top of page

Defnyddio cyfieithwyr ar y pryd

Calendr ExChange ar gyfer 2016/17​
​
  • Gweithdai misol sy’n canolbwyntio ar destunau penodol i ymarferwyr 
  • Gweithdai arweinyddiaeth chwemisol i benaethiaid gwasanaethau ac uwch staff
  • Cynhadledd chwemisol
​
Mae pob un o’n digwyddiadau
yn rhad ac am ddim!*
​
*ar gyfer ymarferwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru

Defnyddio cyfieithwyr ar y pryd mewn gwaith cymdeithasol: beth all ymarferwyr ei wneud i weithio'n effeithiol gyda chyfieithwyr ar y pryd?

 

David Westlake a Rebecca Jones,

Canolfan Tilda Goldberg,

Prifysgol Swydd Bedford

 

​Bydd y gweithdy hwn yn trin a thrafod sut gall gweithwyr cymdeithasol addasu eu hymarfer er mwyn gweithio’n effeithiol gyda chleientiaid y mae angen cyfieithwyr ar y pryd arnynt. Nod yr hyfforddiant yw cynnig strategaethau ymarferol er mwyn gwella sut mae ymarferwyr yn cyfathrebu drwy ddefnyddio cyfieithydd ar y pryd. Ar sail data a gasglwyd mewn ymchwil ddiweddar am gyfieithwyr ar y pryd ym maes gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd, mae’r sesiynau yn defnyddio recordiadau o ymarfer uniongyrchol gyda chleientiaid ac enghreifftiau chwarae rôl er mwyn meithrin sgiliau ymarferol. Mae'n addas ar gyfer ymarferwyr a gweithwyr cymorth ym maes gwaith cymdeithasol oedolion a phlant yn ogystal â gwaith cymdeithasol teuluol sy’n gweithio gyda chyfieithwyr ar y pryd yn rhan o’u rôl. Bydd y gweithdy hwn yn trin a thrafod sut gall gweithwyr cymdeithasol addasu eu hymarfer er mwyn gweithio’n effeithiol gyda chleientiaid y mae angen cyfieithwyr ar y pryd arnynt. Nod yr hyfforddiant yw cynnig strategaethau ymarferol er mwyn gwella sut mae ymarferwyr yn cyfathrebu drwy ddefnyddio cyfieithydd ar y pryd. Ar sail data a gasglwyd mewn ymchwil ddiweddar am gyfieithwyr ar y pryd ym maes gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd, mae’r sesiynau yn defnyddio recordiadau o ymarfer uniongyrchol gyda chleientiaid ac enghreifftiau chwarae rôl er mwyn meithrin sgiliau ymarferol. Mae'n addas ar gyfer ymarferwyr a gweithwyr cymorth ym maes gwaith cymdeithasol oedolion a phlant yn ogystal â gwaith cymdeithasol teuluol sy’n gweithio gyda chyfieithwyr ar y pryd yn rhan o’u rôl.

​

28 Chwefror 2017

1 Mawrth 2017

​

​

Lawrlwytho adnoddau (Saesneg yn unig):

bottom of page