Gweithdy Ymarferydd: Disgwyliadau addysgiadol o Blant sy'n Derbyn Gofal
- Cindy Corliss
- Feb 26, 2018
- 2 min read

Roedd tîm ExChange yn falch o groesawu Dr Eran Melkman o Ganolfan REES ar gyfer Ymchwil Maethu ac Addysg ym Mhrifysgol Rhydychen ar 19 Chwefror. Roedd y rhai oedd yn bresennol yn edrych ymlaen yn fawr at y gweithdy, Llwybrau addysgol plant sy'n derbyn gofal ar draws blynyddoedd cynradd yr ysgol.
Rhoddodd Dr Melkman drosolwg o'r ymchwil, a dynnodd sylw at rai ystadegau pwysig o'r dechrau un, gan gynnwys:
Roedd dros 70,000 o blant mewn gofal yn Lloegr yn 2016
O'r rheini, roedd dros 50,000 (75%) mewn gofal maethu
Cafodd 32% o bobl ifanc eu lleoli y tu allan i'w hardal (o gymharu â ~25% yng Nghymru)
O ran y rhesymau pam mae pobl ifanc yn mynd i'r system gofal, cafodd 62% eu lleoli ynddi o ganlyniad i gam-drin neu esgeulustod. Yn anffodus, ni wahaniaethir rhwng y ddau o ran cofnodi'r rhesymau dros leoli.
Yna, canolbwyntiodd y drafodaeth ar lwybrau addysgol a chyrhaeddiad, ac eglurwyd bod plant sy'n derbyn gofal dan anfantais sylweddol o safbwynt addysg. Nid yw hyn wedi'i gyfyngu i'r DU, canfuwyd bod hyn yn wir ledled y byd.
Ar gyfartaledd, mae plant sy'n derbyn gofal dan anfantais, a thros amser gall eu sefyllfa academaidd barhau i ddirywio. Maent hefyd yn wynebu problemau fel anghenion addysgol arbennig, problemau ymddygiad, a cham-drin ac esgeulustod.
Penderfynwyd bod angen rhoi mwy o sylw i ymyriadau cyn i blant ddechrau'r ysgol, yn ogystal â gwneud yn siŵr bod gan blant sy'n derbyn gofal fynediad at ofal o safon cyn mynd i'r ysgol. Mae angen i ysgolion roi sylw i anghenion plant sy'n derbyn gofal, a gwneud yn siŵr eu bod yn barod i gynorthwyo'r plant hyn ynghyd â'r rhai yn eu plith sydd ag anghenion addysgol arbennig.
Cafodd y gweithdy ei gloi gyda thrafodaeth ynglŷn â'r uchod a sut gall ysgolion weithio i gynorthwyo plant sy'n derbyn gofal orau.
I weld y cyflwyniad, cliciwch yma (Saesneg).
I gael rhagor o wybodaeth am Ganolfan REES, cliciwch yma (Saesneg).
Comments