Search
Ymunwch â'n panel ymgynghorol
- Jen
- Sep 28, 2016
- 1 min read

Er mwyn sicrhau bod ExChange mor llwyddiannus â phosibl, rydym yn bwriadu sefydlu panel ymgynghorol o randdeiliaid – yn cynnwys rheolwyr ac ymarferwyr ar bob lefel ac ym mhob maes gofal cymdeithasol yng Nghymru – i ddweud wrthym beth sydd ei angen arnoch a'r ffordd orau o'i gyflawni.
Yn yr wythnosau sydd i ddod, byddwn yn llunio holiadur ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb. Yn y cyfamser, i fynegi diddordeb cysylltwch â contact@exchangewales.org, gan gynnwys manylion eich swydd â'r maes y mae gennych brofiad/arbenigedd ynddo, a byddwn yn cysylltu â chi.
Comments