top of page

Gwaith cymdeithasol ac alcohol

Calendr ExChange ar gyfer 2016/17​
​
  • Gweithdai misol sy’n canolbwyntio ar destunau penodol i ymarferwyr 
  • Gweithdai arweinyddiaeth chwemisol i benaethiaid gwasanaethau ac uwch staff
  • Cynhadledd chwemisol
​
Mae pob un o’n digwyddiadau
yn rhad ac am ddim!*
​
*ar gyfer ymarferwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru

​Dr. Wulf Livingston

Uwch Ddarlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol

Prifysgol Glyndŵr

​

​Bydd y gweithdy hwn yn archwilio rhai o'r trafodaethau allweddol presennol mewn gwaith ymchwil sy'n ein helpu i ddeall arferion gweithwyr cymdeithasol (a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithasol) wrth weithio gyda phobl sydd â phroblemau o ran sut maen nhw, neu rywun maent yn ei adnabod, yn defnyddio alcohol.

 

Trwy gymysgedd o ddeunydd a gyflwynir a thrafodaethau grŵp, bydd y materion canlynol yn cael sylw:

 

  • Cyd-destunau polisi

  • Datblygu dealltwriaeth broffesiynol a hyder mewn rôl

  • Sgyrsiau cychwynnol, asesu ac ymyriadau byr

  • Ymyriadau a thriniaeth

  • Safbwyntiau teuluoedd a gofalwyr

  • Cymuned, gwella, a chymorth dan arweiniad cymheiriaid

 

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â: CASCADE@cardiff.ac.uk

​​

12 Ionawr 2017, Cyffordd Llandudno
18 Ionawr 2017, Caerdydd

bottom of page