top of page

Agor Drysau i Gyflawni Breuddwydion - Nid yw Canlyniadau Gwael ar gyfer Ymadawyr Gofal yn Anochel


Mae'r canlyniadau ar gyfer pobl ifanc sydd wedi profi gofal awdurdod lleol, yn anffodus, fel arfer yn wael. Rhaid i ni fel cymdeithas bod yn sicr gall a ddylai fwy cael ei wneud i ganiatáu’r bobl ifanc yma, llawer ohonynt sydd wedi cael profiadau gwael iawn fel plant, cyfleoedd arbennig fel oedolion. Cydnabyddwyd y strategi Llywodraeth Cymraeg bod gan y sector dysgu a sgiliau swydd allweddol yn ymwneud a hyn. Mae'r pwynt lle mae person ifanc yn gadael ysgol yn gyfle. Mae'n gyfle i ddarparwyr ar draws y sector - sefydliadau addysg bellach, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, darparwyr addysg uwch, gwasanaethau dysgu cymuned, oedolion a phobl ifanc - i weithio ynghyd i ddatblygu darpariaeth a chefnogaeth integredig o safon uchel a fydd yn galluogi ymadawyr gofal unigol i gyflawni eu potensial a thorri'r cylchred o anfantais maen nhw, a'u phlant, yn aml yn cael eu trapio ynddo.

Nid yw canlyniadau gwael yn anochel. Rhaid i ni greu system dysgu a sgiliau sydd yn cydgysylltiedig, sy'n cefnogi ymadawyr gofal i oroesi’r nifer o heriau maen nhw'n wynebu ac sydd yn grymuso nhw i gyflawni, datblygu a chyrraedd eu potensial. Rhaid i ni herio a goroesi’r stereoteipiau negyddol, ansensitifrwydd a'r diffyg tosturi sy'n ymddangos mewn rhai pobl. Rhaid i ni ddathlu amrywiaeth, penderfyniad a gwydnwch ymadawyr gofal a chefnogi nhw i gael dyheadau uchel. Esiampl anhygoel o hyn yw Sam Gardner, pwy gafodd eu hadnabod trwy'r Gwobrau 'Addysg Oedolion, Ysbrydoli! 2017' gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith am eu cyflawniadau - yn y ffilm fer yma, mae Sam yn siarad yn ymestynnol am yr heriau a wynebodd - "yr her fwyaf i fi oedd cael disgwyliadau isel ar gyfer fy hun a theimlo nad oeddwn yn ddigon gwerthfawr... nad oedd fy las yn cael ei glywed, neu nad oedd yn ddigon da"

Mae Sam nawr yn cyflawni eu breuddwydion ac mae'n rhoi llais a phlatfform ar gyfer plant mewn gofal ac ymadawyr gofal eraill. Yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith, rydym yn benderfynol bod pob ymadawyr gofal yn derbyn cyfleoedd i ffynnu a llwyddo. Darganfyddwch fwy am ein gwaith gydag ymadawyr gofal gan ymweld ag ein gwefan a lawr lwytho ein hadnodd hunanasesu a gweithredu ar gyfer darparwyr addysg a sgiliau, am ddim.

Ymwelwch â'r tudalen Ffocws Adnoddau: "Toolkit" Ymadawyr Gofal i ddarganfod mwy.

Ysgrifennwyd gan Nicola Aylward | Pennaeth Dysgu ar gyfer Pobl Ifanc | Sefydliad Dysgu a Gwaith

Wedi cyfieithu gan Sophie McLaughlin

 
 
 

Comments


Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags

    Contact us: +4429 2068 8722   /   Contact@ExChangeWales.org   /  CASCADE, Glamorgan Building, King Edward VII Avenue, Cardiff, CF10 3WT

    Cysylltwch â ni: +4429 2068 8722   /   Cysylltu@ExChangeCymru.org   /  CASCADE, Adeilad Morgannwg, Rhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WT

    © 2016 CASCADE / Cardiff University. Created with Wix.com

    © 2016 CASCADE / Prifysgol Caerdydd. Wedi'i chreu gyda Wix.com

    bottom of page