Cynhaliwyd y Gwerthusiad o Brosiect Ymweld â Mam ym Mhrifysgol Caerdydd ar 9 Ionawr 2018.
- Cindy Corliss
- Jan 11, 2018
- 1 min read

Roedd y digwyddiad PACT yn trafod y gwerthusiad o Brosiect Ymweld â Mam. Cynhaliwyd y prosiect rhwng mis Hydref 2014 - Hydref 2017, drwy bartneriaeth rhwng PACT a SOVA, a chafodd ei ddylunio i gefnogi plant a theuluoedd, i'w cludo i ymweld â'u mam yn y carchar, a hwyluso cyswllt da rhwng y fam a'r plentyn.
Roedd y prosiect yn galluogi menywod mewn carchar i gael ymweliad gan eu plant mewn man sy'n fwy addas ar gyfer teuluoedd a phlant. Cafodd y man ei deilwra'n benodol i alluogi mamau i ofalu am eu plant, i wneud diod boeth iddynt, chwarae gemau, ac i gael cyfleoedd am gyswllt corfforol rhwng y fam a'r plentyn.
Roedd cael y lle hwn ar gyfer y fam a'r plentyn wedi lleihau'r pryderon ymhlith y naill a'r llall yn ystod ymweliadau yn ddramatig. Roedd y rhiant a'r plentyn ill dau'n teimlo dan lai o fygythiad ac roedd yr ymweliadau hirach a'r man diogel yn helpu i gynnal a meithrin perthnasau teuluol. Cafodd 97 o fenywod a 69 o deuluoedd eu cefnogi am hyd y prosiect.
O ganlyniad i'r prosiect hwn, gellir gwella polisïau ac arferion yng Nghymru a'r DU gyfan. Gwnaed argymhellion i'r perwyl hwn er mwyn gwella perthnasau teuluol, lleihau pryderon y fam a'r plentyn, a sicrhau y gellid ail-greu'r prosiect mewn carchardai eraill.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalen lansio PACT
Comments