
Ymchwilio Adnoddau
Blog
> Darllen y diweddaraf
Astudiaethau Achos
> Enghreifftiau o ymarfer gofal ac addysg yng Nghymru
> Adnoddau a ddefnyddir gan ymarferwyr addysg a gofal cymdeithasol
Ymchwil ac Adolygiadau Ymarfer
> Amrywiaeth o erthyglau ac adroddiadau o bob cwr o’r DU
Polisïau a Strategaethau’r Llywodraeth
> Polisïau a chynlluniau Cymru, gan gynnwys dogfennau pwysig y DU
> Am gyngor a chydweithio pellach
Ymwadiad
Oni nodir fel arall, ffynonellau allanol yw’r holl ddeunyddiau. Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i wneud yn siŵr bod y wefan yn ddibynadwy ac yn gywir, ni allwn gymryd cyfrifoldeb dros gynnwys dolenni allanol neu’r modd y defnyddir deunyddiau a gaiff eu lawrlwytho / agor yma.
Strategaeth Llywodraeth Cymru
Strategaeth: Codi uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru
Mae'r ddogfen hon yn disgrifio rhaglen Llywodraeth Cymru a’i chwe thema allweddol i fynd i'r afael â thangyflawni addysgol plant sy'n derbyn gofal. Dylid ei darllen ar y cyd â’r cynllun gweithredu cysylltiedig.
Cynllun Gweithredu: Codi uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru
Mae'r ddogfen hon yn nodi, fesul thema, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau addysgol plant sy'n derbyn gofal. Mae'n cynnwys amserlen o'r camau gweithredu penodol sydd i’w cyflawni gan Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid allweddol. Dylid ei darllen ochr yn ochr â'r strategaeth: Codi uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru
Flwyddyn yn Ddiweddarach: Codi uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru - Adroddiad Cryno
Mae'r ddogfen hon yn crynhoi rhaglen Llywodraeth Cymru a'r cynnydd a wnaed wrth gyflawni camau gweithredu o fewn ei chwe thema allweddol i ysgogi gwelliannau yng nghanlyniadau addysgol plant sy’n derbyn gofal. Mae'n crynhoi'r hyn a gyflawnwyd o dan y rhaglen o fis Chwefror 2016 tan fis Ionawr 2017, a’r hyn sydd wedi’i gynllunio ar gyfer 2017-2018.
Crynodeb Pobl Ifanc: Flwyddyn yn Ddiweddarach - Codi uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru - Adroddiad Cryno
Mae'r ddogfen hon i bobl ifanc, sy’n hawdd ei darllen, yn crynhoi rhaglen Llywodraeth Cymru a'r cynnydd a wnaed wrth gyflawni camau gweithredu o fewn ei chwe thema allweddol i ysgogi gwelliannau yng nghanlyniadau addysgol plant sy’n derbyn gofal. Mae'n crynhoi'r hyn a gyflawnwyd o dan y rhaglen o fis Chwefror 2016 tan fis Ionawr 2017, a’r hyn sydd wedi’i gynllunio ar gyfer 2017-2018.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Canolfan Gwybodaeth a Dysgu Gofal Cymdeithasol Cymru: Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
TROSOLWG A MYNEDIAD AT Y DDOGFEN
Awdur: Gofal Cymdeithasol Cymru (Cyngor Gofal Cymru / Asiantaeth Gwella'r Gwasanaethau Cymdeithasol gynt)
Blwyddyn: 2017
Crynodeb:
Ein nod yw sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn y meysydd gofal cymdeithasol ac iechyd yn hyderus ac yn meddu ar y wybodaeth i weithredu'r ddeddfwriaeth ac egwyddorion y Ddeddfau.
Polisïau a strategaethau eraill
What Works in Promoting Good Outcomes for Looked After Children and Young People?
PAPUR STRATEGAETH
Lleoliad: Cymru
Awdur: Asiantaeth Gwella’r Gwasanaethau Cymdeithasol
Blwyddyn: 2007
Crynodeb:
Paratowyd y papur hwn i gefnogi’r gwaith o gomisiynu gwasanaethau plant anghenus yng Nghymru fel rhan o'r Rhaglen Gwell Deilliannau i Blant Anghenus a noddir gan Asiantaeth Gwella’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Nod cyffredinol y Rhaglen yw paru gwasanaethau ar gyfer plant anghenus yn well ac yn fwy cost-effeithiol drwy gomisiynu strategol effeithiol sy’n canolbwyntio ar feysydd fel:
• Dosbarthiad cyffredinol adnoddau a gwasanaethau ar gyfer cymorth i deuluoedd a gofal amgen.
• Targedu gwasanaethau tuag at bwyntiau a dulliau ymyrryd effeithiol sy'n diwallu anghenion plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o fynd i mewn i'r system gofal.
• Gwella ansawdd lleoliadau a gwasanaethau eraill ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, gan arwain at ganlyniadau gwell.
Codi cyrhaeddiad, cyflawniad a dyheadau plant sy'n derbyn gofal: adroddiad arfer orau.
Gwlad: Cymru
Awdur: Estyn
Crynodeb:
Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar arfer da sy'n bodoli mewn ysgolion, awdurdodau lleol a'r consortia rhanbarthol. Mae'r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos o arfer orau. Mae’r adroddiad hwn wedi ei fwriadu ar gyfer Llywodraeth Cymru, llywodraethwyr, penaethiaid, uwch arweinwyr a staff mewn ysgolion, awdurdodau lleol a’r consortia rhanbarthol.
Arolygiad Cenedlaethol o ddiogelu a chynllunio gofal ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal ac Unigolion sy’n Gadael Gofal sy’n ymddwyn mewn ffordd sy’n eu gwneud yn agored i niwed neu a allai beri risg.
Lleoliad: Cymru
Awdur: Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)
Crynodeb:
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried ansawdd ac effeithiolrwydd gwaith cynllunio gofal a llwybrau mewn perthynas â diogelu a hyrwyddo canlyniadau plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol neu sy’n gadael gofal.
Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) arolygiad
ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru ac mae’r adroddiad yn defnyddio tystiolaeth o 220 o achosion ynghyd â barn plant, pobl ifanc a’u gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol ar draws awdurdodau lleol ac asiantaethau partner.
Canllawiau NICE ar gyfer Plant a Phobl Ifanc sy’n Derbyn Gofal
Lleoliad: Y DU
Awdur: Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE)
Crynodeb:
Mae'r canllaw hwn yn ymdrin â sut y gall sefydliadau, gweithwyr proffesiynol a gofalwyr weithio gyda'i gilydd i ddarparu gofal o ansawdd uchel, lleoliadau sefydlog a chydberthnasau anogol ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal . Ei nod yw helpu’r plant a'r bobl ifanc hyn i gyrraedd eu potensial llawn a mwynhau'r un cyfleoedd mewn bywyd â'u cyfoedion.
Nid yw'r canllaw hwn yn darparu gwybodaeth fanwl ar hybu iechyd, nac yn cwmpasu triniaethau ar gyfer afiechydon a chyflyrau penodol.
Ym mis Mai 2015, gwnaed newidiadau i argymhellion 3, 5, 12, 36 a 38 er mwyn adlewyrchu newidiadau i bolisïau'r llywodraeth.
Hyrwyddo addysg plant sy'n derbyn gofal: Canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol.
CANLLAWIAU STATUDOL
Lleoliad: Lloegr
Awdur: Yr Adran Addysg
Blwyddyn: 2014
Crynodeb: Canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol i gefnogi dyheadau plant sy'n derbyn gofal i gyflawni mewn addysg bellach ac addysg uwch
Sylwadau
Ydych chi'n ystyried un o'r adnoddau uchod yn arbennig o ddefnyddiol, neu a oes gennych enghraifft o'i ddefnyddio wrth ymarfer? Neu hoffech chi rannueich barn, efallai? Defnyddiwch y blwch isod i roi gwybod i ni!
Os yw eich sylw yn cyfeirio at adnodd penodol, gwnewch yn siŵr eich bod yncynnwys ei deitl. Bydd pob sylw'n cael ei gymedroli cyn cael ei gyhoeddi.