top of page

Casglu Covid: Cymru 2020

Rydym wedi lansio apêl gyhoeddus a phroject arsylwi torfol digidol er mwyn casglu profiadau pobl sy’n byw yng Nghymru yn ystod cyfnod eithriadol Covid-19.

Gyda chymorth pobl Cymru, byddwn yn creu cofnod a chasgliad cenedlaethol o atgofion o’r pandemig yng Nghymru. Bydd yr apêl yn cychwyn ar wefan Amgueddfa Cymru a’i chyfrifon cyfryngau digidol.

Mae gan Amgueddfa Cymru hanes o gofnodi atgofion cenedlaethol Cymru, gan gydnabod fod bywyd pawb yn bwysig. Yn rhan o’r fenter gasglu newydd yma, rydym yn lansio holiadur digidol torfol gan wahodd unigolion, cymunedau a sefydliadau ar draws Cymru i gofnodi eu profiadau o fyw dan y cyfyngiadau cyfredol.

Gellid olrhain y dull ymchwil hwn yn ôl i 1937. Yn ystod y cyfnod hwnnw o newid cymdeithasol digynsail (Dirwasgiad y 1930au), lansiodd yr Amgueddfa apêl gyhoeddus ac anfon dros 500 o holiaduron i wirfoddolwyr, cymunedau, sefydliadau ac ysgolion ar draws Cymru. Y dasg oedd cofnodi eu bywydau bob dydd, gan ddefnyddio’u gwybodaeth leol i lywio gwaith casglu’r Amgueddfa yn y dyfodol. Mae archif Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn cynnwys bron i 800 ymateb i’r holiadur hwn, o ddiwedd y 1930au hyd y 1980au, gyda llawer o’r gwirfoddolwyr gwreiddiol yn cadw cofnod o’u bywydau dros ddegawdau.

Yn ei lyfr Amgueddfeydd Gwerin / Folk Museums, a gyhoeddwyd ym 1948, disgrifiodd Iorwerth Peate yr angen i amgueddfeydd gasglu diwylliant a hanes cyfoes.

“Roedd yn grediniol nad oedd hi’n ddigon i arddangos a chadw’r hyn a fu; roedd hi’n hanfodol eu bod yn olrhain a chofnodi’r hyn a oedd yn digwydd yn y presennol a’r dyfodol”

Yn rhan o’r fenter hon, bydd Amgueddfa Cymru yn adeiladu rhwydwaith o gasglwyr cymunedol; yn casglu hanes llafar; yn creu oriel ar-lein o ddelweddau ac ymatebion i’r holiaduron mewn partneriaeth â Chasgliad y Werin Cymru; ac yn casglu gwrthrychau sy’n berthnasol i’r pandemig yng Nghymru wedi i’r cyfyngiadau ar symud gael eu codi. Bydd yr holiadur yn llywio datblygiad casgliad COVID-19 Cymru. Gofynnir i’r rheini sy’n cymryd rhan bennu gwrthrychau o’u cartrefi a’u cymunedau sy’n cynrychioli eu profiad nhw o fywyd o dan y cyfyngiadau ar symud. Wrth i’r cyfyngiadau godi, bydd yr Amgueddfa yn cysylltu â’r gwirfoddolwyr er mwyn casglu a dogfennu eu gwrthrychau.

Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags
No tags yet.
    bottom of page