
Ffocws ar Adnoddau: Rhaglen Drawsnewid - Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar

Fel yr amlinellir yn y Strategaeth Genedlaethol, Ffyniant i Bawb, rydym ni eisiau’r canlynol:
“Rydym am i blant o bob cefndir gael y dechrau gorau mewn bywyd. Ein nod yw sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i wireddu eu llawn botensial a byw bywyd iach a ffyniannus a gwireddu eu dyheadau, gan chwarae rhan lawn yn eu cymunedau, y gweithle, a chyfrannu at lwyddiant economaidd Cymru yn y dyfodol.”
Yr uchelgais yw datblygu gwasanaethau cysylltiedig ac ymatebol y Blynyddoedd Cynnar i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Dylai plant fod yn ganolog i wasanaethau integredig, rhagorol sy’n rhoi eu hanghenion yn gyntaf, ni waeth beth yw strwythurau sefydliadol a phroffesiynol traddodiadol.
Dyma ein nodau:
-
Creu system y Blynyddoedd Cynnar i gyflwyno gwasanaethau mewn ffordd gydlynedig, integredig ac amserol
-
Cynorthwyo partneriaid lleol i ad-drefnu gwasanaethau’r Blynyddoedd Cynnar, gan ganolbwyntio ar gynllunio, comisiynu a nodi a mynd i’r afael ag anghenion.
-
Trwy’r broses hon, nodi rhwystrau rhag integreiddio a ffyrdd o’u dileu, eu lleihau neu eu had-drefnu.
Gwerthoedd Arweiniol
Bydd system integredig y blynyddoedd cynnar:
-
Yn rhoi llais i blant a rhieni ac yn gwrando ar eu hanghenion;
-
Yn rhoi anghenion y plentyn a’r teulu yn gyntaf;
-
Yn cyrraedd pob plentyn a theulu mor gynnar â phosibl;
-
Yn sicrhau sefydlogrwydd a pharhad gwasanaethau ar hyd continwwm o’r cyfnod cyn-geni i’r Cyfnod Sylfaen ac ymlaen i’r ysgol;
-
Yn cynnwys ac yn darparu’n effeithiol ar gyfer plant ag ADY/AAA;
-
Yn rhoi pwys ar rieni fel penderfynwyr;
-
Yn gweithio mewn partneriaeth go iawn ar draws ac o fewn sefydliadau a phroffesiynau i wneud y mwyaf o’r buddsoddiad;
-
Yn datblygu’r gweithlu ar sail uchelgais ar y cyd ar gyfer llwyddiant pob plentyn.
Ar hyn o bryd, mae saith “Pathfinder” ynghlwm wrth y gwaith hwn:
Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir y Fflint ac Abertawe
Mae disgwyl i’r “Pathfinders” hyn:
-
Lywio cynllun, egwyddorion a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru
-
Rhoi adborth ar ystyriaethau polisi LlC
-
Helpu LlC i ddeall rhwystrau ac atebion
Papurau Cyfarfodydd a Chyflwyniadau yn y Gweithdai “Pathfinder”
28 Mehefin 2019
Gweithdy 'Pathfinder' BC 28 Mehefin 2019 - Agenda
Cyflwyniad Bydwreigiaeth ac Ymweliad Iechyd
Cyflwyniad 'Pathfinders' BC– Millbrook Primary
02 Mai 2019
Agenda Gweithdy Integreiddio 'Pathfinder' Blynyddoedd Cynnar
Model Logic
20 Mawrth 2019
Gweithdy Integreiddio Blynyddoedd Cynnar ‘Pathfinder’
Mapio Blynyddoedd Cynnar Cwm Taf
Dynesiadau i weithio system - dysgu wrth system
Nodiadau o Weithdy 'Pathfinders' Blynyddoedd Cynnar ar 20 Mawrth 2019
8 Chwefror 2019
Rhaglen Trawsnewid Blynyddoedd Cynnar
Cyflwyniad i Weithdy Chwefror 2019 - Sharon West
Taclo anfantais: cyfraniad y gwasanaethau blynyddoedd cynnar wedi integreiddio - Naomi Eisenstadt
Datblygu'r System Blynyddoedd Cynnar yng Nghwm Taf - Chris Hole
Darllen Pellach
Prosiect Jigso - Adroddiad Terfynol
Adeiladu Gwytnwch - Cymorth Teulu
Prosiect mewnwelediad cymdeithasol rhieni blynyddoedd cynnar - Darganfyddiadau ansoddol
Ymchwil Beaufort
Gorffennaf 2018
EIF Gwneud Pethau'n Iawn i Deuluoedd a Matrics Aeddfedrwydd
Clare Messenger a Donna Molloy
2014/15
Cymru Well Wales
Tachwedd 2017
Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru, gan Gomisiynydd Plant Cymru
Comisiynydd Plant Cymru
Mawrth 2017
Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, Lucy Bryning a Huw Lloyd-Williams
2018
Chris Pascal, Tony Bertram a Kathryn Peckham
Ionawr 2019
