top of page
CIW logo and text.JPG

Y Prosiect Ymwneud Mwy â Gofal Cymdeithasol

Mae'r Llywodraeth Cymraeg wedi ariannu Plant yng Nghymru dros dair blynedd i ddatblygu adnoddau newydd ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi profi gofal ar draws Cymru.

​

Ers dechrau'r prosiect yn 2016, rydym ni wedi gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc i gyd-greu cyfres o ganllawiau ar bynciau yn ymwneud a'u hawliau o dan Ran 6 o'r Ddeddf Gwasanaethau Gofal a Lles (Cymru) 2014. Mae'r canllawiau ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg. Rydym ni eisiau fwy o blant a phobl ifanc gyda phrofiad o ofal i fod yn ymwybodol o'u hawliau ac i gael fwy o lais a rheolaeth dros y broses cynlluniad gofal ac asesiad.

Beth Mae'r Prosiect wedi Cyflawni Erbyn Hyn​

​

Mae Plant yng Nghymru wedi gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn ogystal â phartneriaid allweddol ar draws awdurdodau lleol, byrddau iechyd a'r sector gwirfoddoli i gyd-greu canllawiau iechyd a lles. Mae ein canllawiau yn edrych ar bynciau o ddiddordeb i blant a phobl ifanc. Wrth i'r prosiect datblygu, rydym ni wedi archwilio themâu ehangach o addysg, rheolaeth arian a pherthnasoedd teuluol. Mae'r Ddeddf Gwasanaethau Gofal a Lles (Cymru) 2014 a hawliau'r plant yn ganolog i bob canllaw.

​

Canllawiau wedi datblygu erbyn hyn:

​

​

Canllawiau ychwanegol sydd yn lansio yn Haf/Hydref 2018:

​

  • R​heoli arian a chyllido

  • Dy Addysg 

​

Mae pob canllaw ar gael ar http://www.plantyngnghymru.org.uk/adnoddau-2/plant-syn-derbyn-gofal

​

Ein hamcan yw i'r canllawiau i fod mor hygyrch â phosib. Gall pob un cael ei lawr lwytho o ein gwefan a gall pobl ifanc defnyddio nhw'n annibynnol. Fodd bynnag, rydym ni'n gwerthfawrogi bod gall yna fod heriau ychwanegol i bobl ifanc i gyrchu nhw. Rydym ni'n gobeithio trwy weithio gyda'r bobl broffesiynol sy'n cefnogi nhw'n uniongyrchol, bydd ganddyn nhw'r opsiwn o ddefnyddio canllawiau mewn ymarfer gyda phlant a phobl ifanc i sicrhau mae llais a rheolaeth yn aros yn ganolog i gynlluniad gofal ac asesiad.

 

Ffyrdd i Ymwneud Mwy - 

​

  • Os​ ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc gallech chi ddefnyddio nhw mewn ymarfer

  • Os oes gennych chi wefan ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal neu dudalen intranet ar gyfer pobl broffesiynol efallai byddech chi eisiau rhannu'r linc ar eich gwefan

  • Gallech chi greu neges trydar amdanyn nhw/neu rannu ar eich rhwydweithiau

  • Defnyddio nhw fel teclynnau dysgu mewn timau staff neu gyda phobl ifanc

  • Dwedwch wrthym ni beth chi'n meddwl! Byddem ni'n caru cael eich adborth - efallai bydd yna ardal pwnc penodol byddech chi'n hoffi mewn canllaw yn y dyfodol

​

Fel prosiect gallen ni -​

​

  • Mynychu cyfarfod tîm i ddwedwch wrthoch chi fwy am y prosiect, ymwneud fwy a dechrau rhannu rhai o'r canllawiau

  • Dosbarthu hyfforddiant gyda phobl ifanc ar hawliau llesiant ac ein canllawiau

​

Camau Nesaf:

 

Rydym ni'n gwerthfawrogi bod yna dal llawer o waith i wneud. Bydd anghenion pobl ifanc efallai yn newid wrth i'r prosiect datblygu. Byddem ni'n parhau i weithio mewn ffordd sy'n ymatebol i anghenion y plant a phobl ifanc yn ogystal â'r bobl broffesiynol sy'n cefnogi nhw.

​

Os ydych chi eisiau ymwneud mwy a gweithio gyda’n gilydd yn y dyfodol, byddai'n wych clywed wrthoch chi. Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda! Emma.Sullivan@childreninwales.org.uk neu info@childreninwales.org.uk, dros y ffôn ar 02920 342434 ac ar Drydar: @childreninwalesand @plantyngnghymru

​

​

Health Ways to Wellbeing Cy-1.jpg
bottom of page