Beth sy'n cael ei gyfrif fel 'Lles'?
Calendr ExChange ar gyfer 2016/17​
​
-
Gweithdai misol sy’n canolbwyntio ar destunau penodol i ymarferwyr
-
Gweithdai arweinyddiaeth chwemisol i benaethiaid gwasanaethau ac uwch staff
-
Cynhadledd chwemisol
​
Mae pob un o’n digwyddiadau
yn rhad ac am ddim!*
​
*ar gyfer ymarferwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru
Beth sy'n cael ei gyfrif fel 'Lles'? Ymchwilio'r niferoedd yn ddyfnach er mwyn deall canlyniadau gofal cymdeithasol yn well
​
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi lles a chanlyniadau personol wrth wraidd gofal cymdeithasol. Bwriad hyn yw cael ymarferwyr gofal cymdeithasol i ganolbwyntio ar ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau a pherthnasoedd. Er bod y mwyafrif yn croesawu'r newid hwn, mae wedi arwain at gwestiynau a heriau enfawr i weithlu sy'n gorfod addasu i weledigaeth newydd o ran y ddarpariaeth les. Yn y gynhadledd drawsbynciol hon a fydd yn cyfuno'r arbenigedd a'r profiad sydd mewn gwasanaethau oedolion, plant a theuluoedd, byddwn yn holi arweinwyr profiadol sy'n ymarfer, ymchwilwyr academaidd arbenigol a phobl sy'n gweithio ym maes y gwasanaethau gofal cymdeithasol: beth yw gwir ystyr 'lles', sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i ddarganfod beth sy'n bwysig i bobl, a pha ddulliau y gallwn eu defnyddio i ddeall iaith a'r dull o fesur y canlyniadau?
​
​
Rhaglen Cynhadledd:
​
​09.15 – Cofrestru a the/coffi
09.45 – Croeso
09.50 – Prif Anerchiad, Cathryn Thomas, Asiantaeth Gwella'r Gwasanaethau Cymdeithasol
10.40 – Egwyl
11.00 – Gweithdy
1.Maria Selby, Cyngor Castell-nedd Port Talbot
2.Alisha Davies, Iechyd Cyhoeddus Cymru
3.Rachel Dodge, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
11.45 – Prif Anerchiad, Donald Forrester, CASCADE, Prifysgol Caerdydd
12.30 – Cinio
13.30 – Sesiwn PLAY A Fforymau Datblygu Ymchwil ExChange
14.00 – Profiadau personol o gynhyrchu a gweithredu ar y cyd ym maes gofal cymdeithasol
14.45 – Egwyl
15.00 – Prif Anerchiad, Dr Emma Miller, University of Strathclyde
15.45 – Cloi
29 Mawrth 2017, 9.00am tan 5.00pm
Gwesty'r Marriott Abertawe, Maritime Quarter, Abertawe, SA1 3SS