Uchafbwyntiau Cynhadledd Ymchwil Mabwysiadu Caerdydd
- Rebecca Anthony
- Jun 30, 2017
- 3 min read
Roedd yn anodd cadw i fyny gyda'r holl sgyrsiau diddorol yn ein cynhadledd heddiw, oedd yn bennaf yn cynnwys academyddion, gweithwyr cymdeithasol a seicolegwyr ar draws y DU. Er bod y digwyddiad ar gyfer myfyrwyr doethurol yn bennaf, cawsom ein synnu gan y diddordeb a ddangoswyd yn y digwyddiad gan academyddion ar bob lefel, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol yn y maes. Mae gofyn amlwg am ddigwyddiadau sy’n ymwneud yn benodol â mabwysiadu, ac roedd yn ddefnyddiol trafod materion ynghylch mabwysiadu gydag unigolion sy’n meddu ar ystod o safbwyntiau.
Dyma ymgais i roi blas i chi o’r diwrnod prysur. (Nid yw'n gynhwysfawr – byddaf wedi methu ambell beth – ond mae’r rhan fwyaf o gyflwyniadau ar gael i chi yn yma (LINK?).
Trosolwg:
@adoption_conf #CardiffAdoption
Yn gyntaf, cafwyd y brif araith gan Dr Julie Doughty o Brifysgol Caerdydd, fu’n trin a thrafod mabwysiadu a hawliau dynol. Soniodd Julie am ba rannau o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol sy’n cael eu cynnal wrth fabwysiadau, ac eglurodd bod lles y plentyn wrth wraidd y penderfyniadau a wnaed bob amser. Yn ystod y cwestiynau, helpodd Julie i egluro rhai o’r datblygiadau yn sgîl dyfarniadau ynghylch mabwysiadu, megis Re B a Re B-S. Roedd yn wych cael diweddariad mor eglur am faterion cyfreithiol sy’n ymwneud â mabwysiadu.
Yn dilyn hyn, cafodd bawb eu diweddaru gan Martina McCrossan o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (NAS) am ddatblygiad NAS yng Nghymru. Cawsom wybod gan Martina bod NAS Cymru’n amcangyfrif bod oddeutu 4,000 o blant a phobl ifanc wedi’u mabwysiadu yng Nghymru. Eglurodd bod diffyg cyfatebiaeth rhwng y mabwysiadwyr sydd ar gael a’r plant sy’n aros. Er enghraifft, mae gan 30% o blant sy'n aros i gael eu mabwysiadu o leiaf ddau frawd neu chwaer, ond dim ond un plentyn y mae 90% o fabwysiadwyr ei eisiau.
Ar ôl egwyl goffi a llawer mwy o drafod, camodd y myfyriwr PhD Andrew Brown o Brifysgol Caerdydd i’r adwy ar y funud olaf i siarad am fabwysiadu, addysg a lles. Aeth i’r afael ag addysg, dyheadau, a lles seico-gymdeithasol plant sydd wedi’u mabwysiadu, gan ddefnyddio data o’r arolwg ‘Deall Cymdeithas’. Yn ôl canfyddiadau cynnar, roedd gan blant sydd wedi’u mabwysiadu lefelau uwch o orfywiogrwydd/diffyg canolbwyntio ac anawsterau llwyr, na chyfoedion oedd heb eu mabwysiadu.
I ddilyn, cafwyd cyflwyniad gan Dr Ludivine Garside fo Brifysgol Bryste am ddiwygio gweithrediadau gofal a phatrymau lleoliadau mabwysiadu.
I orffen sesiynau’r bore, bu Shirley Lewis o Brifysgol Coventry yn trafod profiadau rhieni biolegol, gan ganolbwyntio ar yr hyn a olygir wrth ‘gydsyniad’. Esboniodd Shirley pa mor bwysig i rieni yw brwydro dros eu plant. Roedd yn sesiwn hynod emosiynol.
I gychwyn sesiynau’r prynhawn cafodd y gynhadledd ddiweddariad gan Dr Dawn Mannay and Dr Jen Lyttleton-Smith o Exchange Wales am yr ‘ExChange’, rhwydwaith ledled Cymru sy’n dod â gweithwyr, ymchwilwyr a’r rheini sy’n defnyddio gwasanaethau ynghyd i rannu profiadau ac arbenigedd a meddu ar ddealltwriaeth oddi wrth ei gilydd
Yn dilyn hynny, cafwyd sgwrs ddiddorol iawn gan brif siaradwr y prynhawn, Debbie Watson o Brifysgol Bryste am waith hanes bywyd a’r prosiect trove. Eglurodd bod angen addysgu plant i adrodd hanes yr hunan, ac yn aml mai llyfrau hanes bywyd yw’r peth mwyaf gwerthfawr ym meddiant y plentyn a fabwysiadwyd. Gweithiodd yr ymchwilwyr ar y cyd â phobl ifanc i gynllunio blwch cof i gynorthwyo gyda'r broses waith hanes bywyd, ac er mwyn cadw eu gwrthrychau gwerthfawr yn saff.
Yn nesaf, rhoddais i (Rebecca Anthony) o Brifysgol Caerdydd sgwrs am brofiadau plentyndod andwyol yn ein sampl o 374 o blant yn Astudiaeth Fabwysiadu Cymru. Astudiais y cysylltiad rhwng profiadau plentyndod andwyol, a phroblemau iechyd meddwl plant.
Yn olaf, ond nid y lleiaf, trafododd Dr Jan MacVarish o Brifysgol Caint, ymchwil sydd ar y gweill ynghylch brodyr a chwiorydd, ymgysylltiad a’r gyfraith.
Roedd gan y beirniaid ddewis anodd o ran gwobrau, gan fod cynifer o siaradwyr a phosteri gwych. Yn y diwedd, fe wnaethon nhw benderfynu dyfarnu’r wobr i Shirley Lewis am y cyflwyniad llafar gorau, ac aeth y wobr am y poster gorau i Sue Austin o Brifysgol Bryste. Llongyfarchiadau i’r ddwy!
Cafwyd adborth cadarnhaol iawn gan y rhai oedd yn y gynhadledd ac roedd pawb yn gwerthfawrogi cael diwrnod llawn wedi'i neilltuo i faes mabwysiadu!
Comments