top of page

Cynhadledd: Archwilio dulliau atal, cefnogi ac amddiffyn rhag trais yn erbyn menywod, cam-drin domes


Dechreuodd y bore gyda’n cadeirydd, Christine Grimshaw, yn croesawu pawb. Darparodd drosolwg o’r diwrnod, gan gynnwys conglfeini’r strategaeth genedlaethol; atal, amddiffyn, cefnogi. Atgoffodd ni mai menywod yw’r dioddefwyr yn bennaf, ond y gall unrhyw un brofi trais domestig; mae'n codi uwchlaw hil, rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol. Mae dioddefwyr yn profi niwed emosiynol tymor hir a gall effeithio'n niweidiol ar blant sy'n ddioddefwyr neu'n dystion.

Yna, croesawodd ein prif siaradwr cyntaf, Nazir Afzal OBE | Ymgynghorydd Cenedlaethol, VAWDASV.

Siaradodd Mr Afzal yn angerddol iawn am drais domestig ac mae’n teimlo’n gryf fod yn rhaid inni ymladd yn erbyn trais yn erbyn menywod a merched. Unwaith eto, er mai menywod yw’r rhai sy'n profi trais domestig a cham-drin gan mwyaf, gall dynion fod yn ddioddefwyr a rhaid peidio â’u hanghofio.

Felly, pa rwystrau sy’n atal dioddefwyr rhag rhoi gwybod i rywun? Sut gallwn newid pethau? Mae angen tystiolaeth arnom!

Pan fydd gennym dystiolaeth, gallwn ei defnyddio i newid polisi, gweithdrefn a deddfwriaeth.

Aeth Mr Afzal ymlaen i siarad yn angerddol am nifer o achosion y mae wedi bod yn gysylltiedig â nhw. Roedd y cyntaf yn sôn am fenyw ifanc o'r enw Banaz Mahmod, a gafodd ei gorfodi i briodas wedi’i threfnu, lle cafodd ei cham-drin yn rhywiol ac yn gorfforol. Gadawodd ei gŵr, ond wedyn cafodd ei lladd gan ei thad a'i hewythr mewn llofruddiaeth ar sail anrhydedd. Aeth ymlaen i amlinellu ei ran yn erlyn achos Baby P, yn ogystal â chriw cam-drin plant Rochdale, gan dynnu sylw at y ffaith bod angen dull pwrpasol o weithio gyda phob dioddefwr, gan fod pob dioddefwr yn unigryw.

Daeth y sgwrs i ben drwy ein hatgoffa bod atal ac addysgu yn allweddol. Bydd dros un filiwn o blant yn dyst i drais domestig, ac mae’n bosibl y byddant yn dysgu o'r ymddygiad hwn, gan barhau’r cylch dieflig. Rhaid mynd i'r afael â symptomau’r ymddygiadau hyn er mwyn terfynu'r cylch trais.

Yn dilyn Mr Afzal, croesawyd goroeswr trais domestig, yn siarad o brosiect SEEDS. Yn y cyflwyniad hynod deimladwy ac emosiynol hwn, rhannodd ei phrofiad o'r cylch trais, a cheisio amddiffyn ei phlant a’i chŵn rhag y trais drwy gymryd y cam-drin corfforol ei hun.

Pan geisiodd gael help, dywedwyd y dylai fynd at loches; roedd hi'n teimlo wedi’i gwrthod a’i hanwybyddu. Roedd ei phlant wedi eu trawmateiddio, ac eto, roedd y system yn parhau i ganiatáu’r tad i gymryd rhan a dweud ei ddweud.

O’r diwedd, gyda chymorth SEEDS, Cymru Fwy Diogel a Chymorth i Ferched Cymru, llwyddodd i adael y berthynas ac roedd yn rhydd o gam-drin. I grynhoi, trwy adrodd straeon, efallai y gallwn weld cymdeithas ddi-drais yn y pen draw.

Y siaradwr nesaf oedd Natalie Blakeborough o Gymorth i Ferched Cymru yn siarad am y 'Model Newid sy’n Para.'

O gofio y bydd un menyw ym mhob tair yng Nghymru yn dioddef trais domestig, mae angen newid a fydd yn para. Dangosodd stori am fenyw ifanc a oedd wedi dioddef dro ar ôl tro, a’r costau a gododd oherwydd hyn.

Yn sgil hyn, teimlwyd bod angen dull system gyfan ar gyfer trais domestig, gydag ymyrraeth gynnar fel blaenoriaeth. Hefyd, bydd angen ei ail-lunio er mwyn bod yn seiliedig ar fodloni anghenion menywod a phlant. Newid sy'n para yw'r ysgogydd!

Yn dilyn egwyl fer, clywsom gan Jill Henery, Relate Cymru. Siaradodd am ‘Choose2Change Relate – Gwasanaethau Cyflawni.’ Trafododd Jill ffactorau risg y cyflawnwyr, ffactorau risg y dioddefwr, a dangosyddion angeuoldeb, a ffyrdd y gall DVPP gynyddu risg.

Cymerodd y cyfranogwyr ran mewn ymarfer i lywio’r ystafell lle roedd y rheolau’n newid yn gyson yn ôl ei mympwyon - yn union fel y gall cyflawnwr newid y rheolau’n gyson mewn perthynas, gan ddangos sut gall gorfodaeth gael effaith ar bobl.

Yn dilyn hyn, cynhaliwyd ein panel ar atal. Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys Rachael Eagles - Rhaglen Ysbrydoli Teuluoedd (Calan DVS), Dr Jo Roberts - ACES (Iechyd Cyhoeddus Cymru), Ann Dann - Mynd i’r afael â Pherthnasoedd Iach (SPECTRUM, Hafan Cymru), Vivienne Laing - Aelod o Banel Arbenigol Llywodraeth Cymru ar Addysg Rhyw a Pherthnasoedd Iach mewn Ysgolion (NSPCC), Dr Cerys Miles - Gweithio’n Effeithiol gyda Throseddwyr (Seicolegydd Fforensig Siartredig HMPPS/Llywodraeth Cymru), Catherine Phillips- Swyddog Materion Cyhoeddus Plant a Phobl Ifanc (Cymorth i Ferched Cymru). Atebodd y panel gwestiynau gan y rhai oedd yn bresennol.

Roedd y cyflwyniad olaf cyn cinio gan Sarah Wydall a Rebecca Zerk, Prifysgol Aberystwyth. Roedd eu cyflwyniad ar 'Bobl Hŷn a Cham-drin Domestig: Prosiect Dewis Choice.

Gall pobl hŷn ddioddef cam-drin domestig, yn aml gan eu plant neu eu hwyrion a'u hwyresau. Oherwydd ffactorau cenedliadol, yn ogystal â materion eraill, mae pobl hŷn yn aml yn teimlo eu bod yn gyfrifol, efallai eu bod yn dibynnu ar y cyflawnwr, yn ofni cael eu rhoi mewn cartref, yn ofni ymateb eu teulu os byddant yn datgelu, ac yn teimlo cywilydd.

Yn anffodus, nid yw llawer o’r gwasanaethau sydd ar gael yn addas ar gyfer pobl hŷn. Mae ffactorau eraill yn gwaethygu hyn gan nad oes gan bobl hŷn cymaint o rwydweithiau cymdeithasol ac maent yn dibynnu ar eu teuluoedd, eisiau cynnal eu perthynas â'u teulu (a allai yn aml gynnwys y sawl sy’n eu cam-drin), ac yn ofni colli cyswllt â’u hwyrion a'u hwyresau.

Mae'r prosiect Dewis Choice yn darparu gwasanaethau i bobl hŷn, yn dilyn taith dioddefwyr ac yn defnyddio dull teulu cyfan. Maent yn canolbwyntio ar ddioddefwyr a goroeswyr risg isel/canolig sydd dros 60 oed ac yn helpu i archwilio perthnasoedd iach a chysylltu â’r trydydd sector.

Ar ôl cinio, siaradodd Liz Baker, o Barnardo’s. Roedd ei chyflwyniad ‘Rhoi Ymchwil ar Waith; Asesu Effaith Seicolegol Cam-drin Domestig ar Blant’ yn canolbwyntio ar blant.

Ar y cychwyn, dangosodd fideo am stori Amy.

Roedd y fideo’n sôn am ferch ifanc a oedd yn dyst i drais domestig yn ifanc, ac a aeth ymlaen i brofi problemau iechyd meddwl ac ymddygiad o ganlyniad i hynny. Tynnodd hyn sylw at y ffaith bod angen cymorth ar blant sy'n profi trais domestig yn y cartref ac y gall trawma gael effaith tymor hir, hyd yn oed os nad yw'r plentyn yn sylweddoli hynny.

Gall effeithiau bod yn dyst i wrthdaro yn y cartref ar blant gynnwys (ymysg eraill) problemau datblygiad emosiynol, problemau datblygiad ymenyddol a phroblemau datblygiad cymdeithasol ac ymddygiadol.

Roedd ein cyflwyniad terfynol gan Aelodau o’r NSPCC. Siaradodd Claire Burns, Di Hunter a Paula Telford am ‘Taith yr NSPCC i Ddatblygu Gwasanaethau ar Sail Tystiolaeth er mwyn Atal, Amddiffyn a Chefnogi Plant sy’n Dioddef Cam-drin Domestig’ Siaradon nhw am y rhaglenni canlynol: Tadau Gofalgar: Plant Mwy Diogel; Cam-drin Domestig, Gwella Gyda'n Gilydd (DART); a Chamau Diogelwch.

Trafodon nhw sut mae pob rhaglen yn gweithio a sut maent yn cael eu gwerthuso. Yn ogystal, siaradon nhw am sail dystiolaeth y gwerthusiad a sut a pham y defnyddiwyd y rhaglenni hyn a sut maent yn fuddiol i gyfranogwyr.

I gloi’r diwrnod, cynhaliwyd ein panel cymorth. Yn rhan o’r panel olaf oedd Liz Baker - Effaith Seicolegol ar Plant (Barnardo’s), Claire Burns, Di Hunter a Paula Telford - Cefnogi Plant (NSPCC). Atebon nhw gwestiynau gan gyfranogwyr am y rhaglenni a drafodwyd.

Yn olaf, daeth Christine Grimshaw â’r diwrnod i ben trwy ddiolch i’n cyflwynwyr a’r rhai oedd yn bresennol.

I gloi, hoffwn ddiolch i'r holl gyflwynwyr a mynychwyr am ddod i'r gynhadledd hon. Mae’r holl gyflwyniadau i’w gweld ar ein gwefan a chewch ragor o wybodaeth am y diwrnod drwy chwilio am #VAWDASV ar Twitter.

Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags
No tags yet.
    bottom of page