top of page

Digwyddiad Lansio ExChange


Roedd lansiad y rhwydwaith ExChange yng Nghaerdydd yn llwyddiant enfawr, yn dod ag ymarferwyr, ymchwilwyr a'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol at ei gilydd. Daeth cynrychiolwyr o'r Awdurdodau Lleol, sefydliadau gwirfoddol ac academia at ei gilydd yn y Gwesty Novotel i ddathlu'r dechrau o weithio ynghyd tuag at ofal cymdeithasol gwell yng Nghymru. Braf oedd gweld yr amrywiaeth o weithwyr proffesiynol, gan roedd yn sicrhau bod digon y cyfleoedd i drafod ymarfer gorau ac i rannu syniadau ar sut i wella gwasanaethau.

Un o uchafbwyntiau'r diwrnod oedd clywed o rhai o'r bobl ifanc sydd gyda phrofiad o ddefnyddio'r system gofal. Gyda 'Voices from Care', hwyluson nhw weithdy diddorol gyda gweithwyr proffesiynol yn siarad am eu profiadau nhw o weithio gyda defnyddwyr gwasanaethau mewn ffyrdd effeithiol ac ystyrlon. Hefyd, rhoddodd y gweithdy'r cyfle i ymarferwyr trafod anawsterau ymarfer, y prif fater a godwyd oedd delio gydag ymddygiad peryglus, neu 'risk-taking'. Darparodd y gweithdy ardal briodol er mwyn rhannu cyngor ac awgrymiadau ymarferol a gall cael ei ddefnyddio mewn ymarfer.

Roedd y sgiliau a gwybodaeth o fewn gofal cymdeithasol yn glir i weld wrth siaradwyr o'r Llywodraeth Cymraeg, Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe a'r Adran Iechyd. Rhychwantodd eu trafodaethau ar wahanol ardaloedd o ofal cymdeithasol y continwwm gofal cymdeithasol proffesiynol cyfan. Yn olaf, rydym yn gwerthfawrogi'n fawr yr holl syniadau cafodd eu trafod yn y trafodaethau bwrdd crwn. Bydden nhw'n cynghori ni i deilwra'r gwaith gan ExChange er gwell pob un sydd â diddordeb o ymgymryd â neu gefnogi prosiectau ymchwil. Roedd y brwdfrydedd dangoswyd gan nifer o weithwyr proffesiynol at eisiau ymgymryd ag ymchwil yn galonogol ac rydym ni'n gobeithio bydd ExChange yn darparu'r cyfarwyddyd angenrheidiol er mwyn cymryd y syniadau yma i'r dyfodol.

“The concept of ExChange is a great one the presentation and importance of its function and possibilities comes at a great time and is inspiring – great speakers."

“Very helpful and appropriate to my needs. As a newly qualified social worker I have a keen interest in research.”

“The reality of conducting research whilst working as a full time social worker for a local authority concerns me.”

“Provide support for me to undertake the research I would very much like to complete.”

“To be inspired & enthused. Made me feel proud to be a social worker. Reminded me why I am a social worker.”

 
 
 

Comments


Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags

    Contact us: +4429 2068 8722   /   Contact@ExChangeWales.org   /  CASCADE, Glamorgan Building, King Edward VII Avenue, Cardiff, CF10 3WT

    Cysylltwch â ni: +4429 2068 8722   /   Cysylltu@ExChangeCymru.org   /  CASCADE, Adeilad Morgannwg, Rhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WT

    © 2016 CASCADE / Cardiff University. Created with Wix.com

    © 2016 CASCADE / Prifysgol Caerdydd. Wedi'i chreu gyda Wix.com

    bottom of page