top of page
Thumbs Up.png

Ffocws ar adnoddau - Plant a Phobl Ifanc mewn Gofal

ExChange: Gofal ac Addysg

Roedd 6,407 o blant mewn gofal yng Nghymru ar 31 Mawrth 2018, sef cynnydd o 8% o gymharu â’r flwyddyn gynt. Mae plant a phobl ifanc mewn gofal ac ymadawyr gofal yn cael eu hystyried yn grŵp ar y cyrion ac mae eu profiadau cynnar o brofedigaeth, anawsterau teuluol, trallod yn ystod plentyndod, ansefydlogrwydd a symud lleoliadau, cael eu labelu, perthnasoedd anodd gydag athrawon a gweithwyr cymdeithasol, cyrhaeddiad academaidd isel, diweithdra, iechyd meddwl gwael, problemau cyffuriau ac alcohol, a digartrefedd, yn aml yn nodweddu eu hynt.

Mewn ymateb i’r problemau hyn, comisiynodd Llywodraeth Cymru astudiaeth gan y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE). Ers hynny, mae CASCADE wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar ddatblygu adnodd cymuned arferion ar-lein i wella profiadau addysgol plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal yng Nghymru – ExChange: Gofal ac Addysg. Mae’r adnodd yn cynnig ‘siop un stop’ ddefnyddiol o wybodaeth am wella deilliannau mewn gofal ac addysg i ymarferwyr, gofalwyr maeth, athrawon, ymchwilwyr, a phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae'r adnoddau yn cynnwys y canlynol:

Tudalen Blog

Digwyddiadau Gofal ac Addysg

Astudiaethau Achos

Cysylltiadau

Tudalennau Ffocws

“Toolkit” Ymadawyr Gofal

Ymwneud mwy â Gofal Cymdeithasol

Prosiect LACE

#negeseuoniysgolion

Wrth Ofalwyr Maeth ar gyfer Gofalwyr Maeth

Wrth Bobl ifanc ar gyfer Pobl Ifanc

Deunyddiau Ymarfer

Ymchwil ac Adolygiadau Ymarfer

Polisïau a Strategaethau’r Llywodraeth

Mae rhai enghreifftiau o’n hadnoddau i’w gweld isod, ond cewch ragor yn ExChange: Gofal ac Addysg ac rydym bob amser yn awyddus i gynnwys mwy o adnoddau. Os hoffech gyfrannu, cysylltwch â contact@exchangewales.org

Cylchgronau

Ffilm #NegeseuonIYsgolion

Messages to Schools (CYM)
Watch Now

Cylchgrawn Thrive

Posteri

bottom of page