Archwilio'r Rhesymau Pam Mae Ymadawyr Gofal yn Dewis Peidio â Chael Mynediad at Addysg Uwch: Aro
- Samantha O'Rourke
- May 20, 2020
- 2 min read
Mae agweddau'r llywodraeth tuag at gynyddu cefnogaeth i ymadawyr gofal wedi dod yn fwy cadarnhaol drwy gydol y degawd diwethaf. Fodd bynnag, mae llawer o rwystrau i bobl ifanc â phrofiad o ofal sy'n pontio i oedolaeth. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu pwysau parhaus i wthio polisïau i annog ymadawyr gofal i gymryd rhan mewn addysg uwch gyda'r addewid o fwrsariaethau a chefnogaeth ychwanegol tan 25 oed, a oedd yn gyfyngedig i'r rhai sy'n mynd i’r brifysgol tan yn ddiweddar.
Mae ymchwil yn awgrymu mai dim ond 6% o ymadawyr gofal 19-21 oed oedd mewn addysg uwch yn Lloegr yn ystod blwyddyn academaidd 2018-19 (Adran Addysg 2019) er bod y sefyllfa yng Nghymru yn llai eglur (Allnatt 2019). Thema gyffredin sy'n codi yw'r diffyg ymwybyddiaeth ymhlith ymadawyr gofal o'u hawliau cyfreithiol neu'r gefnogaeth sydd ar gael (Llywodraeth EM 2016). Mae hyn yn awgrymu mai diffyg ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth sydd ar gael allai rwystro ymadawyr gofal rhag mynd i’r brifysgol.
Fel rhan o astudiaeth ymchwil ôl-raddedig, nod fy arolwg yw archwilio darpariaethau polisi a rhwydweithiau cymorth sydd ar gael i bobl ifanc â phrofiad o ofal yng Nghymru a Lloegr nad ydynt yn mynd ymlaen i astudio yn y brifysgol.
Hoffwn i wybod sut mae ymadawyr gofal yn teimlo am y gefnogaeth a gawson nhw wrth benderfynu a ddylen nhw fynd i’r brifysgol, sut effeithiodd hyn yn uniongyrchol ar eu penderfyniad, a sut maen nhw'n meddwl y gallai hyn fod wedi bod yn well, iddyn nhw ac i ymadawyr gofal yn y dyfodol. Mae'n hanfodol bod ymadawyr gofal yn cael digon o wybodaeth i wneud dewisiadau bywyd ystyrlon ar sail gwybodaeth, yn enwedig o ystyried y rhethreg gyfredol wrth annog ymadawyr gofal i gymryd rhan mewn addysg uwch.
Samantha O'Rourke orourkes1@cardiff.ac.uk
Cardiff University
Comments