
Ffocws yr Adnodd: #NegeseuoniWeithwyrCymdeithasol
​
Ymchwilio Adnoddau
Blog
> Darllen y diweddaraf
Astudiaethau Achos
> Enghreifftiau o ymarfer gofal ac addysg yng Nghymru
> Adnoddau a ddefnyddir gan ymarferwyr addysg a gofal cymdeithasol
Ymchwil ac Adolygiadau Ymarfer
> Amrywiaeth o erthyglau ac adroddiadau o bob cwr o’r DU
Polisïau a Strategaethau’r Llywodraeth
> Polisïau a chynlluniau Cymru, gan gynnwys dogfennau pwysig y DU
> Am gyngor a chydweithio pellach
Ymwadiad
Oni nodir fel arall, ffynonellau allanol yw’r holl ddeunyddiau. Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i wneud yn siŵr bod y wefan yn ddibynadwy ac yn gywir, ni allwn gymryd cyfrifoldeb dros gynnwys dolenni allanol neu’r modd y defnyddir deunyddiau a gaiff eu lawrlwytho / agor yma.
#NegeseuoniWeithwyrCymdeithasol – Ffilm a grëwyd gan bobl ifanc â phrofiad o ofal
​
Dawn Mannay, Rachael Vaughan, Helen Davies, Emma Jones, Prifysgol Caerdydd
Gwnaethom weithio gyda grŵp o bobl ifanc mewn gofal a ddaeth i brosiect a gynhaliwyd gan Sefydliad Roots Cymru a Phartneriaeth Ymestyn yn Ehangach De-orllewin Cymru – Prifysgol Abertawe i greu’r ffilm hon. Mae’r ffilm yn cynrychioli’r negeseuon allweddol yr oedd pobl ifanc eisiau eu rhannu gyda gweithwyr cymdeithasol.
​
Mae’r grŵp yn cwrdd yn rheolaidd ac yn cynnig y cyfle i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal gwrdd â’i gilydd ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol, cyfleoedd addysgol ac ystod o weithgareddau. Ym mis Ionawr a Chwefror 2019, gwnaethom weithio gyda’r grŵp i greu ein ffilm gyntaf ar y cyd sef #FromYoungPeopleForYoungPeople – Find Your Tribe.
​
Yn ystod haf 2019, gwnaethom gwrdd eto i feddwl am ba negeseuon eraill a oedd yn bwysig a phwy a ddylai glywed y negeseuon hyn. Gwnaethom ddechrau drwy feddwl am syniadau a phenderfynu ar y prif negeseuon, yna aethom ati i sgriptio a chreu elfennau gweledol ar gyfer y ffilm. Gwnaethom ddefnyddio byrddau stori i geisio cyfuno syniadau'r grŵp ac yna buom yn arbrofi wrth ddylunio a defnyddio ‘fuzzy felts’.
Defnyddiwyd y delweddau gwreiddiol a wnaed gan y grŵp fel sail i'r animeiddiad ffilm, i ledaenu’r negeseuon y mae'r bobl ifanc am eu rhannu gyda chymorth Like an Egg. Cafodd y negeseuon hyn eu creu gan bobl ifanc ar sail eu profiadau nhw. Mae’r ffilm yn cynrychioli eu syniadau am sut yr hoffent weithio gyda gweithwyr cymdeithasol yn y dyfodol. Dyma eu #negeseuoniweithwyrcymdeithasol. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r ffilm.
Dawn Mannay - Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd @dawnmannay
Rachael Vaughan – CASCADE: Children’s Social Care Research and Development Centre, Prifysgol Caerdydd @VaughanRach
Helen Davies - Phartneriaeth Ymestyn yn Ehangach De-orllewin Cymru – Prifysgol Abertawe @ReachingWiderSU
Emma Jones - Sefydliad Roots Cymru @RootsWales
Sylwadau
Ydych chi'n ystyried un o'r adnoddau uchod yn arbennig o ddefnyddiol, neu a oes gennych enghraifft o'i ddefnyddio wrth ymarfer? Neu hoffech chi rannu eich barn, efallai? Defnyddiwch y blwch isod i roi gwybod i ni!
Os yw eich sylw yn cyfeirio at adnodd penodol, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys ei deitl. Bydd pob sylw'n cael ei gymedroli cyn cael ei gyhoeddi.