Rhannwch y #Negeseuoniysgolion Pwysig Hyn
- ExChange Wales
- May 30, 2017
- 1 min read
Mae fideo Addysg Plant sy'n Derbyn Gofal CASCADE a lansiwyd yn ddiweddar, #Negeseuoniysgolion, wedi bod yn llwyddiant mawr ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'n cael ei rhannu ledled y wlad, ac yn lledaenu lleisiau a safbwyntiau pwysig plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal ynglŷn â'u gofal ac addysg.
Byddem wrth ein bodd pe gallech barhau i rannu'r negeseuon pwysig hyn er mwyn helpu i wella canlyniadau gofal ac addysgol plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal yng Nghymru. I'ch helpu i wneud hyn, rydym yn falch i gyhoeddi bod fideo #Negeseuoniysgolion ar gael yn Gymraeg bellach, yn ogystal â'r siarter Addysg Plant sy'n Derbyn Gofal!
Helpwch ni i wneud yn siŵr bod pobl yn clywed llais y bobl ifanc hyn ac yn gwylio #Negeseuoniysgolion!

Comments