top of page

Dan Bwysau: Plant a Phobl Ifanc wedi’u Dadrithio gan Weithwyr Cymdeithasol ynghylch Cyfarfodydd Gofa

Dros y saith mlynedd ddiwethaf, rwyf i wedi bod yn ymchwilio i faint o ran sydd gan blant sydd mewn gofal yn y penderfyniadau a wneir am eu bywydau. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig mewn dysgu mwy am sut roedd un cyfarfod allweddol - yr Adolygiad o'r Plentyn mewn Gofal - yn cynnig cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan ystyrlon a chadw lefel o reolaeth yn eu bywydau.

Roedd yr ymchwil, a gynhaliwyd mewn un awdurdod lleol mawr yn Lloegr, yn edrych ar safbwyntiau plant a phobl ifanc, gweithwyr cymdeithasol, Swyddogion Adolygu Annibynnol ac uwch reolwyr.

Roedd yr adolygiadau'n rhwystredig ac yn peri straen i blant a phobl ifanc am nifer o resymau gwahanol. Dywedodd pobl ifanc fod gweithwyr cymdeithasol yn eu gorfodi i fynd i'r cyfarfodydd er bod ganddynt hawl i beidio, gan gwyno hefyd am yr amgylchedd y cynhelir y cyfarfodydd ynddo. Mae pobl ifanc yng Nghymru hefyd wedi tynnu sylw at broblemau gyda lleoliad cyfarfodydd drwy #messagestoschools. Cadeiriodd nifer fach o bobl ifanc eu hadolygiadau eu hunain ac roedd eu profiadau nhw lawer yn fwy cadarnhaol ond yn gyffredinol roedd pobl ifanc yn teimlo nad oedd ganddynt fawr o ddewis am strwythur y cyfarfod.

Roedd Swyddogion Adolygu Annibynnol a gweithwyr cymdeithasol yn cydnabod yn gyffredinol nad oedd pobl ifanc yn cael unrhyw ran yn y penderfyniad ynghylch ble i gynnal yr adolygiad, pryd, pwy oedd yn cael gwahoddiad a beth oedd ar yr agenda. Yn wir ambell waith cynhelid yr adolygiadau heb i'r bobl ifanc wybod eu bod yn digwydd hyd yn oed er mwyn bodloni amserlenni mympwyol y llywodraeth. Mae'r amserlenni wedi'u beirniadu gan lawer o academyddion gan gynnwys Eileen Munro yn ei hadolygiad o'r system diogelu plant i lywodraeth Lloegr yn 2012. Cynhaliwyd un adolygiad ar ben-blwydd person ifanc hyd yn oed er mwyn bodloni'r amserlen. Gwnaeth yr holl ffactorau hyn i bobl ifanc deimlo'n ddryslyd, eu bod yn methu neu anobeithio am gael llais yn eu gofal yn y dyfodol.

Er bod gweithwyr cymdeithasol a Swyddogion Adolygu Annibynnol yn dweud yn ystod yr ymchwil bod cyfranogiad y plant yn bwysig iawn iddyn nhw, roedd cyfweliadau'n datgelu anghysondeb rhwng hyn a gwirionedd yr adolygiadau. Roedd yn ymddangos mai cyfranogiad tocenistaidd yn unig oedd gan y bobl ifanc yn gyffredinol a bod pwysau gwaith a straen yn ei gwneud yn anodd iawn i'r gweithwyr cymdeithasol gyflawni eu swyddi'n iawn.

Rhwystr allweddol arall i ymarfer yn canolbwyntio ar y plentyn a ddaeth i'r amlwg yn yr ymchwil oedd y trosiant uchel iawn ymhlith gweithwyr cymdeithasol. Yn yr awdurdod lleol a astudiwyd, roedd llawer yn ddibrofiad iawn. Cafodd rhai plant a phobl ifanc bedwar neu bum gweithiwr cymdeithasol mewn blwyddyn ac felly nid oedd cyfle iddynt feithrin perthynas gyda nhw. Golygodd hyn nad oeddent yn ymddiried yn y gweithwyr cymdeithasol na'r awdurdod lleol yn gyffredinol.

Roedd rolau'r Swyddogion Adolygu Annibynnol yn fwy cyson gyda llawer llai o drosiant. Fodd bynnag adroddodd plant a phobl ifanc mai dim ond dwywaith y flwyddyn roedden nhw'n gweld y Swyddog Adolygu Annibynnol felly doedd fawr o gyfle i feithrin perthynas ystyrlon.

Roedd yr holl blant a phobl ifanc, gweithwyr cymdeithasol a Swyddogion Adolygu Annibynnol y siaradwyd â nhw'n ymwybodol iawn o bwysau llwyth gwaith y gweithwyr cymdeithasol a nododd un swyddog bod gweithwyr cymdeithasol 'bob amser mor brysur, brysur yn eu pennau'. Canfu'r ymchwil fod hyn yn golygu bod gweithwyr cymdeithasol yn torri corneli i fodloni amserlenni - un enghraifft oedd cynnal adolygiadau yn syth ar ôl cyfarfod Cynllun Addysg Personol, gyda'r gweithwyr cymdeithasol yn cydnabod bod hyn yn arwain at gyfarfodydd hir iawn gyda’r bobl ifanc yn diflasu ac yn ymddieithrio ymhellach.

Canfyddiad diddorol arall oedd y diffyg cyswllt oedd i'w weld rhwng barn uwch reolwyr a safbwyntiau'r holl gyfranogwyr eraill ar yr heriau sy'n wynebu gweithwyr cymdeithasol o ran llwyth achosion a phwysau llwyth gwaith. Doedd uwch reolwyr ddim fel pe baent yn gweld llwyth gwaith uchel yn broblem, er bod gan rai gweithwyr cymdeithasol yn yr awdurdod lleol lwyth o dros 40 o blant. Yn wir, pan oedd pethau'n mynd o chwith, dywedodd uwch reolwyr nad canlyniad problemau yn y system oedd hyn ond diffyg gallu gweithwyr cymdeithasol unigol.

Casgliad yr astudiaeth yw nad yw'r Adolygiad o'r Plentyn mewn Gofal yn gweithio'n dda o hyd fel cyfrwng cyfranogi. Fodd bynnag mae'r datblygiad diweddar ble mae plant a phobl ifanc yn cadeirio eu hadolygiadau eu hunain yn cynnig gobaith at y dyfodol. Gellid adeiladu ar yr arferiad hwn i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gadael gofal yr awdurdod lleol gyda'r cyfle gorau bosib i ddod yn oedolion hyderus, sefydlog, grymus. Mae'n hanfodol fod rhan fawr gan y bobl ifanc wrth benderfynu pryd i gynnal yr adolygiad, ble, pwy gaiff eu gwahodd a beth fydd ar yr agenda.

Mae Dr Clive Diaz yn ddarlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. Os oes gennych ddiddordeb yn ei waith, cysylltwch â Clive drwy ebost diazcp@caerdydd.ac.uk neu Twitter @diaz_clive

Cyhoeddiadau cysylltiedig

Diaz, C. 2018. A study into children and young people's participation in their Child in Care Reviews. http://orca.cf.ac.uk/113159/2/1046471%20Clive%20Diaz%20-%20thesis%2C%20final.pdf PD Thesis, Cardiff University.

Diaz, C. and Aylward, T. 2018. A study on senior managers’ views of participation in one local authority… a case of wilful blindness? The British Journal of Social Work https://doi.org/10.1093/social/bcy101

 
 
 

Comments


Tudalennau Dan Sylw
Tudalennau Diweddar
No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.
Archive
Search By Tags

    Contact us: +4429 2068 8722   /   Contact@ExChangeWales.org   /  CASCADE, Glamorgan Building, King Edward VII Avenue, Cardiff, CF10 3WT

    Cysylltwch â ni: +4429 2068 8722   /   Cysylltu@ExChangeCymru.org   /  CASCADE, Adeilad Morgannwg, Rhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WT

    © 2016 CASCADE / Cardiff University. Created with Wix.com

    © 2016 CASCADE / Prifysgol Caerdydd. Wedi'i chreu gyda Wix.com

    bottom of page