top of page

Dysgu wrth ymarfer i wella arferion: sut i helpu myfyrwyr i ddysgu ar leoliadau

Calendr ExChange ar gyfer 2016/17​
  • Gweithdai misol sy’n canolbwyntio ar destunau penodol i ymarferwyr 
  • Gweithdai arweinyddiaeth chwemisol i benaethiaid gwasanaethau ac uwch staff
  • Cynhadledd chwemisol
Mae pob un o’n digwyddiadau
yn rhad ac am ddim!*
*ar gyfer ymarferwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru

8 Chwefror 2017, 10.00am tan 4.00pm

Gwesty Novotel, Caerdydd

Mae'r symposiwm hwn yn dod ag academyddion blaenllaw ynghyd i archwilio'r hyn a ddysgwyd ynglŷn â sut mae myfyrwyr yn dysgu wrth ymarfer i wella arferion. Bydd y testunau'n cynnwys yr hyn a ddysgwyd o werthusiad Frontline, ymchwil bresennol ynglŷn â helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau, tystiolaeth ynglŷn ag asesu arferion yn effeithlon, a sut i baratoi myfyrwyr ar gyfer lleoliadau. Mae'r siaradwyr yn cynnwys yr Athro Jonathan Scourfield, Dr Louise Grant, Alison Domakin, a'r myfyrwyr eu hunain. Bydd y digwyddiad yn bwysig i bawb sydd â diddordeb mewn addysg ym maes gwaith cymdeithasol, gan gynnwys addysgwyr ymarfer, academyddion, myfyrwyr a'r rhai sy'n gyfrifol am ddatblygu arferion mewn asiantaethau. Mae lleoedd yn brin felly dylech gofrestru cyn gynted â phosibl.

Contact us: +4429 2068 8722   /   Contact@ExChangeWales.org   /  CASCADE, Glamorgan Building, King Edward VII Avenue, Cardiff, CF10 3WT

Cysylltwch â ni: +4429 2068 8722   /   Cysylltu@ExChangeCymru.org   /  CASCADE, Adeilad Morgannwg, Rhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WT

© 2016 CASCADE / Cardiff University. Created with Wix.com

© 2016 CASCADE / Prifysgol Caerdydd. Wedi'i chreu gyda Wix.com

bottom of page