Troseddwyr cam-drin domestig
Calendr ExChange ar gyfer 2016/17
-
Gweithdai misol sy’n canolbwyntio ar destunau penodol i ymarferwyr
-
Gweithdai arweinyddiaeth chwemisol i benaethiaid gwasanaethau ac uwch staff
-
Cynhadledd chwemisol
Mae pob un o’n digwyddiadau
yn rhad ac am ddim!*
*ar gyfer ymarferwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru
Dr Amanda Robinson
Prifysgol Caerdydd
Mae'r gweithdy hwn yn ystyried sut y gall gweithwyr cymdeithasol addasu eu harferion er mwyn nodi’r peryglon y mae cleientiaid yn eu hwynebu gan droseddwyr cam-drin domestig yn fwy effeithiol. Bydd y Pecyn Nodi Troseddwyr i’w Blaenoriaethu (PPIT), a ddatblygwyd yng Nghymru, yn cael ei gyflwyno. Nod y pecyn yw helpu ymarferwyr ar lawr gwlad i nodi is-garfan o droseddwyr sy’n cael eu hystyried fel y rhai mwyaf peryglus. Felly, dyma’r troseddwyr a gaiff eu blaenoriaethu wrth i asiantaethau eu rheoli a’u monitro ar y cyd. Bydd prosiectau peilot sy’n ymgorffori’r pecyn yn cael eu trafod. Bydd y sesiwn yn gyfle i drafod enghreifftiau o achosion mewn grwpiau er mwyn meithrin sgiliau ymarferol. Mae'n addas ar gyfer ymarferwyr a gweithwyr cymorth ym maes gwaith cymdeithasol oedolion a phlant, yn ogystal â gwaith cymdeithasol teuluol
7 Ebrill 2017, Bangor
13 Ebrill 2017, Caerdydd
Lawrlwytho adnoddau (Saesneg yn unig)