi sector cyhoeddus tu fewn Cymru.

I wneud hyn, maen nhw wedi comisiynu Ymchwil a Mewnwelediad Strategol (YMS), cwmni ymchwil annibynnol wedi seilio yng Nghaerdydd, i redeg arolwg ar lein. Bydd hyn yn casglu'r barnau o weithwyr sector cyhoeddus ar draws Cymru.

Mae'r arolwg yn bwysig oherwydd byddai'n helpwn ni ddeall, am y tro cyntaf, y lefelau o arloesedd, gwybodaeth a sgiliau penodol ar gael mewn gwasanaethau cyhoeddus i daclo'r canlyniadau o PPAs yn y boblogaidd oedolyn a phlentyn yng Nghymru.

Gall yr arolwg cael ei gwblhau mewn Saesneg neu Gymraeg gan bwyso yma: www.bit.ly/PHWACES

Hoffai Iechyd Cyhoeddus Cymru clywed wrth gymaint â gweithwyr sector cyhoeddus a phosib, beth bynnag yw ei swydd. Gall hyn cynnwys, er enghraifft, pobl yn dosbarthu gwasanaethau llinell blaen neu bobl sy'n gweithio mewn swyddi gweithredol, rheolaeth neu arweiniad. Gall hefyd cynnwys pobl sy'n gweithio mewn sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau wedi'i ariannu gan y sector cyhoeddus e.e. Trydydd Sector.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu eisiau unrhyw wybodaeth i helpi hybu'r arolwg, cysylltwch ag Angus Campbell o YMS ar angus@strategic-research.co.uk.

 

Arolwg Cyflwr y Genedl: Gofalwyr Carennydd

Mae'r arolwg Cyflwr y Genedl yn gyfle ar gyfer holl ofalwyr carennydd i helpi ddatblygu gwasanaethau a brwydro am welliannau mewn cymorth ar gyfer teuluoedd carennydd. Y ffocws blwyddyn yma yw'r amser cyfnod chi'n dod yn ofalwr carennydd yn gyntaf, oherwydd mae hyn yn gyfnod mor bwysig ag sy'n aml siapio’r cymorth rydych chi a'ch teulu yn derbyn. Rydym ni eisiau clywed yn union wrthoch chi am eich profiadau a'r gwelliannau hoffech chi ei weld. Cwblhewch yr arolwg yma.

 

Swyddi wag

Plant yng Nghymru - Prif Weithredwr

Rydym yn chwilio am arweinydd deinamig, angerddol a phrofiadol a fydd yn datblygu safle'r sefydliad sydd eisoes wedi'i sefydlu. Bydd ein Prif Weithredwr newydd yn cynyddu ein heffaith a'n gallu dylanwadu er budd pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.

 

Plant yng Nghymru yw'r sefydliad cenedlaethol trydydd sector sy'n gweithio'n agos gydag eraill i wella bywydau pob plentyn, person ifanc a theulu yng Nghymru. Ein nodau yw lleihau anghydraddoldeb, cynyddu cyfleoedd a datblygu cymdeithas sy'n addas i blant.

 

Mae Plant yng Nghymru yn:

  • Creu llais unedig ar gyfer y sector, trwy ymgyrchoedd, datblygu gallu ac annog cydweithredu

  • Rhoi llais i bob plentyn a pherson ifanc, felly maen nhw wrth wraidd polisïau, gwasanaethau a darparu. Ni yw'r sefydliad blaenllaw sy'n galluogi cyfathrebu rhwng llunwyr polisi Llywodraeth Cymru a'r sefydliadau sy'n gyfrifol am weithredu polisi

  • Hyrwyddo hawliau ac anghenion plant a phobl ifanc

  • Llunio polisi ac yn rhannu arfer gorau i ddatblygu'r gweithlu, trwy gyfarfodydd, digwyddiadau a hyfforddiant.

 

Cliciwch ar y ddolen isod i ddarllen mwy am y rôl gyffrous hon.

LAWRLWYTHWCH BECYN YMGEISIO O'N GWEFAN YMA

​

​

Rydyn ni’n galw ar bob person ifanc sy’n llawn angerdd ynghylch llesiant emosiynol a iechyd meddwl!

• Ydych chi eisiau helpu Llywodraeth Cymru i lunio dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a iechyd meddwl?

• Ydych chi eisiau cael lleisio barn ar y ffordd orau o sicrhau bod y gefnogaeth sydd ar gael mewn ysgolion yn wir yn gweithio i blant a phobl ifanc?

 

Os ydych, cyflwynwch gais i fod yn rhan o’n Bwrdd Ieuenctid a lawrlwythwch y ffurflen gais yma.

​

Beth sydd dan sylw:

• Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rhaglen o waith yn edrych ar ddull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a iechyd meddwl, ac rydyn ni am i bobl ifanc ein helpu i lunio dull gweithredu sy’n gweithio i chi. 

• Rôl yw hon fydd yn cynghori tîm dull ysgol gyfan Llywodraeth Cymru a thîm y Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc ar amrywiaeth o brosiectau.

• Bydd cyfarfodydd y Bwrdd Ieuenctid yn cael eu cynnal bob 3 mis. Byddwn ni’n trefnu ac yn talu am eich costau teithio, eich bwyd a’ch llety (os bydd angen i chi aros dros nos). Bydd y cyfarfod cyntaf yng Nghaerdydd, ond wedyn bydd yn dibynnu ar beth sy’n gweithio i aelodau’r grŵp.

 

Pam dylech chi ymuno:

• Cyfle i fynd i gyfarfodydd y grŵp bob 3 mis. Byddwn ni’n trefnu ac yn talu am eich costau teithio, eich bwyd a’ch llety (os bydd angen i chi aros dros nos). Bydd y cyfarfod cyntaf yng Nghaerdydd, ond wedyn bydd yn dibynnu ar beth sy’n gweithio i aelodau’r grŵp. 

• Yn ogystal â helpu i lywio gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant mewn ysgolion, bydd bod yn aelod o’r Bwrdd Ieuenctid yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau newydd a chwrdd â phobl ifanc o bob rhan o Gymru a dod i’w nabod.

• Fel aelod o’r Bwrdd bydd disgwyl i chi weithio’n galed, ond byddwn ni’n ceisio sicrhau bod y cyfarfodydd yn rhyngweithiol a’n bod ni’n cael hwyl hefyd!

​

Rydyn ni’n chwilio am 20 o bobl ifanc o bob rhan o Gymru.

Rydyn ni am i bobl o bob cefndir gyflwyno cais, yn arbennig os ydych chi’n aelod o leiafrif neu grŵp sydd dan anfantais.

 Os ydych chi’n teimlo mai dyma’r swydd i chi, ewch ati i lenwi’r ffurflen gais a’i dychwelyd erbyn 12:00 canol dydd, ddydd Gwener 20 Rhagfyr 2019. Bydd cyfarfod cyntaf y Bwrdd Ieuenctid yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 22 Chwefror. 

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: Lynne.Hill@childreninwales.org.uk neu ffoniwch Lynne ar 029 2034 2434.

​

Prif Weithredwr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Mae’r Bwrdd yn chwilio am Brif Weithredwr deinamig i feithrin ac arwain yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (Yr Academi Arweinyddiaeth). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arweinydd ysbrydoledig sy’n llawn hygrededd ac sy’n gallu dangos arweinyddiaeth strategol, sgiliau cyfathrebu ardderchog a dealltwriaeth o anghenion Cymru a’i system addysg.

​

CYNGOR YMGYNGHOROL IEUENCTID

Mae plant a phobl ifanc yng nghalon ein gwaith - gwnaethant nhw hyd yn oed helpwn ni ddewis ein henw a logo yn ôl pan ddaethom ni'n Into Film yn gyntaf.

I sicrhau bod barnau a lleisiau pobl ifanc yn cael ei glywed, sefydlwyd ni Gyngor Ymgynghorol Ieuenctid Into Film, sef banel o bobl ifanc angerddol o'r oedrannau 10 i 18. Mae'r Cyngor yn gweithredu fel modd o ddod â'n haelodau ynghyd o ar draws y DU, i roi mewnwelediad iddyn nhw am ddatblygiadau newydd ar gyfer y sefydliad, ac i ni glywed ac actio ar eu hadborth ar bopeth o ein catalog ffilm, i adnoddau dysgu a chystadlaethau, trwy i'r Å´yl Into Film.

Mae'r cyngor hefyd yn fuddiol iawn ar gyfer datblygiad personol, cymdeithasol ac academaidd a hyder gweithio mewn grwpiau pobl ifanc. Disgrifiwyd Aelod y cyngor, Sophie, fel "modd arbennig i gwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd megis arweiniad a chyfrifoldeb".

Mae pobl ifanc sy'n cymryd rhan yn profi buddion cadarnhaol megis mwy o hyder gyda siarad cyhoeddus a sgiliau rhannu gwybodaeth, gwaith tîm ac annibyniaeth.

 

Cynlluniad Cenedlaethol ar gyfer Cymru yn edrych am brentisiaid newydd

Mae'r Cynlluniad Cenedlaethol ar gyfer Cymru yn edrych am brentisiaid newydd i weithio yn y gwyddfeydd Cynlluniad Cenedlaethol ym Mae Caerdydd.

 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn astudio Diploma mewn Gweinyddiaeth Busnes am 12 mis yn cychwyn ym mis Ionawr 2020, a bydd yn gweithio mewn ystod eang o ardaloedd o'r tîm adnoddau dynol, o ymgyrch cyfathrebu ac ymrwymiad, i ddiogelwch ac adrannau cyfleusterau adeilad. 

​

Gall prentisied disgwyl ennill £17,383, sy'n gyflog byw yn ôl y Cynlluniad Cenedlaethol, ac mae nifer o brentisiaid blaenorol wedi mynd ymlaen i gyflog llawn amser, rhai gyda'r Cynlluniad Cenedlaethol.

 

Am fwy o wybodaeth ar y gosodiadau, ac i ddarllen y storiâu o bobl sydd wedi bod yn brentisiaid yn flaenorol yn y Cynlluniad Cenedlaethol, ymwelwch â gwefan Cynlluniad Cenedlaethol ar gyfer Cymru os gwelwch yn dda.

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 27 Medi 2019

bottom of page