top of page

Cyfarfodydd Ysgol: Byddwch yn barod!

Mae angen i ofalwyr maethu mynychu cyfarfodydd gydag ysgolion fel rhan o'u swydd. Mae'r rhestr isod yn adlewyrchiad o'r holl bethau rydw i wedi ystyried yn ddefnyddiol ar draws y blynyddoedd, o'r cyfarfodydd rydw i wedi mynychu. Gobeithiaf bydd y pwyntiau yma yn gweithredu fel canllaw a rhestr wirio i ofalwyr maethu eraill, a chefnogi nhw yn y dyfodol wrth baratoi ar gyfer cyfarfodydd.

  • Ysgrifennwch restr o'r cwestiynau rydych chi eisiau cael eu hateb.

  • Sicrhewch rydych chi'n siarad efo rhywun a gall gwneud newidiadau neu weithredu syniadau newydd (e.e. Pennaeth Dirprwy, Pennaeth Cynorthwyol, Pennaeth Blwyddyn (o leiaf))

  • Sicrhewch fod gennych chi fanylion cyswllt y bobl yn y cyfarfod.

  • Cymerwch sylwadau yn ystod y cyfarfod, pwy sy'n gwneud beth ac erbyn pryd, a pham.

  • Peidiwch fod yn ofn i siarad. Os oes angen, cymerwch anadl dwfn.

  • Sicrhewch fod eich ffeithiau yn gywir, os oes gennych unrhyw amheuaeth dwedwch 'rydw i'n credu', 'dwedwyd wrthyf', 'rydw i'n deall'.

  • Cadwch ar ben gweithredoedd sydd heb gael ei gyflawni gan yr ysgol bob amser a rhowch wybod i'r ysgol o'r canlyniadau sydd gennych chi.

  • Sicrhewch eich bod yn gwneud unrhyw beth rydych chi'n dweud neu rhowch wybod i rywun pam mae'r weithred dim yn digwydd.

  • Ewch a gweithiwr cymdeithasol gyda chi i'r cyfarfodydd.

  • Cadwch eich gweithiwr cymdeithasol yn wybodus.

  • Paratowch i fynd a rheolwyr gyda chi i'r cyfarfodydd.

  • Gwnewch ffrindiau gyda'r derbynwyr - yn aml gallant nhw drefnu cyfarfod i chi gyda byr rybudd.

  • Byddwch yn barod i dderbyn bod eich plentyn ddim yn cydweithio yn yr ysgol bob amser.

  • Mae cosbau/chanlyniadau am weithredai yn yr ysgol yn aros yn yr ysgol.

  • Rhowch wybod i'ch plentyn pryd rydych chi'n mynd i'r ysgol a pham.

  • Pan mae digwyddiadau yn digwydd, sicrhewch fod gennych chi'r holl fanylion. Enwau, lleoedd, gweithredai ayb.

  • Byddwch yn barod i amddiffyn neu gydnabod gweithredai eich plentyn.

  • Byddwch yn barod i esbonio oedran iawn yn erbyn oedran emosiynol neu ddatblygiadol.

  • Sicrhewch fod eich logiau yn adlewyrchu'r cyfarfod yn gywir.

  • Os nad ydych yn deall rhywbeth, gofynnwch. Mae iaith ysgol yn cymryd amser i ddeall.

  • Ceisiwch faethu perthynas da gyda'r ysgol, fodd bynnag, mae eich plentyn yn dod gyntaf ac os yn angenrheidiol, aberthwch y perthynas er mwyn gofal y plentyn.

  • Mae unrhyw blentyn yn gallu mynd i ysgol yn ôl y gyfraith.

  • Gwybod eich hawliau.

Mae cyngor ar gyfer pobl ifanc mewn cyfarfodydd ar gael yn y canllaw 'Getting Your Voice Heard in Your Review Meeting Guide' -am fwy o wybodaeth gwasgwch yma

 
 
 

Kommentare


Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags

    Contact us: +4429 2068 8722   /   Contact@ExChangeWales.org   /  CASCADE, Glamorgan Building, King Edward VII Avenue, Cardiff, CF10 3WT

    Cysylltwch â ni: +4429 2068 8722   /   Cysylltu@ExChangeCymru.org   /  CASCADE, Adeilad Morgannwg, Rhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WT

    © 2016 CASCADE / Cardiff University. Created with Wix.com

    © 2016 CASCADE / Prifysgol Caerdydd. Wedi'i chreu gyda Wix.com

    bottom of page