TI all fod yr un i wneud gwahaniaeth
- Keith Bishop
- Oct 27, 2018
- 3 min read
Ar draws y wlad, mae yna filoedd o ofalwyr maeth sy'n darparu teuluoedd cariadol a sefydlog ar gyfer eu plant maeth, ond sydd heb yr hyder i siarad allan. Er ein bod ni wedi tyfu mewn hyder i bleidio dros blant a phobl ifanc gyda phrofiad o ofal, rydw i'n anghyffyrddus gyda'r awgrym bod ni'n gwneud hyn oherwydd rydym ni'n arbennig mewn rhyw ffordd - nad ydym!
Mae'r ffordd rydym ni wedi datblygu'r hyder bach yn fwy cymhleth. Does yna neb i ddywed wrthoch chi am yr heriau a fydd ac rydym ni'n aml yn teimlo fel bod y datrysiadau yn cael ei guddio ohonom ni ar bwrpas. Wedi'r cyfan, pwy sydd eisiau teuluoedd maethu sydd wedi awdurdodi i gwestiynu'r penderfyniadau wedi gwneud gan bobl broffesiynol eraill? Nad ydym wrth gwrs yn gwybod popeth, ond mae delio gyda phob brwydr ac ennill llwyddiannau bychain wedi rhoi'r hyder i ni yn raddol i herio eraill ac i fod yn llais ar gyfer ein plant maeth. Nad ydym yn ennill pob un a hyd yn oed pan ni yn, mae'n gallu cymryd amser hir iawn; brwydron ni am bedair flwyddyn i gael cynilion ein merch wedi dychwelyd iddi hi. Yn y diwedd, enillon ni! Rydym ni'n ystyried dyfalbarhad cwrtais i fod y dull fwyaf effeithiol.
Rhywbeth arall rydym ni'n gwneud yw gwneud defnydd da o ein gweithiwr cymdeithasol goruchwylio. Os oes angen unrhyw wrthdrawiadau anghyffyrddus, rydym ni'n aml yn gofyn iddyn nhw i wneud y gwaith. Rydym ni hefyd wedi darganfod bod trafodaethau efo nhw, cyn cwrdd â phobl broffesiynol eraill, yn ddefnyddiol er mwyn sicrhau nad ydym yn croesddweud ein gilydd.
Mae bod yn ymwybodol o hawliau eich plant maeth yn hynod o bwysig; felly roedd angen i ni wneud ein gwaith cartref. Er bod y wybodaeth sydd angen arnoch chi i gyd "ar gael", mae'n annhebygol bydd unrhyw un yn dweud wrthoch chi amdano fo; mae angen i chi edrych eich hun. Mae gan yr elusen Become llinell cyngor (0800 023 2033) a gallech chi alw ar ran eich plant maeth i gael gwybodaeth fel eich bod yn gallu sicrhau mae eich plant yn cael y cymorth a help cywir. Rydw i wedi darllen yr holl gyfarwyddiad statudol (sydd ar gael ar wefan y Llywodraeth) sydd yn ymwneud a phlant a phobl ifanc gyda phrofiad o ofal yn Lloegr. Gwnaethom ni hyd yn oed argraffu copïau i fynd a ni i gyfarfodydd. Mae hyn yn helpi ni i deimlo'n ddarpar ac yn rhoi arwydd i eraill bod ni'n golygu busnes! Cofiwch, na fydd unrhyw un yn dweithio chi'r pethau yma felly mae angen i chi chwilio amdano ar ben eich hun. Os ydych chi'n gwneud hyn, mae'n debyg chi fydd y person fwyaf gwybodus yn y cyfarfod.
Tu allan i fy myd maethu, rydw i'n dysgu mewn Prifysgol felly mae gen i'r safle breiniol o gael pobl o fy nghwmpas sydd yn gallu rhoi cyngor ar addysg a phob peth arall yn ymwneud a maethu. Deallem ni nad oes gan bawb fynediad i gyn-gyfreithwyr, gweithwyr cymdeithasol neu benaethiaid ysgolion, a gall maethu bod yn lle ynysol lle rydych chi'n teimlo taw chi yw'r unig un sydd yn cwestiynu'r penderfyniadau sy'n cael ei wneud. Y rheswm am ysgrifennu'r blog yma yw dweud nad ydych chi yw'r unig un. Os ydych yn gallu ehangu eich rhwydwaith o gymorth bydd yna'n fydd go iawn. Rydw i wedi darganfod bod cysylltu gyda gofalwyr maeth eraill ar gyfryngau cymdeithasol yn ffynhonnell o wybodaeth a chymorth arbennig.
Mae yna ddadl ar hyn o bryd am statws cyflogol teuluoedd maethu. Pa bynnag ochr o'r ddadl rydych chi'n cefnogi, yn y diwedd rydw i'n teimlo bod y ddadl sy'n dweud eich bod yn gweithio ar gyfer eich plant maeth yn un gymelliadol. Gan ein bod yn gweithio ar gyfer ein plant, rydym ni'n atebol iddyn nhw a ddylai hyn rhoi'r hyder sydd angen arnom ni i herio pawb arall.
Mae Keith Bishop yn dad maethu, gweithiwr ieuenctid a darlithydd uwch yn Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, Prifysgol Newman, Birmingham.
Comments