Adolygiadau Ymarfer Plant yng Nghymru - gweithdy ar-lein
- Sian Lewis
- Jun 4, 2020
- 1 min read
Mae'n bleser gan ExChange Wales ddod â'r gweithdy ar-lein hwn atoch am Adolygiadau Ymarfer Plant yng Nghymru, ar ôl i’n gweithdai yng Nghaerdydd a Bae Colwyn gael eu canslo’n gynharach eleni (oherwydd y pandemig).
Yn y gweithdy 45 munud hwn, bydd Dr Alyson Rees a Dr Tom Slater o Brifysgol Caerdydd yn trafod canfyddiadau o ddadansoddiad ansoddol ac aml-ddisgyblaethol o 20 o Adolygiadau Ymarfer Plant (CPR) yng Nghymru (roedd y rhain yn arfer cael eu galw’n Adolygiadau Achosion Difrifol). Dadansoddwyd yr adolygiadau o dri safbwynt gwahanol: y gyfraith, troseddeg ac ymarfer (gwaith cymdeithasol).
Mae’r cyflwyniad yn nodi’r themâu trawsbynciol canlynol: (i) hierarchaeth gwybodaeth, lle mae rhai ffynonellau gwybodaeth yn cael eu blaenoriaethu dros rai eraill (ii) rhannu/cofnodi gwybodaeth, lle gwelwyd diffygion o ran rhannu neu gofnodi gwybodaeth (iii) asesiad rhannol, pan nad oedd rhai asesiadau’n gyfannol, ac yn olaf (iv) llais y plentyn, pan nad oedd profiad neu safbwynt y plentyn yn cael ei ystyried bob amser. Hon oedd yr astudiaeth gyntaf i ystyried themâu oedd yn deillio o Adolygiadau Ymarfer Plant (yng Nghymru), a’r un gyntaf i gael ei chynnal o safbwynt aml-ddisgyblaethol.
Mae’r gweithdy yn canolbwyntio ar y goblygiadau o ran ymarfer a pholisi. Rydym wedi cyflwyno fideo'r gweithdy ac ystod o adnoddau i fynd gydag ef fel a ganlyn:
Gwylio’r gweithdy (45 munud)
Gweld y sleidiau
Lawrlwythwch ffurflen werthuso ar gyfer y gweithdy - cadwch y ffurflen ar wahân a'i dychwelyd trwy ebost
Comentarios