Ymadawyr Gofal yn Trafod Addysg
- Elaine Matchett
- Dec 12, 2018
- 3 min read
Elaine Matchett
Arweinydd Cwrs Astudiaethau Addysg (BA) ym Mhrifysgol Dinas Birmingham
Roedd mabwysiadu fy mab o’r system gofal yn 2013 yn ddechrau ar ymrwymiad personol a phroffesiynol parhaus i ddeall y materion cyffredin sy'n effeithio ar blant mewn gofal (a'r rheini a gaiff eu mabwysiadu o ofal). Yn ôl yr Adran Addysg (2017) yn Lloegr, mae 17.5% o blant mewn gofal yn cyflawni gradd C neu uwch mewn TGAU Mathemateg a Saesneg sy'n cymharu â thua 60% o'r boblogaeth gyffredinol. Gyda hyn yn fy meddwl, roeddwn i am ddeall pa agweddau o fywyd ysgol sy'n cynorthwyo plant mewn gofal i ffynnu a chyflawni yn ogystal â pha agweddau y gellid eu gwella neu ddatblygu.
Fel rhan o fy astudiaethau PhD, rwyf i wedi cyfweld â 20 o bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed sy'n gadael gofal am eu profiadau addysgol. Roedd pob cyfweliad yn wahanol wrth gwrs, ond ymddangosodd rhai themâu cyffredin:
Pwysigrwydd perthynas gydag oedolion allweddol
Natur gymhleth datgelu statws gofal i ffrindiau
Y derminoleg sy'n gysylltiedig â gofal
Addysg fel dihangfa
Y rhwystredigaeth a brofir gan y rheini nad ydynt wedi cyflawni TGAU Mathemateg a Saesneg yn 18 oed
Y nodwedd fwyaf trawiadol yn y straeon oedd ymagwedd ofalgar yr athrawon. Roedd ymadawyr gofal yn cofio enghreifftiau gwych o'r cymorth a gawsant gan athrawon yn yr ysgol uwchradd. Mae'r darn hwn o gyfweliad gyda Nicole yn dangos y gwahaniaeth y gall perthynas o'r fath ei wneud:
Nicole: Roedd gen i berthynas agos iawn gyda'r athrawes yma - roedd hi'n gofalu amdanaf i. Yr athrawes goginio oedd hi ac roedd hi mor garedig a gofalgar. Dywedodd 'edrych Nicole,' wn i ddim beth welodd hi ond dywedodd 'Dere i siarad gyda fi Nicole'. Felly fe wnes i a byddai hi'n treulio 20 munud o'i hawr ginio'n siarad gyda fi.
Elaine: Un o'r pethau rwy'n clywed llawer yw'r gwahaniaeth mae un person yn gallu ei wneud. Ai hi oedd y person yna i chi?
Nicole: Ie, rwy wedi cwrdd â hi cwpwl o weithiau ers hynny ac rwy'n diolch iddi bob tro achos fe achubodd hi fi mewn ffordd.
Elaine: Pe bai hi ddim yno fel angor a lle diogel, beth ydych chi'n meddwl allai fod wedi digwydd?
Nicole: (Ochenaid) Wn i ddim, rwy'n (saib) dwyf i ddim wedi meddwl am y peth ond fyddwn i ddim wedi gwneud gystal. Neu falle fyddwn i wedi anobeithio.
Roedd y perthnasoedd ansawdd uchel a amlygwyd gan y cyfranogwyr (ac a fynegwyd mor hyfryd gan Nicole) yn cael eu gweld yn datblygu'n naturiol a 'thros amser'. Doedd dim un o'r cyfranogwyr yn cofio perthynas gefnogol neu ofalgar gyda'u hathro dynodedig. Rhaid i berthynas ansawdd uchel fod yn ddilys a does dim modd eu cynhyrchu; rhaid eu hadeiladu ar bosibilrwydd o ymddiriedaeth (Archer, 2007). Mae Claessens et al (2017) yn awgrymu bod y perthnasoedd dilys hyn yn digwydd fel arfer y tu allan i'r dosbarth gan ddatblygu drwy ‘gysylltiadau munud wrth funud’. (t478) Pan gaiff cysylltiadau cadarnhaol eu hailadrodd dros gyfnod o amser, mae ymddiriedaeth hefyd yn bosibl. I gyflawni hyn, rhaid i athrawon fod ar gael yn rheolaidd i ddisgyblion mewn sefyllfaoedd anffurfiol a all helpu i esbonio pam nad yw athrawon dynodedig yn cael eu nodi'n oedolion allweddol gan y cyfranogwyr.
Un argymhelliad sy'n ymddangos yw y dylai rhaglenni hyfforddi athrawon osod mwy o bwyslais ar bwysigrwydd meithrin perthnasoedd cryf gyda disgyblion. Gallai dwysau dealltwriaeth hyfforddeion o ddamcaniaethau datblygiad ac ymlyniad plant alluogi mwy o athrawon i gynnig y cymorth sydd wedi bod mor werthfawr i'r ymadawyr gofal y cyfwelwyd â nhw.
Os oes gennych ddiddordeb yn y syniadau a grybwyllir yma neu ymchwil tebyg cysylltwch â fi (Elaine Matchett): elaine.matchett@bcu.ac.uk
Cyfeirnodau
Archer, M. 2007. Making our Way through the World. Cambridge: Cambridge University Press.
Claessens, L., Tartwijk, J., Want, A., Pennings, H., Verloop, N., Brok, P. a Wubbels, T. 2017. Positive teacher–student relationships go beyond the classroom, problematic ones stay inside. The Journal of Educational Research. 110(5): 478-493.
Department for Education 2017. Children looked after in England (including adoption) year ending 31 March 2017. London: Department for Education.
Comments