Creu Newid Sefydliadol: Ystyried Ymagweddau Newydd at Wasanaethau Plant
Calendr ExChange ar gyfer 2016/17​
​
-
Gweithdai misol sy’n canolbwyntio ar destunau penodol i ymarferwyr
-
Gweithdai arweinyddiaeth chwemisol i benaethiaid gwasanaethau ac uwch staff
-
Cynhadledd chwemisol
​
Mae pob un o’n digwyddiadau
yn rhad ac am ddim!*
​
*ar gyfer ymarferwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru
19 Ionawr 2017, 10.00am tan 4.00pm
Novotel Caerdydd
​
Bydd y seminar yn ystyried sut i newid gwasanaethau. Mae ymagweddau newydd at Wasanaethau Plant, megis Ymarfer Adferol, Ymarfer Systemig ac Arwyddion Diogelwch wedi dod yn boblogaidd yn y blynyddoedd diwethaf. Mae'r seminar hwn yn dod ag arweinwyr sy'n adnabyddus ar lefel genedlaethol ac sydd â phrofiad o gyflwyno newidiadau sefydliadol i rannu'r hyn a ddysgwyd am sut i greu sefydliadau sy'n ymrwymo i sicrhau arferion rhagorol.
Bydd y siaradwyr yn cynnwys:
• Steve Goodman, Cyfarwyddwr Morning Lane Associates a chyd-sylfaenydd y model Adfer Gwaith Cymdeithasol.
• Saleem Tariq, Is-gyfarwyddwr, Gwasanaethau Plant, Cyngor Dinas Leeds lle cyflwynwyd dull Ymarfer Adferol.
• Alli Parkinson, Pennaeth Gwasanaethau Plant, a Di Beacroft, Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Sicrwydd Ansawdd a Diogelu Integredig, Cyngor Sir Penfro, a wnaeth arwain y broses o symud at y dull Arwyddion Diogelwch yn Sir Benfro.
Bydd y seminar yn ystyried yr hyn sy'n debyg a'r hyn sy'n wahanol am y modelau ymarfer hyn, ond prif ffocws y diwrnod yw rhannu profiadau o arweinyddiaeth sefydliadol, gan gynnwys heriau a sut i'w goresgyn. Bydd y seminar yn canolbwyntio ar drafod a dysgu mewn modd agored a gonest. Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd, felly prynwch eich tocyn nawr rhag cael eich siomi.
​
​
Lawrlwytho adnoddau (Saesneg yn unig):