top of page

Profiadau Addysgol Plant mewn Gofal

Fel gofalwr maeth ac athro roeddwn i'n ymwybodol iawn o ganlyniadau addysgol mesuredig gwannach plant mewn gofal o'u cymharu â'r boblogaeth ehangach. Nid mater 'academaidd' oedd hwn, ond fy mhrofiad byw i. Roeddwn i'n cefnogi addysg y bobl ifanc dan fy ngofal, ac yn tystio i'w hanawsterau wrth fwrdd fy nghegin. Pan benderfynais ymgymryd ag astudiaethau doethurol, roeddwn yn gwybod fy mod am ddeall profiad addysg person ifanc dan ofal y wladwriaeth yn well.

Nod fy mhrosiect oedd datblygu dealltwriaeth well o'r hyn roedd 'addysg' yn ei olygu os oeddech chi mewn gofal. Cyfwelais â saith unigolyn, rhwng 11 a 59 oed, gan adael iddynt ddweud eu straeon wrthyf i. Cefais gyfarfod â phob cyfranogwr ar bedwar neu fwy o achlysuron, pan roddais 'thema' drosfwaol iddyn nhw a gwrando ar eu hanesion. Roedd yn ddifyr, yn syfrdanol, yn ingol ac yn bennaf oll yn addysgiadol.

Canfu'r astudiaeth fod gan bobl ifanc mewn gofal olwg eang ar addysg, sy'n estyn ymhell y tu hwnt i adeilad yr ysgol. Mae cymaint i'w ddysgu, o sgiliau bywyd sylfaenol a sgiliau cymdeithasol, i sgiliau chwaraeon a digidol. Roedd y cyfranogwyr hyn yn synied amdanynt eu hunain fel cyflawnwyr o fewn yr olwg eang hon, gan ymfalchïo yn eu cyflawniadau.

Nododd yr astudiaeth ddysgu drwy feddwl, gwneud a bod. Canfu fod y bobl ifanc hyn yn ymatebol - roeddent yn meddwl am eu heffaith ar y byd o'u cwmpas; roeddent yn weithredol, gan adrodd naratifau ble roeddent yn dweud eu bod wedi cymryd rheolaeth ar agweddau o'u bywydau, o fewn cyfyngiadau strwythurau 'gofal'; ac roeddent yn dangos habitus, neu hunaniaeth, oedd yn eu helpu i ddysgu pwy oedden nhw, a chydnabod eu cyflawniadau.

Datblygwyd y model uchod fel offeryn i hwyluso adnabod 'dysgu' o fewn yr olwg eang hon ar addysg. Drwy ganolbwyntio ar feddwl (ymatebedd), gwneud (gweithrededd) a bod (habitus), gall y model helpu pobl ifanc, a'r rheini yn y proffesiynau gofal ac addysg, i adnabod, cofnodi a gwobrwyo'r dysgu ehangach sy'n digwydd, a'i hyrwyddo, gan hwyluso sgyrsiau cadarnhaol ynghylch addysg.

-Dr Karen Kenny, Datblygwr Academaidd Cyswllt, The Education Incubator, Prifysgol Caerwysg

Gellir cysylltu â Karen drwy ebost: karen.kenny@exeter.ac.uk ac ar twitter https://twitter.com/karenkenny9

Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags
No tags yet.
    bottom of page