Y Premiwm Disgybl ‘Mwy’
- Hannah Bowden
- Nov 29, 2018
- 4 min read
Mae’r Premiwm Disgybl ‘Mwy’ yn cynnig £2300 i bob disgybl sy’n derbyn gofal mewn awdurdod lleol (neu sydd wedi’i fabwysiadu/o dan orchymyn gwarchodaeth arbennig/o dan orchymyn trefniant plentyn) o ddosbarth derbyn hyd at flwyddyn 11 mewn addysg a ariennir gan y wladwriaeth yn Lloegr (Foster a Long, 2018; PAC-UK, 2018). Yn gadarnhaol, mae’r ffrwd ariannu hon wedi cychwyn sgwrs genedlaethol am anghenion addysgol unigryw plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal mewn awdurdod lleol, ond un cam yn unig yn y cyfeiriad cywir ydyw am nifer o resymau. Pedair blynedd ar ôl ei gyflwyno yn Lloegr, nid yw’r term ‘Premiwm Disgybl Mwy’ yn gyffredin ymhlith llenyddiaeth lywodraethol nac academaidd. Yn hytrach, dim ond at y ‘Premiwm Disgybl’ y cyfeirir ato o hyd. Yn aml iawn, caiff y gair ‘Mwy’ ei gynnwys o dan y Premiwm Disgybl cyffredinol – o leiaf mewn naratif ac o bosibl yn ymarferol. Tystiolaeth bellach o hyn yw diffyg sylfaen dystiolaeth ar gyfer buddsoddiad ariannol effeithiol ym mywydau addysgol y rhai hynny sy’n derbyn gofal mewn awdurdod lleol.
Caiff y gwariant ar gyfer y Premiwm Disgybl ei arwain gan Becyn Cymorth y Sefydliad Gwaddol Addysgol sy’n cynnig canllawiau ‘sy’n seiliedig ar dystiolaeth’ (sy’n broblematig ynddo’i hun) ar effeithiolrwydd (o safbwynt ariannol ac addysgol) ymyriadau a ddyluniwyd i wella cyrhaeddiad disgyblion. Nid oes pecyn cymorth cyfwerth wedi dod i’r amlwg ar gyfer y Premiwm Disgybl ‘Mwy,’ er ei fod wedi cael ei gyflwyno i fynd i’r afael ag anghenion unigryw plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr. Heb sylfaen dystiolaeth gref na gorchymyn polisi cryf, mae modd i bob Pennaeth Ysgol Rithwir weithio a dosbarthu’r Premiwm Disgybl ‘Mwy’ yn ôl ei ddisgresiwn ei hun. Mae’n debygol iawn y bydd gwahaniaethau dosbarthiadol yn codi ar draws y wlad neu eu bod eisoes wedi codi. Heb ganllawiau sy’n canolbwyntio ar anghenion penodol y plant a’r bobl ifanc hyn, mae’n bosibl y bydd polisïau ac arferion yr ysgolion (Rhithwir), a ariennir gan y Premiwm Disgybl ‘Mwy’, mewn gwirionedd, yn gweithio i gymysgu’r gwaith o nodi plentyn neu berson ifanc fel un ‘sy’n derbyn gofal,’ yn wahanol, â’r canlyniad anfwriadol o bwysleisio anfantais addysgol (Mannay et al., 2017).
Mae fy mhrosiect doethurol yn ceisio archwilio’r ffordd y caiff y Premiwm Disgybl ‘Mwy’ ei weithredu, ynghyd â’i effeithiau. Mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar archwilio sut y mae elfennau ar rannau o bolisi cymhleth, sy’n croesi sawl ffin sefydliadol, megis y Premiwm Disgybl ‘Mwy’ yn gweithio. Yn aml iawn, mae gwaith ymchwil addysgol yn trin polisi, y gwaith o wneud penderfyniadau, arferion a phrofiadau pobl ifanc fel elfennau ar wahân ar lefelau gwahanol. Mae gennyf ddiddordeb mewn ymgymryd â dull gwahanol. Mae fy ngwaith ymchwil yn canolbwyntio ar y ffyrdd y gallai penderfyniad o ran y gyllideb mewn un man newid sut y mae person ifanc yn teimlo am: ei ysgol a’i athro/athrawes, os yw’n teimlo ei fod yn perthyn i’r ystafell ddosbarth neu beidio, neu ei hun a’i gyfleoedd o lwyddo o safbwynt addysgol. Mae defnyddio dull o’r fath yn fy ngalluogi i fod yn sensitif i natur bywydau plant a phobl ifanc sy’n gymhleth ac yn ddi-drefn yn aml, gan osgoi rhoi blaenoriaeth i bolisi dros agweddau eraill. Ar yr un pryd gallaf ystyried materion megis comisiynu mor ddifrifol â hunaniaeth person ifanc.
Yn gryno, byddaf yn olrhain prosesau’r Premiwm Disgybl ‘Mwy’ o lefel awdurdod lleol i’r plentyn/person ifanc. Byddaf yn ymdrin â’r maes yn y lle cyntaf drwy dîm yr Ysgol Rithwir, mewn un neu ddau o awdurdodau lleol yn Lloegr. Byddaf yn arsylwi, yn cyfweld ac yn cysgodi’r rolau sydd wedi’u cynnwys yn y tîm. O’r fan hon, byddaf yn ceisio meithrin perthnasau a rhwydweithiau gyda gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, ysgolion a phobl ifanc er mwyn edrych ar y ffordd y caiff y Premiwm Disgybl ‘Mwy’ ei weithredu, a’i effeithiau wrth iddo symud o’r Ysgol Rithwir. Rwy’n bwriadu cyfweld â rhanddeiliaid allweddol sy’n rhan o’r Premiwm Disgybl ‘Mwy’, a fydd yn cynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, penaethiaid ysgolion ac athrawon dynodedig. Oherwydd bod llais y bobl ifanc yn llunio rhan hanfodol o’m mhrosiect, byddaf yn hwyluso grwpiau ffocws gyda phobl ifanc a fydd yn cael eu talu gennyf, ac yn cynnal nifer o gyfweliadau un-i-un. Mae’n hanfodol fy mod i’n deall sut y mae’r bobl ifanc yn ystyried, yn gweld ac yn cael profiad o’r Premiwm Disgybl ‘Mwy’. Yn olaf, byddaf hefyd yn dadansoddi dogfennau o wefannau sawl ysgol a’u dogfennau am y Premiwm Disgybl (Mwy) i edrych ar yr hyn a ddywedir, neu beidio, am y Premiwm Disgybl ‘Mwy’.
Rwy’n credu y bydd archwilio tirwedd gymhleth y Premiwm Disgybl ‘Mwy’, yn y ffordd a nodir uchod ac yng nghyd-destun y ffordd y caiff ei weithredu a’i effeithiau, yn creu dealltwriaeth ddyfnach o’r polisi hwn. Bydd y ddealltwriaeth ddyfnach hon yn galluogi i randdeiliaid archwilio’r polisi’n feirniadol, cynnal trafodaeth am yr hyn a allai fod yn 'arfer gorau', a chreu syniadau ar gyfer newid a allai wella’r ddarpariaeth. Bydd hefyd yn galluogi i leisiau plant a phobl ifanc gael eu clywed fel bod modd i ni gydnabod pa effaith y mae’r polisi hwn yn ei chael ar eu bywydau bob dydd. Dyma fy nodau cyffredinol: bod y ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal mewn awdurdod lleol y gorau y gall fod; bod yr adnoddau sydd ar gael yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau posibl; bod lleisiau rhanddeiliaid, ac yn bwysicach fyth, lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed.
Os oes gennych ddiddordeb yn fy ngwaith, mae croeso i chi gysylltu ar bob cyfrif drwy fy nghyfeiriad ebost yn y Brifysgol, hxb372@student.bham.ac.uk, neu drwy Twitter @HMBowden. Byddai’n dda clywed gennych.
Llyfryddiaeth
Foster, D. a Long, R. (2018). The Pupil Premium. Papur Briffio, Rhif 6700. 17 Ebrill 2018. Llundain: Tŷ’r Cyffredin.
Mannay, A., Evans, R., Staples, E., Hallett, S., Roberts, L., Rees, A. ac Andrews, R. (2017) 'The Consequences of Being Labelled ‘Looked-After’: Exploring the Educational Experiences of Looked-After Children and Young People in Wales', British Educational Research Journal, 43(4), tt. 683-699.
PAC-UK (2018) Pupil Premium Plus 2018/19: A PAC-UK Education Service Guide: PAC-UK [ar-lein]. Ar gael yn: https://www.pac-uk.org/wp-content/uploads/2018/04/Pupil-Premium-Plus-Guide-booklet-V1.4.pdf (Cyrchwyd: 4 Gorffennaf 2018).
コメント