Anghydraddoldebau lles plant yng Nghymru
Calendr ExChange ar gyfer 2016/17​
​
-
Gweithdai misol sy’n canolbwyntio ar destunau penodol i ymarferwyr
-
Gweithdai arweinyddiaeth chwemisol i benaethiaid gwasanaethau ac uwch staff
-
Cynhadledd chwemisol
​
Mae pob un o’n digwyddiadau
yn rhad ac am ddim!*
​
*ar gyfer ymarferwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru
Yr Athro Jonathan Scourfield (CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd),
Athro Kate Morris (o Brifysgol Sheffield)
Dr Will Mason (o Brifysgol Sheffield)​
​Bydd y seminar hon yn mynd i'r afael â'r berthynas rhwng amddifadedd ac amddiffyn plant. Mae astudiaeth ddiweddar mewn pedair gwlad wedi dangos bod plant yn fwy tebygol o lawer i fod ar gofrestri amddiffyn plant ac i gael eu rhoi mewn gofal yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Ym maes gofal cymdeithasol mae tueddiad i gymryd yr anghydraddoldebau hyn yn ganiataol a'u hystyried yn rhywbeth nad oes modd ei osgoi. Bydd y seminar hon yn ystyried ffyrdd posibl o osgoi anghydraddoldebau mor sylweddol. Bydd yn cynnwys canfyddiadau ymchwil newydd sbon o Gymru, ynghyd â'r hyn a ddysgwyd yn Lloegr a'r Alban a fydd yn berthnasol i'r sector gofal yng Nghymru.
Digwyddiad ar gyfer ymarferwyr a rheolwyr ym maes gofal cymdeithasol plant yw hwn, yn enwedig o awdurdodau lleol, ond hefyd o'r trydydd sector. Bydd digonedd o amser i drafod.
​
2 Mawrth 2017
28 Mawrth 2017