top of page
ExChange: Teulu a Chymuned

Siblings

Drawing Together

Top View of Kids Playing

Siblings
1/6
Archwilio'r Adnoddau
> Darllen y diweddaraf
​
> Dod o hyd i weithdai, hyfforddiant, seminarau, cynadleddau a mwy
​
​
> Enghreifftiau o arferion presennol yng Nghymru
​
> Adnoddau a ddefnyddir gan ymarferwyr
​
Ymchwil ac Adolygiadau Ymarfer
> Amrywiaeth o erthyglau ac adroddiadau o bob cwr o’r DU
​
> Am gyngor a chydweithio pellach
Mae ExChange: Teulu a Chymuned yn “Gymuned Arferion” ar-lein, sef canolfan adnoddau sydd â’r nod o gynnig adnoddau all helpu i gefnogi teuluoedd a chymunedau. Comisiynwyd ExChange: Teulu a Chymuned gan Lywodraeth Cymru ac fe’i datblygwyd ar y cyd â grŵp cynghorol o’r tîmau Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg.
Mae ExChange yn seiliedig ar yr egwyddor y gall ymarfer gorau ddatblygu pan mae profiad ac arbenigedd yn cael eu rhannu, a chydweithio’n cael ei annog. Mae'r safle hwn yn cynnig lleoliad ar gyfer rhannu deunyddiau p'un a ydynt wedi’u cyhoeddi neu beidio i gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i blant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau yng Nghymru. Mae ExChange: Teulu a Chymuned yn cynnal adnoddau ac yn cynnig y cyfle i drafod ac ymgysylltu’n bellach.
Gweler ein tudalennau adnoddau ynghylch:
Magu plant
Amdanom ni
Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd sydd wedi dylunio ac arwain y prosiect hwn. Mae wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i ddatblygu gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA).


Tudalen Ffocws
Gwneud Cyfraniad
Ydych yn weithiwr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol neu addysg ac yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd? Ydych yn ysgolhaig sy’n canolbwyntio ar dystiolaeth i lywio ymarfer? Os felly, hoffem glywed gennych!
​
Rydym yn chwilio am y cyfraniadau canlynol:
​
-
Llenyddiaeth academaidd (wedi’i chyhoeddi neu heb ei chyhoeddi)
-
Adroddiadau polisi ac ymatebion
-
Enghreifftiau o ymarfer gorau ac astudiaethau achos
-
Deunyddiau hyfforddi neu gynlluniau gweithredu
-
Blogiau
Oes unrhyw beth arall allai fod o gymorth neu ddiddordeb o ran cefnogi teuluoedd a chymunedau yn eich barn chi?
​
I gyfrannu, llenwch y ffurflen isod a rhoi gwybod i ni pa ddeunyddiau yr hoffech eu rhannu, neu anfonwch ebost yn uniongyrchol at contact@exchangewales.org
bottom of page