top of page

Ymweld â mamau yn y Carchar

Ymweld â Mam: Profiad hynod bwysig i blant carcharorion benywaidd

Mae cynllun sy'n helpu plant o Gymru i ymweld â'u mamau mewn carchar yn lleihau gorbryder ymhlith carcharorion benywaidd ac yn cynyddu faint o gyswllt maent yn ei gael â'u teulu. Mae astudiaeth ddiweddar a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi archwilio i effaith cynllun Ymweld â Mam sy'n helpu plant o Gymru i ymweld â'u mamau mewn carchar.

Nid oes unrhyw garchardai i fenywod yn unig yng Nghymru, felly mae menywod o dde Cymru yn cael eu carcharu yn CEM Eastwood Park, Caerloyw. Mae'r pellter uwch hwn rhwng y fam a'r plentyn, a'r costau a phwysau amser cysylltiedig i ofalwyr, yn gallu arwain at lai o ymweliadau gan blant.

Mae cynllun Ymweld â Mam, gan yr Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai (Pact) mewn partneriaeth â Sova, yn gweithredu drwy ddefnyddio gwirfoddolwyr sy'n gweithio gyda theuluoedd unigol yn y gymuned i baratoi gofalwyr a phlant i ymweld ag Eastwood Park a chludo plant a gofalwyr i’r carchar.

Mae Ymweld â Mam yn cynnig cyfleoedd i gael ymweliad preifat mewn man priodol, a rheolau ymweld llai llym i alluogi mamau i ryngweithio â'u plant a chael ymweliad gwell.

Canfuwyd bod y cynllun, sydd wedi gweithio gyda 97 o famau a 164 o blant, yn gwella iechyd meddwl ac iechyd corfforol y plant, yn lleihau eu pryderon, ac yn eu helpu i deimlo'n llai ofnus mewn amgylchedd y carchar.

Canfu Dr Alyson Rees, Dr Eleanor Staples a Dr Nina Maxwell o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd fod mamau sy'n defnyddio'r cynllun wedi sôn am welliant o ran eu hiechyd meddwl, llai o bryderu, a llai o hunan-niwed.

Casglwyd data gan ddefnyddio sgyrsiau a sesiynau grŵp; cyfweliadau â mamau yn ystod eu hamser yn CEM Eastwood Park ac ar ôl cael eu rhyddhau; cyfweliadau â gofalwyr a gwirfoddolwyr y cynllun; a sgyrsiau â phlant. Defnyddiodd y plant flychau tywod a theganau i gynrychioli eu profiad o fynd i weld eu mam yn y carchar.

Nid ydym yn gwybod yn union faint o blant a effeithiwyd gan garcharu mamau, ond yn ôl amcangyfrif gan yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai yn 2015, roedd gan 66% o fenywod mewn carchar blant dan 18 oed oedd yn ddibynnol arnynt, ac roedd o leiaf 20% ohonynt yn rhieni unigol cyn mynd i'r ddalfa.

Yn 2010, amcangyfrifwyd bod mwy na 17,240 o blant wedi cael eu gwahanu o'u mamau ar ôl iddynt gael eu carcharu, ac mai dim ond 9% o'r plant hynny gafodd gofal gan eu tadau yn y cyfnod hwn. Wrth sôn am yr astudiaeth, dywedodd Dr Alyson Rees: "Canfuom fod cynllun Ymweld â Mam yn wasanaeth hanfodol sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr gan blant, mamau a gofalwyr. Rydym yn gobeithio y bydd y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod ein hastudiaeth yn denu rhagor o gyllid ar gyfer y gwasanaeth ac yn sicrhau y bydd plant yng Nghymru yn parhau i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt."

Roedd y prosiect yn bosibl o ganlyniad i grant gwerth £522,149 gan Raglen Arloesedd Fawr Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Bydd yr astudiaeth yn cael ei lansio ym Mhrifysgol Caerdydd ddydd Iau 7 Medi. I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, cysylltwch â cascade@caerdydd.ac.uk.

Nodiadau i Olygyddion:

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Victoria Dando, Uwch Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Caerdydd, Ffon: 02920 879074, Ebost: DandoV2@caerdydd.ac.uk

Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai (Pact)

Elusen sy'n gweithredu ledled Cymru a Lloegr yw'r Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai (Pact), ac mae'n cefnogi pobl sy'n cael eu heffeithio gan garchar. Maent yn gweithio mewn carchardai, llysoedd a'r gymuned i gynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i blant a theuluoedd carcharorion, carcharorion, a phobl gydag euogfarn droseddol sydd am ddechrau o'r newydd. www.prisonadvice.org.uk

Mae Pact hefyd yn cynnig gwasanaeth llinell gymorth cyfrinachol am ddim ar 0808 808 3444.

Prifysgol Caerdydd

Mae asesiadau annibynnol y llywodraeth yn cydnabod Prifysgol Caerdydd fel un o brifysgolion blaenllaw Prydain o ran addysgu ac ymchwil, ac mae'n aelod o Grŵp Russell, sy'n cynnwys prifysgolion y DU sy'n rhoi'r pwyslais mwyaf ar waith ymchwil. Gosododd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 y Brifysgol yn y 5ed safle trwy'r DU gyfan ar gyfer rhagoriaeth ymchwil. Ymhlith ei staff academaidd, mae dau sydd wedi ennill Gwobr Nobel, gan gynnwys enillydd Gwobr Nobel Meddyginiaeth 2007, yr Athro Syr Martin Evans. Sefydlwyd y Brifysgol drwy Siarter Frenhinol ym 1883, a heddiw mae'n cyfuno cyfleusterau modern trawiadol ac agwedd ddeinamig at addysgu ac ymchwil. Mae arbenigedd eang y Brifysgol yn cynnwys: Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol; Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd; a Choleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, ynghyd ag ymrwymiad hirdymor i ddysgu gydol oes. Mae Sefydliadau Ymchwil blaenllaw Caerdydd yn cynnig dulliau newydd radical o fynd i'r afael â phroblemau byd-eang pwysig. www.caerdydd.ac.uk

Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags
No tags yet.
    bottom of page