Croeso i ExChange!
- Jen
- Sep 28, 2016
- 1 min read

Mae llawer o sôn am newid gofal cymdeithasol er gwell, ond sut gall gweithlu sydd eisoes o dan bwysau wneud i hyn ddigwydd?
Croeso i ExChange!
Cymuned newydd yw ExChange sy'n ceisio gwella gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae ei haelodau'n cynnwys ymarferwyr, ymchwilwyr a'r rhai sydd yn/wedi defnyddio'r gwasanaethau. Maent yn rhannu arbenigedd, tystiolaeth ymchwil a phrofiadau gofal er mwyn dysgu, ymgynghori a llywio ymchwil, a chael effaith ar bolisïau ac ymarfer. Academyddion sy'n canolbwyntio ar arferion gofal cymdeithasol o Ganolfan Ymchwil CASCADE, Prifysgol Caerdydd, sy'n hwyluso ExChange. Mae'n cynnig llwybr bywiog, difyr ar gyfer datblygu gwybodaeth a sgiliau ymarferwyr ac ymchwilwyr yn barhaus, tra'n rhoi sylw arbennig i brofiadau bywyd pobl mewn gofal.
Mae ExChange wedi'i leoli yng Nghanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE), yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. Mae gennym gysylltiadau agos â phrifysgolion, ymarferwyr, llunwyr polisïau a grwpiau o ddefnyddwyr gwasanaethau ledled Cymru. Rydym yn ystyried pob agwedd ar ymatebion cymuned i anghenion cymdeithasol plant a theuluoedd.
Rydym yn cynnig:
Gweithdy rhyngweithiol misol
Y naill yn y gogledd, a'r llall yn y de
Adnoddau Arbenigol Ar-lein
Crynodebau ymchwil, papurau hysbysu, blogiau, ymatebion, a rhagor
Canolfannau Arbenigol
Grwpiau o aelodau sy'n canolbwyntio ar feysydd penodol (e.e. trais yn y cartref)
コメント