top of page

Beth yw gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol rhagorol?
Cynhadledd Chwemisol 1af a Digwyddiad Lansio ExChange
26 Hydref 2016, Gwesty Novotel Caerdydd
Rhad ac am ddim i ymarferwyr mewn awdurdodau lleol sy'n aelodau o ExChange


Siaradwyr a gadarnhawyd
Gerry Evans
Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Safonau Proffesiynol, Cyngor Gofal Cymru
Donald Forrester
Athro Gwaith Cymdeithasol Plant a'r Teulu, Prifysgol Caerdydd
Albert Heaney
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru
Lyn Romeo
Prif Weithiwr Cymdeithasol ar gyfer Oedolion, yr Adran Iechyd
Fiona Verity
Athro Iechyd y Cyhoedd, Polisi a Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Abertawe
Bydd rhagor o siaradwyr yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf
Gwahoddir yr holl ymarferwyr a rheolwyr gofal cymdeithasol i ddod i'n cynhadledd chwemisol gyntaf, yn rhad ac am ddim, ar 26 Hydref 2016 ar gyfer lansiad swyddogol ExChange, ac i drafod y cwestiwn allweddol: beth yw gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol rhagorol?
Bydd ein hamserlen lawn ar gyfer y diwrnod, gan gynnwys yr holl siaradwyr, gweithdai ac arddangoswyr, yn cael ei rhyddhau ddechrau mis Medi.
Bydd hwn yn gyfle cyffrous cyffrous i ddod ynghyd a defnyddio ein harbenigedd proffesiynol, profiadau personol, a gwaith ymchwil i feddwl am ofal cymdeithasol yn y gorffennol a'r presennol yng Nghymru, ac i gynllunio ar gyfer dyfodol y maes.
bottom of page

