Ffocws yr Adnodd: Cynhadledd Gofal Preswyl ExChange
Magu ein Plant: Dyfodol Gofal Preswyl
Crynodeb gan Wanda O'Connor, blogiwr gwadd
Ar 19 Tachwedd yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, daeth ymarferwyr ynghyd yn y gynhadledd ‘Magu ein Plant: Dyfodol Gofal Preswyl’ i drafod a gwrando ar ymchwil ar faterion perthnasol yn ymwneud â dyfodol gofal preswyl.
Croesawodd Dr Alyson Rees (Prifysgol Caerdydd) y cynadleddwyr a chyflwyno’r trafodaethau agoriadol. Canolbwyntiodd sesiynau’r bore ar un o ddau recordiad ‘Lleisiau Gofal’ a chyflwyniadau gan yr Athro Sally Holland (Comisiynydd Plant Cymru) a’r Athro David Berridge (Prifysgol Bryste).
Yna cyflwynwyd ‘Dyfodol gofal preswyl’ gan yr Athro David Berridge (Prifysgol Bryste). Mae David, sy’n weithiwr cymdeithasol preswyl â 30 mlynedd o ymchwil i wasanaethau plant, wedi cynhyrchu sawl astudiaeth o ofal preswyl. Yn ystod ei gyflwyniad, tynnodd sylw at y stigma sy’n gysylltiedig â gofal preswyl a’r dirywiad cyson yn ei ddefnydd yn rhyngwladol; yn Lloegr mae’r niferoedd wedi gostwng o 40k i 8k mewn 40 mlynedd.
Ar ôl egwyl, gwahanodd y cynadleddwyr i mewn i un o dri gweithdy:
-
Mike Lewis (Hawliau) ar “Ddefnyddio meddylfryd systemau i wella gofal preswyl plant,”
-
“Canllaw ymarfer da mewn cysylltiad â lleoliadau y tu allan i ardaloedd a thrawsffiniol,” gan Brian Paget (Ymgynghorydd)
-
“Pecyn cymorth therapiwtig i gefnogi gweithwyr preswyl i fynd i'r afael â lles emosiynol ac iechyd meddwl plant mewn gofal,” gan Florence Lindsey-Walters (y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth)
“Fe wnes i ffrindiau da”
Parhaodd sesiynau'r prynhawn ag ail recordiad ‘Lleisiau Gofal: Cyfleoedd’ a phanel yn trafod “Ein dyfodol, ein lleisiau: gofal - gweledigaeth brofiadol o ofal preswyl” gyda Sean O’Neill (Plant yng Nghymru), Chris Dunn (Lleisiau Gofal) a dau berson ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal. Roedd y cwestiynau a ofynnwyd yn cynnwys, ‘Sut gellid gwella’r broses o bontio o ofal preswyl i annibyniaeth?’ a ‘Beth hoffech chi ei weld yn y dyfodol yn y maes gofal preswyl?’ Roedd clywed safbwyntiau’r rheini sydd â phrofiad uniongyrchol o’r system yn rhan amhrisiadwy o’r dydd, gyda nifer o gynadleddwyr yn awyddus i ymgysylltu yn y Sesiwn Holi ac Ateb a ddilynodd.
Cerddi gan bobl sydd mewn gofal preswyl ar hyn o bryd:
I ddilyn cafwyd cyflwyniad ar ‘Wneud cartref mewn gofal preswyl’ gan yr Athro Claire Cameron (Coleg Prifysgol Llundain) a daeth y dydd i ben gyda chyflwyniad Lucy Treby (Gofal Cymdeithasol Cymru), ‘Gofal Cymdeithasol Cymru: cefnogi’r gweithlu i gyflawni canlyniadau da i blant’.
‘Ein profiadau o ofal preswyl’: Byw a Gadael
‘Ein profiadau o ofal preswyl’: Cyfleoedd

“Mae hawliau plant yn hynod o bwysig”
Dechreuodd cyflwyniad yr Athro Holland ar ‘Ddatblygiadau polisi yng Nghymru ers cyhoeddi’r Adroddiad Gofal Cywir’ gyda sylwadau ar y profiadau uniongyrchol, sy’n ysgogi’r meddwl, a glywyd yn y recordiadau ‘Lleisiau Gofal: Byw a Gadael’. Mynegodd Sally Holland pa mor bwysig yw cynnwys plant a phobl ifanc yn fwy mewn penderfyniadau am eu bywydau, a dangosodd, o’r adroddiad ‘Uchelgeisiau Cudd’, fod angen i ni sicrhau bod pobl ifanc sy’n gadael gofal yn cael y gefnogaeth gywir i gyflawni eu huchelgeisiau. At hynny, nododd fod ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ar eithrio pobl ifanc sy’n gadael gofal o’r dreth gyngor tan eu bod yn 25 oed. Gorffennodd Sally drwy bwysleisio’r angen am ddarpariaethau diogel i bobl ifanc y mae eu hangen arnynt ac ar gyfer anghenion therapiwtig ac anghenion gofal cymdeithasol, ac i gadw pobl fregus yn ddiogel.
“Dylai pobl ifanc allu aros mewn cartrefi preswyl tan eu bod yn barod i adael a pheidio â chael eu symud ‘mlaen yn rhy gynnar. Dylai cyn-breswylwyr dderbyn cymorth parhaus.”



