top of page

digwyddiadau

Archif Digwyddiadau

Mae'r adran hon yn rhestru digwyddiadau ExChange blaenorol.  Mae cyflwyniadau PowerPoint ac adnoddau eraill ar gael i'w lawrlwytho.

Gweithdy ymarferwyr

Beichiogrwydd a magu plant ar gyfer pobl ifanc sydd o dan ofal y wladwriaeth neu ar fin ei adael

Bydd y gweithdy'n trafod tystiolaeth fewnol ynglŷn â risg a ffactorau amddiffynnol, darparu gwasanaethau cymorth, a chanlyniadau. Yna, bydd cyflwyniad o'r ymchwil bresennol yng Nghymru; gan gynnwys canfyddiadau sy'n dod i'r amlwg ynglŷn â nifer bresennol y rhieni yng ngofal neu sy'n gadael gofal yng Nghymru, y ddarpariaeth gwasanaethau cymorth, a chanlyniadau i blant. Gan fanteisio ar arbenigedd gweithwyr proffesiynol a rhieni sy'n bresennol, bydd y sesiwn yn annog trafodaeth grŵp ynglŷn â polisïau ac arferion allweddol sy'n ymwneud â beichiogrwydd a'r profiad o fod yn rhiant i bobl ifanc mewn gofal neu sy'n gadael gofal, sef:

 

•   Polisïau ac arferion 'da' cyn ac ar ôl dod yn rhiant

•   Rôl y Wladwriaeth fel nain neu daid

•   Datblygu fframwaith cymorth i Gymru

 

17 Mai 2017 Llanrwst & 24 Mai 2017 Cardiff

Canolfan Adnoddau Ar-lein

ExChange: Gofal ac Addysg Adnoddau

Bydd y ganolfan ar-lein rad ac am ddim a dwyieithog hon yn cynnwys adnoddau o feysydd ymarfer ac ymchwil, gan gynnwys crynodebau a gwerthusiadau clir, ffyrdd ymarferol o ddatblygu, addasu a gwella adnoddau, cysylltiadau defnyddiol rhwng gwahanol ddulliau, ynghyd â blogiau diddorol, arbenigedd ynglŷn ag ymarfer a thystiolaeth ymchwil. Bydd y ganolfan yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a'u haddysg, a bydd o ddiddordeb i athrawon, gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol ac ymarferwyr.

 

26 Ebrill 2017, Prifysgol Caerdydd

3 Mai 2017, Bae Colwyn

Gweithdy ymarferwyr

Troseddwyr Cam-drin Domestig

Mae'r gweithdy hwn yn ystyried sut y gall gweithwyr cymdeithasol addasu eu harferion er mwyn nodi’r peryglon y mae cleientiaid yn eu hwynebu gan droseddwyr cam-drin domestig yn fwy effeithiol. Bydd y Pecyn Nodi Troseddwyr i’w Blaenoriaethu (PPIT), a ddatblygwyd yng Nghymru, yn cael ei gyflwyno a’i drafod.

​

7 Ebrill 2017, Bangor & 13 Ebrill 2017, Caerdydd

Gweithdy ymarferwyr

Defnyddio cyfieithwyr ar y pryd mewn gwaith cymdeithasol: beth all ymarferwyr ei wneud i weithio'n effeithiol gyda chyfieithwyr ar y pryd?

​Bydd y gweithdy hwn yn trin a thrafod sut gall gweithwyr cymdeithasol addasu eu hymarfer er mwyn gweithio’n effeithiol gyda chleientiaid y mae angen cyfieithwyr ar y pryd arnynt. Nod yr hyfforddiant yw cynnig strategaethau ymarferol er mwyn gwella sut mae ymarferwyr yn cyfathrebu drwy ddefnyddio cyfieithydd ar y pryd.

 

28/02/17 Caerdydd & 01/03/2017 Wrecsam.

Seminar Arweinyddiaeth

Creu Newid Sefydliadol: Ystyried Ymagweddau Newydd at Wasanaethau Plant

Bydd y seminar yn ystyried sut i newid gwasanaethau. Mae ymagweddau newydd at Wasanaethau Plant, megis Ymarfer Adferol, Ymarfer Systemig ac Arwyddion Diogelwch wedi dod yn boblogaidd yn y blynyddoedd diwethaf.

 

19/01/2017, Caerdydd

Gweithdy ymarferwyr

Gwaith cymdeithasol ac alcohol

Bydd y gweithdy hwn yn archwilio rhai o'r trafodaethau allweddol presennol mewn gwaith ymchwil sy'n ein helpu i ddeall arferion gweithwyr cymdeithasol (a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithasol) wrth weithio gyda phobl sydd â phroblemau o ran sut maen nhw, neu rywun maent yn ei adnabod, yn defnyddio alcohol.

 

12/01/2017 Cyffordd Llandudno & 18/01/17 Caerdydd

Please reload

bottom of page