Cyfundrefn mewn Argyfwng? Hen Broblemau a Llwybrau Newydd ym maes Amddiffyn Plant: Blog o ein Cynhad
- Cindy Corliss
- Nov 14, 2017
- 3 min read

Cynhaliwyd yr ail gynhadledd chwe misol y flwyddyn ar 1 Tachwedd yn y Novotel, Caerdydd. Thema'r diwrnod oedd 'Cyfundrefn mewn Argyfwng? Hen Broblemau a Llwybrau Newydd ym maes Amddiffyn Plant’
Cafwyd cyflwyniad gan Andy Bilson, Athro Emeritws o Brifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn ar ddechrau’r diwrnod ar y thema ‘Yr Argyfwng Rhyngwladol ym maes Amddiffyn Plant: Pam Mae Angen Model Newydd Arnom,’ ac amlinellodd sut mae'r system bresennol yn cosbi'r rheini sydd mewn tlodi. Aeth yn ei flaen drwy rannu’r ystadegyn canlynol: roedd 22.5% o blant a anwyd yn Lloegr rhwng 2009-10, wedi eu cyfeirio at wasanaethau plant cyn eu 5ed pen-blwydd.
Vivienne Laing, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus- NSPCC oedd yr ail i siarad . Roedd ei chyflwyniad, 'Pa Mor Ddiogel yw Ein Plant?' yn codi nifer o bryderon, gan gynnwys bygythiadau newydd i blant, megis seiberfwlio, anfon ffotograffau neu negeseuon rhywiol trwy ffôn symudol, a delweddau anweddus yn cael ei lledaenu ar-lein.
Yn ogystal â’r peryglon hyn, esgeulustod yw’r prif reswm o hyd dros alw llinell gymorth NSPCC. Dyma’r math mwyaf cyffredin o gam-drin plant ers 2002 (mae atgyfeiriadau wedi cynyddu 80% dros 5 mlynedd). Nid yw’r galwyr yn nodi esgeulustod yn glir; ond daw i’r amlwg yn anuniongyrchol yn ystod y sgwrs ac mae’n cynnwys diffyg bwyd neu ddiogelwch, cam-drin/camddefnyddio cyffuriau a’u gadael yn ddiymgeledd.
Ar ôl yr egwyl, cafwyd cyflwyniad gan Mary Ryan, ‘Negeseuon ar gyfer Ymarfer o Ymchwil - Astudiaeth Gofal Rheolaidd a'r Llys Cyffuriau ac Alcohol Teuluol (FDAC).' Nododd yr angen i ddatblygu perthynas therapiwtig gyda rhieni. Wrth wneud hynny, mae'n bwysig deall effaith profiad hir sefyllfaoedd esgeuluso neu gam-drin.
Cafwyd y cyflwyniad diwethaf cyn cinio gan Paul Bywaters 'Argyfwng? Pa Argyfwng? Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn systemau amddiffyn plant y DU.' Y prif anghydraddoldebau a drafodwyd oedd tlodi ac amddifadedd, themâu cyffredinol y dydd. Cafwyd un nodyn o rybudd gan yr Athro Bywaters, sef cofio bod unigolyn y tu ôl i bob rhif ac ystadegyn.
Ar ôl cinio blasus, cyflwynodd Martin Elliot y rhan helaethaf o 'Anghydraddoldebau Lles Plant yng Nghymru,' a chafwyd diweddglo byr gan Jonathan Scourfield. Unwaith eto, mae tlodi ac anghydraddoldeb wedi'u hamlygu â’r ystadegyn syfrdanol bod plentyn o dan 4 oed sy'n byw mewn cymdogaeth sydd ymhlith yr 20% mwyaf difreintiedig, dros ddeg gwaith yn fwy tebygol o fynd i ofal na phlentyn pedair blwydd oed o’r ardal leiaf difreintiedig.
Will Mason oedd y siaradwr olaf gyda’i gyflwyniad ‘Deall Anghydraddoldebau Lles Plant: Chwe Astudiaeth Achos yn y DU’ Anogodd drafodaeth a myfyrdod pellach gyda chwestiwn pryfoclyd - 'Beth yw’r cydadwaith rhwng penderfyniadau i ymyrryd ym mywydau plant a'u hamgylchiadau cymdeithasol, economaidd a materol?'
Unwaith eto, daeth tlodi i’r amlwg yn y cyflwyniad, gan nodi bod gweithwyr cymdeithasol, pan ofynnir iddynt, yn gallu mynegi eu dealltwriaeth o'r berthynas gylchol rhwng tlodi a niwed. Er hynny, anaml iawn yr oedd hyn i’w weld yn amlwg wrth gynllunio achosion. Mae hyn oherwydd bod tlodi yn broblem rhy fawr i fynd i'r afael ag ef gyda gwasanaethau ac adnoddau sy'n lleihau'n fwyfwy.
Ar ôl yr egwyl, roedd gan bawb yr opsiwn o fynd i un o dri gweithdy:
‘Sut mae Gweithwyr Cymdeithasol yn Siarad am Dlodi, a sut Ddylent Wneud Hynny?’ gyda Lucy Sheehan a Donald Forrester
‘Tlodi, Gwarchod Plant, ac Ymarfer Gwaith Cymdeithasol.’ gyda Kate Morris
'Esgeuluso plant.’ gyda Vivienne Laing a Carl Harris NSPCC
Fe es i i’r gweithdy cyntaf lle defnyddiwyd astudiaeth achos i’n galluogi i gael trafodaethau mewn grwpiau bach. Roedd yr astudiaeth achos yn canolbwyntio ar deulu lle’r oedd y fam a'r plant yn byw mewn sefyllfa fregus o ran eu cartref ac arian, yn ogystal â phryder ynghylch cam-drin domestig diweddar.
Yn amlwg, mae llu o anawsterau o dan sylw yn y sefyllfa hon, ac efallai na fydd modd eu datrys i gyd mewn un ymweliad cartref. Drwy gydol y trafodaethau grŵp bach, ystyriwyd opsiynau amrywiol o ran beth fyddai’r ffordd orau o helpu’r teulu hwn.
Y pryder mwyaf uniongyrchol oedd gwneud yn siŵr bod y teulu yn ddiogel ac nad oeddent yn dod i gysylltiad â’r unigolyn oedd wedi achosi’r cam-drin domestig. Ar ôl sicrhau hynny, gellir mynd i'r afael â’r anawsterau niferus eraill, gan gynnwys cysylltu â’r gwasanaethau angenrheidiol i fynd i’r afael â’r sancsiynau budd-daliadau.
Ochr yn ochr â gwneud yn siŵr mai diogelwch oedd yn cael blaenoriaeth, dechreuodd y trafodaethau symud i gyfeiriad gwahanol wrth ystyried tlodi fel y ffactor sylfaenol. Fodd bynnag, bydd angen newid y system yn ei chyfanrwydd i fynd i’r afael â thlodi, ac nid yw’n rhywbeth y gellir ei ddatrys yn ystor ymweliad cartref.
Yn ei sylwadau wrth ddod â’r digwyddiad i ben, anogodd Donald Forrester yr ymarferwyr i beidio â dwysáu’r a achosir gan dlodi i deuluoedd. Diolchodd i’r rhai a ddaeth i’r gynhadledd ac i staff y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) am eu presenoldeb a’u gwaith caled drwy gydol y dydd.
I drafod y diwrnod ymhellach, dilynwch #ExChange17 ar Twitter.
Comments