top of page

Rhannu Canfyddiadau Ymchwil gydag Ymarferwyr

Mae ExChange Cymru bellach yn defnyddio eu gweithdai ymarferwyr fel ffordd allweddol o rannu canfyddiadau ymchwil â'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r gweithdai yn cael eu cynnal yn fisol yng ngogledd a de Cymru. Mae hyn yn rhoi cyfle i ymarferwyr o amrywiaeth o gefndiroedd gofal cymdeithasol ddod ynghyd ag academyddion blaenllaw i edrych ar ymchwil gyfredol yn eu maes ac i ystyried eu goblygiadau posibl ar eu gwaith nhw.

Mae ymarferwyr eisoes wedi elwa o drafodaethau ar amrywiaeth o bynciau yn 2017. Mae'r rhain yn cynnwys problemau ymarferwyr o weithio â phobl sy'n dioddef o anawsterau alcohol neu'n adnabod rhywun sy'n dioddef anawsterau o'r fath. Maen nhw hefyd yn ystyried sut y gellir addasu eu hymarfer yn effeithiol er mwyn gweithio gyda chleientiaid sydd angen cyfieithwyr ar y pryd, ac yn edrych ar broblemau sy'n ymwneud ag amddifadedd ac amddiffyn plant. Mae'r adborth o'r sesiynau wedi bod yn gadarnhaol iawn ac wedi awgrymu bod ymarferwyr o'r farn bod y sesiynau'n berthnasol i'w gwaith. Roedden nhw hefyd yn gwerthfawrogi'r wybodaeth a ddarparwyd iddynt, yn ogystal â'r cyfle i drafod hyn ag academyddion ac ymarferwyr eraill.

Yn ystod y misoedd nesaf bydd cyfle i ymarferwyr edrych ar ymchwil am amrywiaeth o bynciau eraill. Ym mis Ebrill, cynhelir sesiwn a fydd yn edrych ar sut y gall gweithwyr cymdeithasol addasu eu hymarfer er mwyn adnabod y risgiau y mae cleientiaid yn eu hwynebu gan droseddwyr cam-drin domestig. Ym mis Mai, bydd sesiwn ar feichiogrwydd a magu plant ar gyfer pobl ifanc sydd o dan ofal y wladwriaeth neu ar fin ei adael. Mae sesiynau hefyd ar y gweill a fydd yn trafod cam-fanteisio ar blant yn rhywiol, arweiniad ar ryngweithio drwy fideo, dulliau adferol a sicrhau bod perthnasoedd cadarnhaol yn cael eu hystyried yn bwysig ym myd gofal preswyl.

Cewch fanylion am yr holl ddigwyddiadau sydd ar y gweill yn adran digwyddiadau'r safle hwn. Gellir llwytho i lawr gyflwyniadau ac adnoddau eraill o ddigwyddiadau blaenorol yn Archif y Digwyddiadau.

Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags
No tags yet.
    bottom of page